Cefnogi cynnydd mewn dysgu ieithoedd: asesu yn y Cwricwlwm i Gymru (crynodeb)
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth a archwiliodd sut y gall Asesu ar gyfer Dysgu gefnogi cynnydd dysgwyr mewn dysgu ieithoedd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Amcanion a methodoleg ymchwil
Amcanion ymchwil
Nod y prosiect ymchwil oedd dod i ddeall sut y gall Asesu ar gyfer Dysgu gefnogi cynnydd dysgwyr mewn dysgu ieithoedd o fewn Maes Dysgu a Phrofiad: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (Maes ILlC) yn y Cwricwlwm i Gymru. Amcanion yr ymchwil oedd:
- Amcan A: edrych ar sut yr ymdriniwyd ag asesu ar gyfer dysgu mewn addysg statudol yng Nghymru hyd yma, a sut y mynegwyd yr angen i ddatblygu'r maes ymhellach.
Roedd hyn yn cynnwys adolygu'r dystiolaeth sy'n ymwneud â sut mae asesu ar gyfer dysgu wedi'i roi ar waith hyd yma yng Nghymru, a rôl asesu ar gyfer dysgu yng nghyd-destun presennol diwygio'r cwricwlwm ac asesu. - Amcan B: archwilio sut mae asesu ar gyfer dysgu wedi'i roi ar waith yn flaenorol ac sut mae’n cael ei roi ar waith ar hyn o bryd yng nghyd-destun dysgu ieithoedd.
Roedd hyn yn cynnwys cynnal adolygiad o sut mae asesu ar gyfer dysgu yn cael ei gymhwyso i gefnogi cynnydd dysgwyr mewn dysgu ieithoedd, gan dynnu ar lenyddiaeth sy’n benodol i Gymru a llenyddiaeth ryngwladol, ac archwilio cyfleoedd, heriau ac ystyriaethau eraill asesu ar gyfer dysgu yng nghyd-destun dysgu ieithoedd. - Amcan C: datblygu ymagweddau posibl at asesu ar gyfer dysgu i gefnogi cynnydd mewn dysgu ieithoedd yn y Cwricwlwm i Gymru o 2022.
Roedd hyn yn cynnwys archwilio ffyrdd y gall dulliau asesu ar gyfer dysgu gefnogi’r ffocws ar gynnydd dysgwyr mewn dysgu ieithoedd yn y Cwricwlwm i Gymru o 2022; gwerthuso sut y gallai dulliau asesu ar gyfer dysgu gefnogi’r ffocws ar ddatblygu repertoires lluosieithog dysgwyr, ac archwilio a allai’r dull cyd-adeiladu ar gyfer dylunio Cwricwlwm i Gymru o 2022 ymlaen, ac ym mha ffyrdd, wella neu gefnogi datblygiad dulliau asesu ar gyfer dysgu.
Roedd y cwmpas ar gyfer datblygu Amcan C wedi'i gyfyngu oherwydd cyfyngiadau'r dystiolaeth a ganfuwyd, a chyfyngiadau amser yr astudiaeth. Cyflwynir arsylwadau mewn perthynas â’r amcan hwn fel meysydd i'w hystyried yn y dyfodol ym Mhennod 5: Casgliadau’r adroddiad.
Cynhaliwyd yr ymchwil yn fewnol rhwng mis Hydref 2021 a mis Ionawr 2022 gan intern PhD yn yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth, gyda chymorth Gwasanaethau Llyfrgell Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd yr astudiaeth fel rhan o interniaeth PhD pedwar mis a drefnwyd drwy Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a Llywodraeth Cymru.
Cyd-destun polisi
Y Cwricwlwm i Gymru yw’r cwricwlwm ysgol newydd ar gyfer dysgwyr 3-16 oed yng Nghymru sydd i’w weithredu o’r Meithrin i Flwyddyn 6 yn 2022 a’i gyflwyno fesul blwyddyn o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 11 rhwng 2022 a 2026. Oherwydd pwysau pandemig COVID-19, bydd ysgolion uwchradd yn gallu gohirio cyflwyno’r cwricwlwm newydd tan 2023, fel y cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2021, gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
Mae Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn un o chwe Maes Dysgu a Phrofiad y Cwricwlwm i Gymru, ac mae’n cwmpasu dysgu Cymraeg, Saesneg, ac ieithoedd rhyngwladol, gan gynnwys llenyddiaeth. Yn y Cwricwlwm i Gymru, disgwylir i ddysgwyr symud ar hyd continwwm dysgu ieithoedd. Bydd canolbwyntio ar luosieithrwydd yn galluogi dysgwyr i ddefnyddio eu gwybodaeth o ieithoedd i wella cyfathrebu ac i ddysgu o'r perthnasoedd sy'n bodoli rhwng ieithoedd. Yn y Maes ILlC, deellir lluosieithrwydd fel y wybodaeth, y defnydd a'r cysylltiadau rhwng ieithoedd, lle gall fod gan ddysgwyr hyfedredd amrywiol yn yr ieithoedd hyn. Mae gan Lywodraeth Cymru darged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae system addysg sy’n cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn elfen allweddol o strategaeth Cymraeg 2050. Nod cynllun Llywodraeth Cymru, Dyfodol Byd-eang: Cynllun i Wella a Hyrwyddo Ieithoedd Tramor Modern yng Nghymru 2020 i 2022 yw cynyddu nifer y dysgwyr sy’n dysgu ieithoedd, cefnogi amlieithrwydd, a chefnogi addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol i ddysgwyr yng Nghymru.
