Yr hyn y byddwn yn ei wneud i ddefnyddio potensial pobl hŷn heddiw a chefnogi ein cymdeithas sy'n heneiddio.
Yn y casgliad hwn
Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio
Cafodd y Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio ei sefydlu yn 2004 i annog sefydliadau pobl hŷn ac amrywiaeth o gyrff proffesiynol i gydweithio. Mae'r fforwm yn darparu cyngor arbenigol a chytbwys i Lywodraeth Cymru o ran:
- cynnydd ac effeithiau’r strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio
- meysydd lle y mae angen cymryd camau ychwanegol i wella llesiant pobl hŷn
- materion newydd, neu faterion sy’n dechrau dod i’r amlwg, nad yw’r strategaeth yn cyfeirio atynt, a allai gael effaith negyddol ar bobl hŷn