Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Ar 28 Ebrill 2022, cafodd Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd Llywodraeth y DU (“y Ddeddf”) y Cydsyniad Brenhinol. Mae taith y Ddeddf drwy'r cyfnodau Seneddol wedi bod yn helaeth. Fel yr amlinellais yn fy Natganiad Ysgrifenedig diwethaf ar 20 Ebrill 2022, gosodwyd nifer o Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol (LCM) a chynhaliwyd dwy ddadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Senedd ar 18 Ionawr 2022 a 1 Mawrth 2022. Mae'r broses hir hon yn adlewyrchu ehangder a chymhlethdod nifer y meysydd cymhwysedd deddfwriaethol datganoledig y mae'r darpariaethau yn y Ddeddf wedi effeithio arnynt.
Darpariaethau yn y Ddeddf yr ydym wedi'u cefnogi
Rwyf wedi sicrhau bod llais Cymru'n cael ei glywed a'i ystyried ar bob cam o daith hir y Bil. Rwyf yn falch bod rhai o'r darpariaethau yn y Ddeddf yn gwneud newidiadau synhwyrol a phwysig i'r system cyfiawnder troseddol, ac y byddant yn gwella diogelwch cymunedau yng Nghymru.
Cafwyd rhai llwyddiannau nodedig yn ystod camau seneddol y Ddeddf, gyda Llywodraeth Cymru yn llwyddo i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU i wneud gwelliannau i ddarpariaethau'r Ddyletswydd Trais Difrifol. Yn y LCM a osodais ar 28 Mai 2021, gofynnais i'r Senedd ddal cydsyniad i'r cymal hwn yn ôl, oherwydd ein pryderon y byddai'n rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo awdurdod datganoledig Cymreig heb i Weinidogion Cymru gael eu cynnwys yn briodol. Yn dilyn ymgysylltiad, aeth Llywodraeth y DU i'r afael â'n pryderon a gosodwyd a chytunwyd ar welliant yng Nghyfnod Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi ar 27 Hydref 2021. Mae'r gwelliant hwn yn golygu bod rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn cyfarwyddo awdurdod Cymreig datganoledig. Ar 5 Tachwedd 2021, gosodais LCM Atodol, yn cefnogi'r gwelliant hwn ac yn gofyn i'r Senedd roi cydsyniad i'r darpariaethau Trais Difrifol.
Gwnaed cynnydd pellach pan gytunodd Llywodraeth y DU ar welliant i ehangu'r diffiniad o drais difrifol i gynnwys cam-drin domestig fel y'i diffinnir yn Neddf Cam-drin Domestig 2021 a throseddau rhywiol fel y'u diffinnir yn Neddf Troseddau Rhywiol 2003. Mae'r ehangiad hwn yn golygu y bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol, yr heddlu, awdurdodau tân ac achub, asiantaethau cyfiawnder troseddol penodedig ac awdurdodau iechyd gynnwys cam-drin domestig a thrais rhywiol yn eu strategaethau trais difrifol o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol.
Mae darpariaethau eraill hefyd yn y Ddeddf yr ydym yn eu cefnogi, gan gynnwys cyflwyno trosedd newydd o voyeuriaeth bwydo ar y fron a newidiadau i'r Deddfau helwriaeth a photsio i atal ymlid ysgyfarnogod. Mae diddymu Deddf Crwydraeth 1824 yn ddarpariaeth gadarnhaol arall, sy'n rhoi cyfle i greu amgylchedd newydd nad yw bellach yn troseddoli yn ddiangen pobl sy'n cysgu ar y stryd ac yn cardota. Yr oeddwn yn falch bod y Senedd wedi pleidleisio i roi cydsyniad i'r cymal hwn yn y ddadl ar Gydsyniad Deddfwriaethol a gynhaliwyd ar 1 Mawrth.
Darpariaethau yn y Ddeddf yr ydym wedi'u gwrthwynebu
Er hynny, mae darpariaethau o fewn y Ddeddf na all Llywodraeth Cymru eu cefnogi ac rwyf wedi parhau i wneud fy safbwynt ar y rhain yn glir iawn i Lywodraeth y DU. Mae'r darpariaethau Gwersylloedd Diawdurdod yn canolbwyntio ar orfodi a throseddoli, sy'n tanseilio ac yn peryglu ffordd o fyw led-nomadaidd Sipsiwn a Theithwyr. Mae dull Llywodraeth Cymru o reoli gwersylloedd diawdurdod wedi canolbwyntio ar ymgysylltu â chymunedau a buddsoddi ar gyfer darpariaeth ddigonol o safleoedd awdurdodedig a galluogi awdurdodau lleol i fodloni gofynion llety (preswyl a chludiant) cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Mae’r maes gwaith hwn yn cael blaenoriaeth unwaith eto yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru, sy’n cynnwys nod penodol ar fynd i’r afael yn well ag anghenion llety'r cymunedau hyn.
