A hithau’n bumed pen-blwydd tân trasig Tŵr Grenfell rydym yn cofio'r 72 o bobl a fu farw’n rhy gynnar.
Mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod anodd iawn i lawer. Mae ein meddyliau heddiw gyda theuluoedd a ffrindiau pawb a gollodd eu bywydau a phawb yr effeithiwyd arnynt gan drasiedi Grenfell.
Mae'n ein hatgoffa'n gyson o bwysigrwydd cartref diogel.
Mae hyn wrth wraidd ein gwaith parhaus i atgyweirio a diwygio diogelwch adeiladau yng Nghymru.
I ni, nid yw'r gwersi o Grenfell wedi'u cyfyngu i gael gwared ar gladin peryglus nac i adeiladau uchel yn unig. Maent yn ymestyn i roi terfyn ar y system safonau diogelwch a rheoleiddio a oedd yn caniatáu i gorneli gael eu torri.
Nid bai tenantiaid na lesddeiliaid yw hyn ac ni ddylent orfod talu costau atgyweiriadau. Mater i ddatblygwyr yw ysgwyddo eu cyfrifoldebau ac atgyweirio'r adeiladau yr effeithiwyd arnynt a adeiladwyd ganddynt. Mae'r egwyddorion craidd hyn yn berthnasol ar draws ein rhaglen diogelwch adeiladu.
Rydym wedi mabwysiadu ffordd o weithio eang a sylfaenol o gyweirio problemau adeiladu sy'n bodoli eisoes. Mae ein gwaith yn mabwysiadu dull adeilad cyfan, gan gynnwys mynd i'r afael â methiannau compartmentau a, lle bo'n ymarferol, gosod systemau llethu tân.
Rydym hefyd yn datblygu rhaglen ddiwygio sylweddol a fydd yn arwain at ddeddfwriaeth gynhwysfawr yn ddiweddarach y tymor hwn. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod adeiladau'r dyfodol yn ddiogel ac wedi'u hadeiladu'n dda.
Rydym yn rhoi lleisiau pobl wrth wraidd ein diwygiadau a byddwn yn darparu cyfundrefn diogelwch adeiladau gynhwysfawr sy'n sicrhau bod adeiladau'n cael eu hadeiladu yn ôl safonau diogelwch trwyadl ac yn rhoi hyder i breswylwyr eu bod yn byw mewn cartrefi diogel.