Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru, sef Strategaeth Genedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae’r strategaeth yn tynnu sylw at y chwe nod y bydd y llywodraeth yn eu pennu i helpu i atal y gamdriniaeth ffiaidd sy’n wynebu menywod.
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt:
Heddiw, rydym yn ymrwymo i sicrhau mai Cymru yw’r lle diogelaf i fenywod fyw heb ofn. Rydym eisiau rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod a genethod, cam-drin ddomestig a thrais rhywiol yng Nghymru.
Wrth ymrwymo i hyn, rhaid inni fod yn uchelgeisiol. Nid yw trais yn erbyn menywod yn anochel. Dyna pam rydym wedi gosod chwech o dargedau uchelgeisiol i weithio ar draws pob rhan o gymdeithas i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae’r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol newydd yn amlinellu chwe nod allweddol y bydd Llywodraeth Cymru, ynghyd â phartneriaid yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn ymrwymo iddynt.
- Herio agweddau ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol drwy wella ymwybyddiaeth o’i effaith a’i ganlyniadau.
- Cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach.
- Dwyn i gyfrif y rheini sy’n cyflawni camdriniaeth a helpu pobl sy’n ymddwyn yn dreisgar i newid eu hymddygiad.
- Rhoi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal.
- Hyfforddi gweithwyr proffesiynol fel eu bod yn gallu rhoi cefnogaeth effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr.
- Rhoi mynediad cyfartal i ddioddefwyr at wasanaethau cymorth o ansawdd uchel, gyda’r adnoddau priodol, ym mha bynnag ran o Gymru y maent yn byw.
Er mwyn cyflawni’r nodau hyn, amlinellodd y Gweinidog y camau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd yn syth. Dywedodd y Gweinidog:
Er mwyn i ni gyflawni ein 6 nod allweddol a nodwyd yn y strategaeth, rydym angen sicrhau dull Cymru gyfan, sy’n cynnwys y Llywodraeth, y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat.
Mae ein cynllun yn dod â phob rhan o gymdeithas Cymru ynghyd – gan gydweithio i herio a newid arferion, ymddygiadau a diwylliannau. Dyma sydd wrth wraidd cyflawni ein huchelgeisiau.
Heddiw, rwy’n amlinellu’r camau y byddwn yn eu cymryd yn syth i gyflawni ein gweledigaeth:
Yn ddiweddar, gwnaethom sefydlu Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol dan arweiniad Gweinidog. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ddoe. Bydd y bwrdd hwn yn gorchwylio’r gwaith, ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein haddewidion.
Byddwn yn lansio ymgyrch i fynd i’r afael ag aflonyddwch ar y stryd ac yn datblygu dull cyffredin i’r heddlu ac asiantaethau eraill sicrhau bod deddfwriaeth bresennol yn cael ei defnyddio yn effeithiol i weithredu’n llym ar aflonyddwch ar y stryd.
Yn olaf, byddwn yn datblygu hyfforddiant i hyrwyddo perthnasoedd iach ar draws ein cymdeithas.
I gloi, nododd y Gweinidog:
Dim ond drwy sicrhau bod pob rhan o gymdeithas yn sefyll ynghyd y gallwn gyflawni’r uchelgeisiau hyn, ac rwy’n erfyn ar bawb heddiw i ymrwymo i atal camdriniaeth, atal ofn, a’n helpu ni i gyflawni Cymru lle gall bawb fyw heb ofn.
I rai pobl, bydd hyn yn anghyfforddus, oherwydd mae’n herio’r hyn sydd wedi cael ei ystyried yn ‘normal’ am gyhyd.
Nid fydd atal trais yn erbyn menywod yn hawdd.
Ond, drwy weithredu fel Tîm Cymru gallwn – a byddwn – yn llwyddo.