Mae system ddigidol newydd i Gymru gyfan yn helpu pobl sydd â chlefyd cronig yr arennau i reoli eu gofal â thechnoleg ac yn eu galluogi i ymweld â’r ysbyty yn llai aml.
Mae’r offerynnau, a ddatblygwyd gan uned arennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac sy’n cael £1.874 miliwn o gyllid gan Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru, wedi trawsnewid y modd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu, gan alluogi’r rhai sy’n byw gyda’r clefyd i gael gafael ar ganlyniadau eu profion gwaed a chyfarwyddiadau ynglŷn â dosau drwy borth cleifion.
Yn aml, bydd pobl sydd â chlefyd cronig yr arennau yn wynebu heriau iechyd gydol eu bywyd. Mae angen meddyginiaethau arbenigol ar y mwyafrif o’r bobl hyn, a bydd angen dialysis neu drawsblaniad ar rai. Mae’r llwyfan digidol yn galluogi pobl sy’n byw gyda’r clefyd i reoli eu triniaeth a’i haddasu gan ddefnyddio eu dyfeisiau personol, a chael gofal o ansawdd uchel o unrhyw leoliad.
Mae’r system i Gymru gyfan yn dwyn ynghyd yr holl gofnodion ynghylch gofal yr arennau, gan alluogi’r clinigydd sy’n trin ac adrannau clinigol eraill i gael gafael ar ganlyniadau profion gwaed a nodiadau meddygol a nyrsio o bell, o ble bynnag y mae rhywun yn cael triniaeth. Mae hyn yn galluogi gwasanaethau arennol i gynnig yr un ansawdd uchel o ofal ledled Cymru ac i wybodaeth gael ei rhannu ar draws lleoliadau er mwyn llywio penderfyniadau am gyflyrau iechyd eraill yn well.
Mae’r offeryn, sy’n cynnwys 346 o nyrsys a 117 o bresgripsiynwyr digidol, ar gael i unedau arennol ledled Cymru. Gan roi mwy na 45,000 o feddyginiaethau bob mis, mae’r offeryn yn goresgyn yr heriau daearyddol o ran cael gafael ar wasanaethau a thriniaethau drwy ganiatáu i driniaethau gael eu rhagnodi o unrhyw leoliad. Mae’r triniaethau hefyd ar gael ar unwaith, ble bynnag y mae’r claf yn derbyn gofal.
Mae canolfan ddigidol wedi’i chreu hefyd i ddarparu deunydd addysgol er mwyn helpu pobl i ddeall eu cyflwr a mynd ati i’w reoli. O ran y bobl y mae angen dialysis arnynt gydol eu bywyd, mae fideos addysg a hyfforddiant, storïau cleifion a rhaglenni dogfen ar gael i ddangos manteision dialysis yn y cartref. Maent hefyd yn dangos sut y gall dialysis yn y cartref wella ansawdd bywyd drwy roi mwy o ryddid i gleifion, a hynny drwy eu galluogi i ymweld â’r ysbyty yn llai aml a pharhau i weithio. Mae ap realiti rhithwir newydd yn caniatáu i bobl ar ddialysis weld sut y mae gwneud lle i’r offer yn y cartref a’r effaith y bydd yn ei chael ar eu bywyd o ddydd i ddydd.
Wrth ymweld â’r tîm Cydweithio dros Ofal yr Arennau yn Ysbyty Treforys, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:
Mae cyflyrau cronig yn cael effaith enfawr ar les ac ansawdd bywyd rhywun. Mae’n wych bod ein Cronfa Trawsnewid wedi cynorthwyo’r tîm Cydweithio dros Ofal yr Arennau i greu llwyfan digidol i Gymru gyfan i ddarparu gofal a rhoi’r hyder a’r wybodaeth sydd eu hangen ar bobl i reoli eu cyflwr eu hunain.
Drwy ddefnyddio technoleg arloesol, gall darparwyr gofal iechyd drin mwy o bobl, cael gafael ar wybodaeth yn unrhyw le, a defnyddio technoleg i fonitro iechyd pobl o bell a dangosfyrddau clinigol, gan helpu drwy hynny i sicrhau triniaeth fwy diogel a chyflym ac atal colli dosau. Mae angen inni drawsnewid gofal iechyd yng Nghymru, ac mae datblygiadau technolegol arloesol fel hyn, sy’n helpu i ddarparu gofal yn nes at y cartref a lleihau’r pwysau ar ein hysbytai, yn rhan ganolog o’n gweledigaeth.
Dywedodd yr Athro Chris Brown, fferyllydd ymgynghorol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Rhwydwaith Clinigol Arennol Cymru:
Mae’r moderneiddio hwn wedi gofyn am fwy na gweithredu technoleg newydd. Mae cofleidio technoleg ddigidol wedi ei gwneud yn ofynnol inni feithrin diwylliant o arloesi a gwneud pethau’n wahanol, gan dywys y staff a’r bobl rydym yn gofalu amdanyn nhw ar hyd ein taith, a’u rhoi wrth wraidd cynllun ein gwasanaeth. Mae ein dull cydweithredol o ddarparu gofal yr arennau wedi sicrhau bod y pethau sy’n gweithio i un rhan o Gymru yn gallu gweithio i Gymru gyfan. O ganlyniad, rydym yn fwy uchelgeisiol o ran sut ddylai gofal yr arennau edrych erbyn hyn.