Diweddariad ar gasglu data tai a allbynnau ystadegol, 2022–23
Mae’r papur hwn yn darparu diweddariad ar ein cynlluniau ar gyfer casglu/cyhoeddi data ar gyfer 2022–23.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Mae’n hanfodol bod yr ystadegau tai sy’n cael eu casglu a’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn gywir ac yn amserol, i sicrhau y gellir datblygu polisïau a’u monitro mewn modd effeithiol.
Fodd bynnag, yn y blynyddoedd diwethaf, mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith estynedig ar ein trefniadau ar gyfer casglu/cyhoeddi data. Cafodd llawer o’r casgliadau data ac allbynnau ystadegol rheolaidd mae Llywodraeth Cymru yn eu cynhyrchu mewn perthynas â thai eu canslo neu eu gohirio yn ystod 2020–21, a’u hailgychwyn wedyn yn ystod 2021–22.
Crynodeb o gynlluniau
Wrth ddrafftio’r amserlen casglu/cyhoeddi data ar gyfer 2022–23, ystyriwyd yn ofalus pan oedd angen data ar bynciau penodol yn ystod y flwyddyn, y baich ar y rhai a oedd yn darparu’r data a’r tîm casglu data, yn ogystal a’r ffordd mae’r drefn yn effeithio ar y broses ddilysu rhwng y gwahanol gasgliadau.
Ar gyfer amserlen 2022–23 (casgliadau data ar gyfer y cyfnod 2021–22), rydym yn cynnig y canlynol:
- Cesglir data ar ddigartrefedd bob blwyddyn, a bydd rhai o’r tablau’n cael eu dileu. Ni ofynnir am ddata chwarterol yn ystod 2022-23. Dyma’r un drefn a ddefnyddiwyd ar gyfer casglu data blynyddol y flwyddyn flaenorol. Cynigir dilyn y drefn hon ar gyfer data 2021–22 yn unig, a bydd yn cael ei hadolygu ar gyfer blynyddoedd dilynol.
- Bydd data ar gartrefi newydd yn cael eu casglu unwaith y flwyddyn yn unig ar gyfer 2021–22. Ni ofynnir am ddadansoddiadau data chwarterol ar gyfer 2021-22. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2022–23, byddwn yn ailgychwyn y casgliadau data chwarterol ar gyfer awdurdodau lleol yn unig. Bydd y casgliad cyntaf yn dechrau ym mis Gorffennaf 2022 ac yn cynnwys y cyfnod mis Ebrill – mis Mehefin.
-
Bydd casglu data ar lety i’r digartref/pobl sy’n cysgu yn yr awyr agored yn parhau tan o leiaf mis Mawrth 2023 (awdurodau lleol yn unig).
Mae’r amserlen casglu data ar gyfer 2022–23 yn cael ei hamlinellu yn y tabl isod:
Casglu Data | Dyddiad anfon ffurflenni | Dyddiad dychwelyd | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Cartrefi newydd, Blynyddol: Ebrill 2021 i Mawrth 2022 | 08 Ebrill 2022 | 06 Mai 2022 | |||||
Cartrefi newydd, Chwarterol: Ebrill 2021 i Mehefin 2022 (awdurdodau lleol yn unig) | 01 Gorffennaf 2022 | 15 Gorfennaf 2022 | |||||
Cartrefi newydd, Chwarterol: Gorffennaf i Medi 2022 (awdurdodau lleol yn unig) | 30 Medi 2022 | 14 Hydref 2022 | |||||
Cartrefi newydd, Chwarterol: Hydref i Rhagfyr 2022 (awdurdodau lleol yn unig) | 06 Ionawr 2022 | 20 Ionawr 2022 | |||||
Digartrefedd, Blynyddol: Ebrill 2021 i Mawrth 2022 (awdurdodau lleol yn unig) | 08 Ebrill 2022 | 13 Mai 2022 | |||||
Stoc ar 31 Mawrth 2022 a Rhent Wythnosol 2022-23 | 08 Ebrill 2022 | 13 Mai 2022 | |||||
Gwerthiannau gan Landlordiaid Cymdeithasol yng Nghymru 2021-22 | 08 Ebrill 2022 | 13 Mai 2022 | |||||
Safon Ansawdd Tai Cymru 2021-22 | 06 Mehefin 2022 | 27 Mehefin 2022 | |||||
Cytundebau Rhent / SAP 2021-22 | - | - | |||||
Anheddau Gwag 2021-22 | 21 Hydref 2022 | 25 Tachwedd 2022 | |||||
Gododiadau 2021-22 | 21 Hydref 2022 | 25 Tachwedd 2022 | |||||
Rhent heb ei Dalu 2021-22 | 21 Hydref 2022 | 25 Tachwedd 2022 | |||||
Darparu Tai Fforddiadwy 2021-22 | 10 Mehefin 2022 | 08 Gorffennaf 2022 | |||||
Dymchweliadau, Peryglon a Thrwydeddau 2021-22 (awdurdodau lleol yn unig) | 09 Medi 2022 | 07 Hydref 2022 | |||||
Cymorth ar gyfer Gwelliannau Tai 2021-22 (awdurdodau lleol yn unig) | 14 Hydref 2022 | 11 Tachwedd 2022 | |||||
Grantiau ar gyfer Cyfleusterau i Bobl Anabl (DFGs) 2021-22 (awdurdodau lleol yn unig) | 14 Hydref 2022 | 11 Tachwedd 2022 | |||||
Gweithgareddau Ardal Adnewyddu 2021-22 (awdurdodau lleol yn unig) | 14 Hydref 2022 | 11 Tachwedd 2022 |
Nodwch fod y casgliadau data wedi’u trefnu ar gyfer ail hanner y flwyddyn yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Gall hyn gynnwys gofyn am lai o ddata ond ni fyddwn yn gofyn am ddata ychwanegol na ofynnwyd amdanynt mewn blynyddoedd blaenorol. Byddwn yn eich hysbysu am unrhyw newidiadau.
Y camau nesaf
Ar hyn o bryd mae’r tîm casglu data a’r tîm ystadegau tai o fewn Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau â chydweithwyr polisi i nodi’r gofynion parhaus o ran tystiolaeth, ac i gytuno ar amserlen cyflwyno/cyhoeddi data ar gyfer 2023–24 (i gasglu data ar gyfer y cyfnod 2022–23).
Rhoddir diweddariadau pellach i’r Grŵp Gwybodaeth Data pan fyddant ar gael.