Mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi rhybuddio yn ei adroddiad blynyddol bod newid hinsawdd yn peri ‘risg ddifrifol i iechyd’ y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn edrych ar ail flwyddyn y pandemig, yn ogystal ag edrych ar heriau’r dyfodol.
Mae pedair pennod yn yr adroddiad sy’n canolbwyntio ar y canlynol:
- sut y bydd newid hinsawdd yn dod yn fater dybryd o ran iechyd y cyhoedd, a fydd yn rhan gynyddol o’n bywydau
- mae poblogaeth Cymru yn parhau i dyfu, ac mae’n boblogaeth sy’n heneiddio yn bennaf, gyda gostyngiad yn y boblogaeth oed gweithio
- effaith y pandemig ar ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, cyfraddau marwolaeth a disgwyliad oes
- sut y gwnaeth y system iechyd a gofal cymdeithasol ymateb i’r pandemig, o ran y pwysau oedd arni, ac hefyd y gwersi a ddysgwyd a’r ffyrdd newydd o weithio.
Yn y bennod ar iechyd cyhoeddus amgylcheddol, mae’r adroddiad yn rhybuddio bod cynnydd mewn tywydd anarferol, megis gwres neu oerfel eithafol, a llifogydd, yn debygol o gael effaith anghymesur ar y bobl fwyaf agored i niwed sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig, gan waethygu anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli o ran iechyd y cyhoedd.
Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol, Frank Atherton:
“Mae’r ddadl iechyd cyhoeddus dros gymryd camau i fynd i’r afael â newid hinsawdd bellach yn un gref.
“Bydd newid hinsawdd yn dod yn rhan gynyddol o’n bywydau yn y dyfodol agos a bydd y manteision sy’n deillio o ymyraethau effeithiol dipyn yn fwy na’r gost.
“Gwyddom fod y pandemig wedi cael effaith anghymesur ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac wedi cael yr effaith fwyaf ar ein poblogaeth sy’n heneiddio.
“Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad yw newid hinsawdd yn cael yr un canlyniadau dinistriol.”
Mae adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol yn rhybuddio mai dim ond drwy liniaru ac addasu y gallwn ymateb i effeithiau newid hinsawdd.
Mae mesurau lliniaru yn cynnwys lleihau safleoedd sy’n cynhyrchu nwyon tŷ gwydr niweidiol, tra bod addasu’n golygu bod unigolion, sefydliadau a chymunedau’n deall ac yn gwneud newidiadau i ymateb i effeithiau tebygol newid hinsawdd.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James:
“Newid hinsawdd yw’r argyfwng mwyaf rydyn ni’n ei wynebu. Mae ein Prif Swyddog Meddygol nawr yn rhybuddio sut y bydd yn effeithio’n uniongyrchol ar iechyd y cyhoedd yn ei adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.
“Mae ein cynlluniau uchelgeisiol i sicrhau Cymru Sero Net a datgarboneiddio’r GIG wedi ein rhoi ar y llwybr i leihau effeithiau gwaethaf newid hinsawdd a diogelu ein cymunedau mwyaf agored i niwed rhag cario’r baich.
“Ond mae angen i bob un ohonom weithredu. Dim ond drwy gydweithio mewn ymdrech Cymru ar y Cyd y gallwch sicrhau Cymru iach, hapus a gwyrdd i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau.”
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:
“Mae effeithiau newid hinsawdd ar yr amgylchedd ar draws y byd yn glir ac maen nhw’n fygythiad sylweddol i iechyd y cyhoedd.
“Gall newid hinsawdd effeithio ar fynediad at yr anghenion iechyd mwyaf sylfaenol, gan gynnwys aer glân, dŵr diogel a digon o fwyd.
“Rhaid inni weithredu nawr i atal newid hinsawdd rhag cael effaith ddinistriol ar y bobl fwyaf agored i niwed.”
Bydd addysgu plant a phobl ifanc am y camau cadarnhaol y gallant eu cymryd i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn hanfodol i genedlaethau’r dyfodol.
Mae Eco-Ysgolion yn rhaglen unigryw sy’n rhoi lle canolog i newid amgylcheddol sy’n cael ei yrru gan ddisgyblion. Mae’n rhoi llwyfan i ddisgyblion o bob oed ddod at ei gilydd i nodi’r gwelliannau amgylcheddol, llunio cynllun a gweld pa effaith maen nhw’n ei chael.
Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Cymru’n Daclus, sy’n rhedeg Eco-Ysgolion:
“Eco-Ysgolion yw’r rhaglen ysgolion cynaliadwy fwyaf yn y byd, sy’n rhoi lle canolog i newid amgylcheddol sy’n cael ei yrru gan ddisgyblion. Mae’n ysbrydoli pobl ifanc mewn ysgolion, waeth beth fo’u cefndir, i weithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
“Ar hyn o bryd, mae gan dros 800 o ysgolion ledled Cymru faner werdd nodedig Eco-Ysgolion, ac mae cannoedd yn fwy yn gweithio tuag at y wobr. Mae hyn yn dangos bod awydd mawr ymhlith ysgolion i fod yn rhan o’r symudiad i fynd i’r afael â newid hinsawdd.”
“Yn Eco-Ysgolion, gwyddom fod angen i bobl ifanc nawr, yn fwy nag erioed, deimlo’n hyderus eu bod yn gallu gwneud gwahaniaeth, gan mai eu dyfodol nhw sydd yn y fantol.”