Neidio i'r prif gynnwy

Sut rydym yn rheoli lluniau, fideos a recordiadau sain a dynnir neu a dderbynnir gan Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer cyhoeddiadau.

Mae'r hysbysiad hwn yn rhoi gwybod i chi sut y byddwn yn defnyddio lluniau, fideos neu sain, a dderbyniwn fel rheolydd data, at y dibenion canlynol.

Sut rydym yn defnyddio eich data

Rydym yn defnyddio eich data personol i ddarparu gwybodaeth am ein gweithgareddau a’n hymchwil a’u hyrwyddo ar gyfer:

  • cyhoeddiadau
  • cyflwyniadau
  • arddangosfeydd
  • arddangosiadau
  • y cyfryngau cymdeithasol
  • gwefannau

Cyflawnir y dibenion hyn gyda’ch caniatâd clir (ffurflen rhyddhau enghreifftiol) i brosesu eich data clywedol neu weledol personol at ddiben penodol.

Diogelu eich gwybodaeth

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch yn cael ei chasglu, ei storio a’i throsglwyddo’n ddiogel.

Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth amdanoch chi gydag eraill pan fo’n: 

  • gyfreithlon gwneud hynny 
  • angenrheidiol ar gyfer diben penodedig

Faint o amser byddwn yn cadw eich data

Byddwn yn cadw eich data at y dibenion a nodir yn yr hysbysiad hwn.

Bydd y lluniau, y fideos a'r sain sydd gennym yn cael eu hadolygu bob 3 blynedd a bydd unrhyw ddeunydd nad yw bellach yn addas i'w ddefnyddio yn cael ei ddileu a'i ddinistrio.

Eich hawliau

Mae GDPR y DU yn rhestru hawliau penodol sy'n berthnasol i chi pan gaiff eich data personol ei storio a'i ddefnyddio fel y soniwyd uchod.

Mae gennych hawl i:

  • gyrchu'r data personol rydyn ni'n ei brosesu amdanoch chi
  • gofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • i wrthwynebu prosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • i'ch data gael ei ‘ddileu’
  • cwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Cyswllt

Ar gyfer unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad hwn neu eich hawliau, gan gynnwys tynnu’r caniatâd a roddwyd gennych yn ôl, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data.

Swyddog Diogelu Data

Awdurdod Cyllid Cymru
Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Dylid anfon cwynion hefyd at y cyswllt hwn yn y lle cyntaf. Gallwch hefyd gwyno'n uniongyrchol wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Yr ICO yw awdurdod goruchwylio'r DU ar gyfer materion diogelu data.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru

Tŷ Churchill
17 Heol Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif ffôn: 029 2067 8400 / 0303 123 1113

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Bydd unrhyw newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cael eu diweddaru ar y dudalen hon; er enghraifft, unrhyw ddefnydd newydd o ddata personol.

O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi drwy ddulliau eraill ynglŷn â phrosesu eich data personol.