Diweddariadau fframwaith.
Cytundeb System Brynu Ddeinamig (DPS) Offerynnau Cerdd
Ar 13 Mehefin, bydd y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AS, yn ymweld â Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful (MTIB), un o’r safleoedd cydosod ar gyfer Offeryn Cerddorol pBuzz.
Mae MTIB Elite Solutions a Warwick Music wedi ffurfio Consortia, PMusic Cymru. Dyfarnwyd lle i PMusic Cymru o dan y categori a neilltuwyd ar gyfer gweithdai cyflogaeth gwarchodol ar ein cytundeb DPS offerynnau cerdd.
Drwy'r lot a neilltuwyd, bydd 35,000 o offerynnau pres pBuzz lefel mynediad yn cael eu dosbarthu i Awdurdodau Lleol Cymru yn barod ar gyfer y tymor academaidd newydd ym mis Medi.
I gael rhagor o wybodaeth am y DPS offerynnau cerdd, ewch i GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi).
Cyflenwi deunyddiau glanhau a PPE
Mae'r cytundeb dyfarnu uniongyrchol ar gyfer cyflenwi deunyddiau glanhau a PPE (NPS-CFM-0105-20) gyda'r cyflenwr, CCS Mclays Ltd, yn dod i ben ar 4 Mehefin 2022. Am ganllawiau fframwaith cyfredol, ewch i GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi).
Atebion o ran dodrefn
Rydym wedi cytuno ar brisiau newydd gyda Ministry of Furniture ar ein fframwaith atebion o ran dodrefn (NPS-CFM-0092-18) ar gyfer y rhestr graidd o gynhyrchion o dan Lot 2: Dodrefn addysgol a Lot 3: Lot wedi’i neilltuo. Mae'r prisiau newydd yn dechrau ar 1 Mehefin 2022. I gael y rhestrau prisio diweddaraf, ewch i'r gofrestr contractau ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi).