Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 yn cael ei chyhoeddi heddiw.
Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw adlewyrchu'r newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Derfynol 2022-23 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth.
Mae'n nodi nifer o ddyraniadau o'n cronfeydd wrth gefn ac yn adlewyrchu newidiadau i linellau sylfaen oherwydd effaith digwyddiadau cyllidol Llywodraetth y DU.
Bydd y Gyllideb Atodol yn destun dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 12 Gorffennaf.