Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Yn fy nghyhoeddiad blaenorol am sefydlu'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, nodais y byddai modd i’r Comisiwn gomisiynu gwaith ymchwil a dadansoddi a barn arbenigol drwy Banel o Arbenigwyr a gâi ei sefydlu at y diben hwnnw ac addewais roi gwybod ichi pan fyddai'r panel wedi'i benodi.
Felly, dyma roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y penodiadau. Bydd y panel yn cynnwys yr aelodau canlynol:
Jess Blair - Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru
Yr Athro Emyr Lewis – Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth
Auriol Miller – Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig
Akash Paun – Pennaeth rhaglen ddatganoli’r Institute for Government
Dr Hugh Rawlings – Cyn-Gyfarwyddwr Materion Cyfansoddiadol yn Llywodraeth Cymru
Yr Athro Mairi Spowage – Athro Ymarfer a Chyfarwyddwr y Fraser of Allander Institute
Yr Athro Diana Stirbu – Athro Polisi a Llywodraethiant ym Mhrifysgol Fetropolitan Llundain
Gareth Williams (Cadeirydd) – Cyn-Gynghorydd Arbennig i Lywodraeth Cymru ar Bontio Ewropeaidd
Dewiswyd aelodau'r Panel Arbenigol gan ymgynghori â'r Comisiwn, gan adlewyrchu eu barn ar y pynciau lle byddai’r Comisiwn yn elwa ar arbenigedd arbenigol. Hoffwn gofnodi fy niolch diffuant i bawb sydd wedi cytuno i gefnogi'r Comisiwn yn ei waith drwy gymryd rhan yn ei Banel Arbenigol. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am unrhyw benodiadau i'r Panel Arbenigol yn y dyfodol.