Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol cynnal adolygiad o'r rheoliadau coronafeirws bob tair wythnos. Roedd yr adolygiad tair wythnos diweddaraf i gael ei gwblhau erbyn 26 Mai.
Dros y tair wythnos diwethaf, mae’r sefyllfa iechyd y cyhoedd wedi parhau i wella. Mae’r canlyniadau diweddaraf o Arolwg Heintiadau Coronafeirws yr ONS yn dangos bod canran y bobl sy’n profi’n bositif am COVID-19 yng Nghymru yn lleihau. Rydym yn gweld tuedd tebyg mewn lleihad trosglwyddiad cymunedol ar draws y DU.
Mae nifer y cleifion COVID-19 yn yr ysbyty hefyd wedi lleihau yn ystod y tair wythnos diwethaf i lai na 700, a dyma’r lefel isaf ers 28 Rhagfyr 2021. Mae’r duedd hon yn galonogol, ond mae’r GIG yn parhau i fod o dan bwysau o ganlyniad i gyfuniad o bwysau argyfwng a phandemig, gyda nifer sylweddol o absenoldebau staff yn gysylltiedig â COVID.
Yn yr wythnos ddiwethaf, mae pedwar prif swyddog meddygol y DU a chyfarwyddwr meddygol GIG Lloegr wedi argymell y dylid symud lefel rhybudd COVID y DU o lefel pedwar i lefel tri ar y sail bod y don BA.2 omicron bresennol yn cilio.
Fodd bynnag, maent wedi rhybuddio y gallwn ddisgwyl i achosion gynyddu o ganlyniad i amrywiolion coronafeirws newydd – BA.4 a BA.5. Er hynny, mae pedwar prif swyddog meddygol y DU wedi dweud ei bod yn annhebygol y bydd y rhain yn arwain at bwysau COVID uniongyrchol sylweddol yn y dyfodol agos.
Nid yw’r pandemig ar ben, ond mae’r sefyllfa iechyd y cyhoedd ar hyn o bryd yn cyd-fynd â sefyllfa COVID Sefydlog fel y nodwyd yn ein cynllun Gyda'n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel.
Ar ôl adolygu’r dystiolaeth iechyd y cyhoedd ddiweddaraf, yn ogystal â chyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru a’n Cell Cyngor Technegol, mae’r Cabinet wedi penderfynu y bydd y cyfyngiad cyfreithiol olaf yn dod i ben, sef y cyfyngiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn dod i ben ar ddiwedd y dydd ar 30 Mai.
Rydym yn parhau i argymell yn gryf fod pawb sy’n mynd i leoliadau iechyd yng Nghymru yn gwisgo gorchudd wyneb i helpu i ddiogelu’r bobl fwyaf agored i niwed a’r staff sy’n gweithio yn y lleoliadau hyn.
Drwy wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau prysur o dan do a dilyn ymddygiadau amddiffynnol eraill, gan gynnwys manteisio ar y brechlyn, sicrhau hylendid dwylo da, hunanynysu os oes gennym symptomau COVID-19 a gwella awyriad mewn mannau o dan do, gallwn helpu i leihau trosglwyddiad coronafeirws a diogelu pawb.
Brechu yw ein hamddiffyniad gorau o hyd yn erbyn y coronafeirws. Mae wedi lleihau’r cysylltiad rhwng y feirws a salwch difrifol sy’n arwain at fynd i'r ysbyty ac rwy’n annog pawb sy’n gymwys i fanteisio ar y brechlyn a’r pigiadau atgyfnerthu os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny.
Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa iechyd y cyhoedd a’r amrywiolion BA.4 a BA.5 er mwyn inni allu ymateb yn gyflym i unrhyw newidiadau a diogelu Cymru.