Mae'r astudiaeth hon yn archwilio trefniadau asesu ystafell ddosbarth sydd â'r nod o hybu cynnydd dysgwyr. Bathwyd y term Asesu ar gyfer Dysgu fel y mae’n cael ei gydnabod yn eang, gan y Grŵp Diwygio Asesu ym 1999, ac mae wedi cael sylw eang yn y llenyddiaeth sy’n ymwneud â threfniadau asesu yn y DU ac yn rhyngwladol. Ers i’r term asesu ar gyfer dysgu gael ei fathu, mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddefnyddio mewn perthynas â dulliau asesu’r cwricwlwm, yn enwedig yn y Cwricwlwm i Gymru o 2008.
Fodd bynnag, nid yw’r term asesu ar gyfer dysgu yn cael ei ddefnyddio yn y Cwricwlwm i Gymru o 2022, er bod ei egwyddorion yn parhau o fewn y cwricwlwm. Elfen ganolog o’r cwricwlwm yw cynnydd dysgwyr ar hyd continwwm dysgu, gyda chydnabyddiaeth bod cyflymder cynnydd pob dysgwr yn wahanol. Diben trosfwaol asesu yw cefnogi dysgwyr yn eu cynnydd. Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio’r term ‘Asesu ar gyfer Dysgu’ i adlewyrchu nod ac amcanion ymchwil yr astudiaeth hon. Mae’r adroddiad yn defnyddio ‘Asesu ar gyfer Dysgu’ ac ‘asesu i gefnogi cynnydd dysgwyr’ fel termau i adlewyrchu’r derminoleg a ddefnyddir yn y llenyddiaeth sy’n ymwneud â Chymru a llenyddiaeth ryngwladol.
Methodoleg
Ar gyfer Amcan Ymchwil A, cynhaliwyd adolygiad llenyddiaeth mewn perthynas ag asesu ar gyfer dysgu mewn addysg statudol yng Nghymru ym mis Hydref 2021. Roedd hyn yn cynnwys archwilio llenyddiaeth a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru, partneriaid addysg yng Nghymru, a’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Ar ôl cam sgrinio, cafodd 52 o eitemau eu cynnwys ar gyfer synthesis. Mae’r synthesis ar gyfer Amcan Ymchwil A yn cyflwyno’r dystiolaeth yn gronolegol o fewn tair ffrâm amser trosfwaol: Cwricwlwm i Gymru o 1998, Cwricwlwm i Gymru o 2008, a’r Cwricwlwm i Gymru o 2022.
Ar gyfer Amcan Ymchwil B, cynhaliwyd adolygiad tystiolaeth o asesu ar gyfer dysgu yng nghyd-destun dysgu ieithoedd rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2021. Cynhyrchodd y chwiliadau llenyddiaeth 138 o eitemau. Ar ôl tri cham sgrinio, cafodd 37 o eitemau eu cynnwys yn y synthesis. Mae'r synthesis ar gyfer Amcan Ymchwil B yn rhoi crynodeb o'r hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddangos am asesu ar gyfer dysgu yn y cyd-destun dysgu ieithoedd.
Mae rhai cyfyngiadau methodolegol i'r astudiaeth y mae angen eu hystyried. Roedd y dull a fabwysiadwyd ar gyfer Amcan Ymchwil A yn dilyn yn fras dechnegau adolygiad llenyddiaeth, a defnyddiwyd nifer gyfyngedig o dermau allweddol i nodi eitemau perthnasol. O ran Amcan Ymchwil B, defnyddiwyd rhai o dechnegau asesiad tystiolaeth cyflym, mewn perthynas â'r dull a ddefnyddiwyd wrth ddiffinio meini prawf cynnwys ac eithrio, ac wrth chwilio a sgrinio'r dystiolaeth. Fodd bynnag, nid oedd yn cynnwys proses systematig o asesu ansawdd a chadernid yr eitemau a gafwyd. Hefyd, mae'r paramedrau a osodwyd ar gyfer y chwiliadau yn y ddau adolygiad yn golygu bod rhai cyfyngiadau i ddyfnder a chwmpas yr astudiaeth a'i chanfyddiadau. Nid yw'r astudiaeth yn ceisio rhoi darlun llawn a chynhwysfawr o'r cyd-destun asesu ar gyfer dysgu yn y system addysg yng Nghymru, nac o'r gwaith ymchwil presennol mewn perthynas ag asesu ar gyfer dysgu yng nghyd-destun dysgu ieithoedd. Yn hytrach, mae’n ceisio rhoi syniad o’r dystiolaeth sydd ar gael, ac mae’n darparu cyd-destun ar gyfer datblygiad posibl yn y dyfodol ac archwiliad pellach o’r dystiolaeth.
