Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi cyhoeddi ei Gynllun Corfforaethol nesaf heddiw (16 Mehefin), ar ôl codi mwy na £1 biliwn i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ystod ei 4 blynedd gyntaf o weithredu.
Mae Cynllun Corfforaethol 2022 i 2025 yn amlinellu cynlluniau’r awdurdod refeniw ar gyfer y 3 blynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys rheoli 2 dreth ddatganoledig, y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a chefnogi Llywodraeth Cymru ar ddyluniad trethi i Gymru ar gyfer y dyfodol.
Mae'r cynllun corfforaethol, a gymeradwywyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, yn nodi datganiad o ddiben, amcanion strategol a mesurau perfformiad. Mae hefyd yn ymdrin â dull dwy-ffordd ACC o reoli treth, sydd wedi’i chynllunio er mwyn helpu i gasglu’r dreth iawn ar yr adeg iawn.
Meddai Rebecca Evans, y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Rwy'n croesawu cyhoeddi cynllun corfforaethol Awdurdod Cyllid Cymru. Mae'n nodi sut y bydd y sefydliad yn parhau i chwarae rhan bwysig o ran ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru, ac wrth gefnogi'r gwaith o gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu.
Dywedodd Kathryn Bishop, Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru:
Rydym wedi adeiladu sylfeini cadarn fel awdurdod refeniw drwy weithio ag eraill, yn fewnol ac yn allanol.
I’r dyfodol, byddwn yn parhau i gydweithio ag eraill er mwyn helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus, codi refeniw, a chwarae ein rhan mewn darparu system drethu deg i Gymru.
Meddai Dyfed Alsop, Prif Weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru:
Rydym yn sefydliad cymharol newydd o hyd ac rydym yn dal i wneud rhai pethau am y tro cyntaf. Ond mae gennym bellach brofiad o weithredu a rhedeg gwasanaethau refeniw.
Byddwn yn defnyddio’r profiad hwn i barhau i ysbrydoli ein dull o drethu – gan helpu pobl i dalu’r dreth iawn ar yr amser iawn. Byddwn hefyd yn defnyddio ein data a’n harbenigedd i helpu i gefnogi Llywodraeth Cymru ddatblygu trethi i Gymru ar gyfer y dyfodol.