Mae'r Ddeddf hefyd yn cynnwys darpariaethau a fyddai'n cyfyngu ar yr hawl i brotestio. Fel llywodraeth, rydym wedi gwneud safiad clir o blaid yr hawl sifil bwysig hon, ac adlewyrchwyd hyn yn ein LCMs, ein datganiadau ysgrifenedig ac yn ein gohebiaeth i Lywodraeth y DU. Cafodd ein safbwynt ar y darpariaethau hyn ei gefnogi a'i adleisio gan Aelodau'r Senedd pan gawsant eu trafod ar 18 Ionawr a 1 Mawrth 2022, pan bleidleisiodd y Senedd yn unol â'm hargymhelliad i ddal cydsyniad i'r darpariaethau hyn yn ôl. Cafodd darpariaethau yn y Ddeddf sy'n ymwneud â gosod amod ar orymdeithiau cyhoeddus, gosod amodau ar gynulliadau cyhoeddus a gosod amodau ar brotestiadau un person eu pleidleisio i lawr droeon yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Barn Llywodraeth y DU, fel y'i nodwyd yn Nhrydydd darlleniad Tŷ'r Arglwyddi ar 25 Ionawr gan y Gweinidog Gwladol, y Swyddfa Gartref (y Farwnes Williams o Trafford), yw bod y darpariaethau trefn gyhoeddus a gwersylloedd diawdurdod yn y Bil yn ymwneud â materion a gedwir yn ôl ac felly nad oeddent yn sbarduno'r broses LCM, nac yn wir yn gofyn am gydsyniad deddfwriaethol. Roedd hwn yn ymateb siomedig, ac roedd yn drist gweld y cymalau hyn yn cael eu cynnwys yn y Ddeddf derfynol. Rydym wedi bod yn gweithio gyda'n cydweithwyr yn yr heddlu ar sut i roi'r Ddeddf ar waith, gan ddefnyddio ein partneriaethau cryf a gwerthfawr i sicrhau eu bod yn cael eu gorfodi yn unol â'n dull blaengar o ymdrin â materion cyfiawnder yng Nghymru a'n cyd-destun deddfwriaethol neilltuol.
Cefnogi’r gwaith o roi'r Ddeddf ar waith yn effeithiol
Ers i'r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, rydym wedi canolbwyntio ar roi'r Ddeddf ar waith a sicrhau bod hyn yn creu'r canlyniadau gorau posibl i Gymru. Yn benodol, mae fy swyddogion wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU, Uned Atal Trais Cymru, Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru a phartneriaid allweddol eraill ar ddrafftio'r canllawiau statudol ar gyfer y Ddyletswydd Trais Difrifol. Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys pennod benodol ar gyflawni'r Ddyletswydd yng Nghymru, gan sicrhau natur ddatganoledig polisi a thirwedd gyfreithiol Cymru. Bydd y gwaith hwn yn helpu sefydliadau yng Nghymru i ddiogelu cymunedau ac atal trais difrifol.
Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar roi'r Ddyletswydd a'r Ddeddf yn ei chyfanrwydd ar waith. Mae agweddau allweddol eraill ar ein gwaith ar y Ddeddf yn cynnwys:
- Gweithio gydag arweinwyr yr heddlu ar weithredu Cyfamod yr Heddlu, a ddaeth yn gyfraith fel rhan o'r Ddeddf, yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn sicrhau bod staff yr heddlu yn cael mynediad cyfartal at wasanaethau yng Nghymru.
- Ymgysylltu ar ddatblygu deddfwriaeth olynol ar gyfer y Ddeddf Crwydraeth sy'n cael ei datblygu fel rhan o'r Bil Ffyniant Bro ac Adfywio a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar 11 Mai 2022.
- Cefnogi'r cynllun peilot o'r broses o Adolygu Lladdiad gydag Arfau Ymosodol yng Nghymru, fel rhan o'r broses o weithredu ein proses Adolygiad Diogelu Unedig Sengl ehangach.
Cyflwyno'r Bil Trefn Gyhoeddus
Yn ogystal, ar ôl i'r Ddeddf gael ei phasio ar 11 Mai 2022, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno Bil Trefn Gyhoeddus newydd. Mae'r Bil Trefn Gyhoeddus yn adfer nifer o'r cymalau ar brotest a bleidleisiwyd i lawr gan Dŷ'r Arglwyddi yn ystod hynt y Ddeddf, gan gynnwys y drosedd o gloi (er enghraifft, eich clymu eich hun gyda gefynnau i wrthrych neu berson arall), rhwystro gwaith trafnidiaeth mawr ac ymyrryd â seilwaith cenedlaethol allweddol. Mae hon yn ymgais dryloyw i wasgu'r hawl i brotestio a rhyddid ymadrodd sydd mor bwysig i'n cymdeithas, ac yn dangos yr ymagwedd siomedig ac anflaengar sy'n cael ei mabwysiadu gan Lywodraeth y DU.
Mae'r darpariaethau yn y Bil fel y maent wedi'u drafftio ar hyn o bryd yn ddarpariaethau a gedwir yn ôl ac felly nid ydynt yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gymryd rhan yn y broses LCM. Er nad oes cyfle ar hyn o bryd i osod LCM, hoffwn achub y cyfle hwn i fynegi fy marn yn glir am y Bil Trefn Gyhoeddus. Mae'r darpariaethau hyn yn dal i lesteirio hawliau pobl i brotestio ac nid yw fy safbwynt ar y mater hwn wedi newid. Mae'n hanfodol bod gan bobl yr hawl o hyd i leisio eu barn a mynegi eu pryderon yn ddi-rwystr. Byddaf yn parhau i ddefnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i mi ac i'r llywodraeth hon i gefnogi'r hawl i brotestio.