Mae angen inni wneud gwelliannau diogelwch i’r bont hon.
Trosolwg
Bydd Pont Menai yn ailagor i’r holl draffig o 02 Tachwedd 2024. Bydd y cyfyngiad 7.5 tunnell yn cael ei ddileu dros dro tan fis Chwefror 2025. Dylai hyn fod o fudd i'r gymuned leol a'r ardal gyfagos. Bydd angen ailgyflwyno'r cyfyngiad pwysau 7.5 tunnell pan fydd y gwaith Cam 2 yn dechrau ym mis Mawrth 2025.
Gweler yr A5 Pont Menai: cwestiynau cyffredin am y wybodaeth ddiweddaraf.
Beth ydyn ni’n ei wneud
Mae UK Highways A55 Ltd wedi cwblhau eu gwaith Cam 1 (Amnewid Rhodenni Fertigol) yn llwyddiannus. Bydd gwaith Cam 2 (Ailbeintio o dan y dec) yn dechrau ym mis Mawrth 2025.
Pam ydyn ni’n gwneud hyn
Bydd y gwaith ailbeintio o dan y dec yn sicrhau bod y bont yn parhau mewn cyflwr da ac yn ddiogel i’r holl ddefnyddwyr. Bydd hefyd yn gwella ei ymddangosiad gweledol.
Camau nesaf
Bydd y gwaith ailbeintio Cam 2 yn dechrau ym mis Mawrth 2025. Bydd yn cael ei gwblhau mewn pryd ar gyfer ei 200 mlwyddiant yn 2026.
Datblygwyd y rhaglen adeiladu gan UK Highways A55 Ltd. Maent yn gweithredu ac yn cynnal a chadw’r bont ar ran Llywodraeth Cymru drwy Gontract Dylunio, Adeiladu, Ariannu a Gweithredu (DBFO) Menter Cyllid Preifat (PFI). Mae'r cynlluniau wedi cael eu trafod gyda rhanddeiliaid.
Ni wnaethom gau'r bont yn gyfan gwbl yn ystod y gwaith Cam 1, yn hytrach cawsant eu dylunio fel bod un lôn yn parhau ar agor bob amser trwy ddefnyddio goleuadau traffig. Rydym yn rhagweld y bydd gwaith Cam 2 yn adlewyrchu'r trefniant hwn.
Bydd goleuadau traffig yn parhau i gael eu gweithredu â llaw yn ystod oriau brig, er mwyn caniatáu rheoli traffig mor effeithlon â phosibl tra bod y gwaith yn digwydd.
Mae gwaith Cam 2 yn cwmpasu amrywiaeth o waith cynnal a chadw, y mae angen offer anhydrin mawr ar y rhan fwyaf ohonynt, na ellir eu tynnu oddi ar y bont yn hawdd neu'n gyflym.
Felly bydd y rheolaeth traffig ar waith 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ar gyfer y rhaglen waith lawn.
Rydym yn disgwyl i'r holl waith angenrheidiol gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Rhagfyr 2025 (yn dibynnu ar y tywydd). Bydd hyn yn sicrhau bod Pont Menai yn barod ar gyfer ei 200 mlwyddiant yn 2026.
Er mwyn cwblhau'r gwaith erbyn y dyddiad hwn, bydd angen i’r gwaith gael ei wneud yn ystod cyfnodau gwyliau, gan gynnwys y Pasg, hanner tymor yr ysgolion a gwyliau'r haf. Bydd hyn yn caniatáu i'r gwaith gael ei gwblhau cyn gynted â phosibl a lleihau effaith oedi ar y rhaglen oherwydd y tywydd drwy weithio ar adegau pan fo’r tywydd yn well yn draddodiadol. Ni fydd gwaith yn cael ei wneud yn ystod gwyliau'r Nadolig nac ar wyliau banc.
Bydd cyfyngiad pwysau o 7.5t yn parhau ar Bont Menai yn ystod gwaith Cam 2. Unwaith y bydd yr holl waith wedi'i gwblhau, bwriedir i’r cyfyngiad pwysau o 7.5t gael ei ddileu.