Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Ar 11 Mai, ymunodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, a Chyfarwyddwr y Gymraeg ac Addysg yn Llywodraeth Cymru â mi ar gyfer Cyfarfod Bord Gron Tlodi Bwyd. Daeth y digwyddiad â phartïon perthnasol o'r sector cyhoeddus, y trydydd sector ac eraill ynghyd i drafod yr argyfwng costau byw ac effaith prisiau bwyd cynyddol a chostau ynni ar lefelau tlodi bwyd.
Clywsom am y gwaith ymgysylltu y mae Llywodraeth Cymru yn dal i’w wneud â'r manwerthwyr bwyd mawr. Mae’r rhain yn bwysig gan fod 98% o'r bwydydd a fwyteir gartref yn cael eu gwerthu gan y prif archfarchnadoedd. Mae manwerthwyr yn ymwybodol iawn o’r argyfwng costau byw ac maent yn ymateb. Maent hefyd yn bartneriaid gweithredol i fanciau bwyd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu ein diwydiannau amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu bwyd sy'n darparu cyflogaeth a gwerth economaidd, ac yn rhoi llwyfan byd-eang i Gymru. Rydym am adeiladu ar yr elfennau hyn, a gwella cynhyrchiant a gwerth ychwanegol. Bydd y cymorth a roddir i fusnesau yn gynyddol amodol ar sut y gall gwneud hynny hyrwyddo nodau 'llesiant' Cenedlaethau'r Dyfodol.
Tynnwyd sylw at rôl bwysig ysgolion o ran mynd i'r afael â thlodi bwyd. Mae addysg yn arwain ar amrywiaeth o fentrau, gan gynnwys ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig i sicrhau na fyddai unrhyw blentyn a oedd yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim yn mynd heb bryd o fwyd, gan gynnwys yn ystod y gwyliau.
Yn fwy diweddar, bydd yr ymrwymiad o dan y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru i gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgolion cynradd erbyn diwedd y Cytundeb Cydweithio ar 30 Tachwedd 2024 yn golygu y bydd o leiaf un pryd maethlon y dydd ar gael yn yr ysgol i bob plentyn mewn ysgol gynradd a gynhelir. Bydd hyn yn ategu ein hymdrechion i ddiddymu tlodi plant, yn cefnogi cyrhaeddiad addysgol a maeth plant, ac yn rhoi hwb i system gynhyrchu a dosbarthu bwyd lleol a fydd o fudd i economïau lleol.
Rydym hefyd yn ymchwilio i ffyrdd o symleiddio ceisiadau am fudd-daliadau, gan gynnwys prydau ysgol am ddim, gan sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo.
Trafodwyd hefyd gyfleoedd i fynd i'r afael â chwestiynau cyfiawnder bwyd yn y Strategaeth Bwyd Cymunedol. Mae gweithgarwch amrywiol ac egnïol yn mynd rhagddo ar lawr gwlad ledled Cymru a bydd y Strategaeth yn anelu i hwyluso hyn, fel y gall mân-weithgareddau sy'n ymwneud â bwyd ychwanegu gwerth yn economaidd, yn amgylcheddol neu'n gymdeithasol.
Clywsom dystiolaeth gan Ymddiriedolaeth Trussell a'r Rhwydwaith Cymorth Bwyd Annibynnol am y galw parhaus a chynyddol am fynediad at ddarpariaeth bwyd frys. Roedd y trafodaethau'n cydnabod, ochr yn ochr â chymorth i ddiwallu anghenion uniongyrchol aelwydydd sy'n profi tlodi bwyd, fod angen canolbwyntio adnoddau hefyd ar atal y broblem yn y lle cyntaf, cynaliadwyedd y ddarpariaeth a sicrhau systemau gwydn.
Roedd y fenter Bocs Bwyd Mawr, gwaith Synnwyr Bwyd Cymru a'r rhaglen Hybiau Cymunedol dan arweiniad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ymhlith amrywiaeth o brosiectau gwych ac enghreifftiau o arferion da a ddatblygwyd i fynd i'r afael â thlodi bwyd nawr ac yn y tymor hirach. Mae eu gwaith hwy, a gwaith y llu o fentrau tlodi bwyd yr wyf wedi ymweld â hwy, yn ysbrydoliaeth. Maent yn dangos yr hyn a all ddigwydd pan fydd cymunedau'n dod at ei gilydd i gefnogi eu dinasyddion mwyaf agored i niwed.
Rhoddodd y cyfarfod bord gron gefnogaeth helaeth i ddull ‘arian yn gyntaf’ o fynd i’r afael â thlodi bwyd. Croesawyd rhaglenni gan Lywodraeth Cymru sydd wedi rhoi cymorth ariannol i aelwydydd agored i niwed, megis Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf, cymorth ariannol i rieni disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim i helpu gyda chostau bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol, a'n Cronfa Cymorth Dewisol i'r rhai sy'n profi caledi ariannol eithafol.
Cydnabuwyd hefyd fod gan Lywodraeth y DU rôl allweddol i'w chwarae. Byddwn yn parhau i bwyso arni i weithredu i fynd i'r afael â'r argyfwng ynni ac i gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant.
Eleni, mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu £3.9 miliwn i helpu i liniaru tlodi bwyd a mynd i'r afael â gwraidd y broblem. Bydd hyn yn adeiladu ar lwyddiant gwaith sydd eisoes wedi’i ariannu yn y maes hwn ac sydd wedi helpu sefydliadau bwyd cymunedol i gyrraedd mwy o bobl, gan feithrin eu gwydnwch a bodloni'r galw uniongyrchol am fwyd.
Roedd y cyfarfod bord gron yn gyfle i'r rhai a oedd yn bresennol ystyried sut y dylid cyfeirio adnoddau i sicrhau dull mwy effeithiol o gefnogi pobl sy'n profi tlodi bwyd ar hyn o bryd, a sut y gallwn helpu i leihau ac atal yr angen am ddarpariaeth bwyd frys yn y tymor hirach.
Rydym wrthi’n ystyried yr adborth a gafwyd a byddwn yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn ein Huwchgynhadledd Costau Byw nesaf a gynhelir cyn toriad yr haf.