Data ar yr ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio o wastraff trefol ar gyfer Hydref i Ragfyr 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Adroddiad rheoli gwastraff trefol awdurdod lleol
Roedd y cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) (gweler y wybodaeth ychwanegol isod).
Mae canran y gwastraff trefol awdurdod lleol a gafodd ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio yng Nghymru wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y ddwy ddegawd ddiwethaf (o tua 5% yn yr 1990au hwyr).
Ionawr i Ragfyr 2021
- Cafodd 65.5% o wastraff trefol ei ailddefnyddio / ailgylchu / compostio, cynnydd bach o’i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 2020. Roedd hefyd yn gynnydd o 64.7% ym mis Rhagfyr 2019, cyn pandemig COVID-19.
Hydref i Ragfyr 2021
- Cafodd 64% o wastraff trefol ei ailddefnyddio / ailgylchu / compostio, yr un ganran â’r chwarter cyfatebol yn 2020 ond cynnydd o 1 pwynt canran ar yr un chwarter yn 2019.
- Cynhyrchwyd 350,000 tunnell o wastraff trefol, gostyngiad o 3% o’i gymharu â’r un chwarter yn 2020 a'r un tunelledd ar y chwarter cyfatebol yn 2019.
Mae’r ffigyrau yn seiliedig ar ddata dros dro, a gyhoeddir yn chwarterol. Cyhoeddir data terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol yn flynyddol.
Roedd y cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Amharodd y pandemig ar y casgliad data gwastraff awdurdodau lleol. Achosodd hyn anghysondebau yn y setiau data chwarterol. Mae'r amhariad wedi amrywio rhwng awdurdodau lleol, yn dibynnu ar yr amgylchiadau sy'n effeithio ar eu rheolaeth gwastraff unigol. Er nad oedd y rhan fwyaf o’r cyfnod Hydref i Ragfyr 2021 yn gyfnod clo, roedd sawl ffactor a allai fod wedi effeithio ar reoli gwastraff ar draws yr awdurdodau lleol. Mae effeithiau posibl yn cynnwys newidiadau i gyfleusterau a chyflenwyr, gweithwyr ddim yn gorfod gweithio gartref mwyach, prinder staff, a chyfrif am wastraff a allai fod wedi'i gadw o'r blaen. Mae'n werth nodi hefyd fod Cymru wedi cyrraedd lefel rhybudd 4 ar 12 Rhagfyr 2021. Mae'r materion hyn yn golygu ei bod yn anodd cymharu rhwng awdurdodau lleol yn ogystal â chwarteri blaenorol.
Nodiadau
Cesglir data ar reolaeth gwastraff er mwyn monitor cynnydd yn erbyn targedau lleol a chenedlaethol; yn benodol yn erbyn gofynion Y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a’r Gyfarwyddeb Tirlenwi. Yn y strategaeth gwastraff cyfredol ‘Mwy nag ailgylchu’ (2021) mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ailgylchu statudol o 64% o wastraff erbyn 2019-20 a 70% erbyn 2024-25.
Daw’r data or system WasteDataFlow sy’n cael ei fonitro gan Adnoddau Naturiol Cymru. Mae gwybodaeth ansawdd ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.