Asesu ar gyfer Dysgu yng Nghymru (Amcan Ymchwil A): canfyddiadau allweddol
Ffocws ar Asesu ar gyfer Dysgu yn y Cwricwlwm i Gymru o 2008
Mae’r dystiolaeth sy’n ymwneud â Chymru yn awgrymu bod y term Asesu ar gyfer Dysgu a’i egwyddorion wedi chwarae rhan ganolog mewn dulliau asesu yn y system addysg yng Nghymru, yn enwedig yn ystod y Cwricwlwm i Gymru o 2008. Rhoddwyd y Rhaglen Datblygu Meddwl ac Asesu ar gyfer Dysgu ar waith yn ystod blynyddoedd cynnar y Cwricwlwm i Gymru o 2008. Yn ystod ac yn dilyn y rhaglen hon, cyhoeddwyd nifer o ddogfennau gan Lywodraeth Cymru i roi arweiniad pellach ar egwyddorion ac arferion asesu ar gyfer dysgu, sef Pam y mae Angen Datblygu Meddwl ac Asesu ar gyfer Dysgu yn yr Ystafell Ddosbarth? a Sut i Ddatblygu Meddwl ac Asesu ar gyfer Dysgu yn yr Ystafell Ddosbarth. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd strategaethau ‘datblygu meddwl’ ac asesu ar gyfer dysgu yn cael eu trafod gyda’i gilydd yn aml. Darparwyd canllawiau hefyd i gysylltu arfer asesu ar gyfer dysgu â'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol. Mae Estyn, yr OECD a Llywodraeth Cymru yn darparu tystiolaeth sy'n awgrymu bod arfer da o ran asesu ar gyfer dysgu yn digwydd mewn ysgolion, ond nad oedd dulliau asesu ar gyfer dysgu wedi'u datblygu'n ddigonol mewn rhai ysgolion a bod ansawdd arfer asesu ar gyfer dysgu yn amrywio rhwng lleoliadau.
Asesiad i gefnogi cynnydd yn y Cwricwlwm i Gymru o 2022
Yn ôl y dystiolaeth a gasglwyd, mae’n ymddangos bod symudiad wedi bod oddi wrth ddefnyddio’r term Asesu ar gyfer Dysgu yn y Cwricwlwm i Gymru o 2022, tuag at ddefnyddio ‘cynnydd dysgwr’ yng nghyd-destun trefniadau asesu. Fodd bynnag, mae’r ddealltwriaeth o rai elfennau o gynnydd yn y Cwricwlwm i Gymru o 2022 ymlaen yn adlewyrchu’r diffiniad o asesu ar gyfer dysgu yn y Cwricwlwm i Gymru o 2008. Er nad yw asesu ar gyfer dysgu bellach yn cael ei ddefnyddio fel term, mae’n ymddangos bod ei egwyddorion yn sail i’r cysyniad o gynnydd yn y Cwricwlwm i Gymru o 2022 ymlaen. Mae'r term asesu ar gyfer dysgu a'i egwyddorion yn dal i ymddangos i raddau amrywiol o fewn arfer. Er enghraifft, awgrymir asesu ar gyfer dysgu yn yr Asesiadau Rhifedd a Darllen Cenedlaethol Personol Ar-lein, a chaiff ei ddefnyddio'n benodol mewn rhai astudiaethau achos ar gyfer y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (NPEP). Mae’r dystiolaeth ryngwladol a gasglwyd ar gyfer Amcan Ymchwil B hefyd yn dangos bod y term Asesu ar gyfer Dysgu a’i egwyddorion yn dal i gael eu defnyddio’n eang mewn ymchwil ac arfer cyfredol.
Asesu ar gyfer Dysgu yng nghyd-destun dysgu ieithoedd (Amcan Ymchwil B): canfyddiadau allweddol
Asesu ar gyfer Dysgu ar gyfer dysgu Saesneg
Mae'r dystiolaeth ryngwladol a gasglwyd yn cynnwys llawer o eitemau yn ymwneud ag asesu ar gyfer dysgu ac addysgu Saesneg fel ail iaith. Mae un eitem yn trafod Gwyddeleg ac un arall yn edrych ar Kosraean ond nid oes unrhyw eitemau yn trafod ieithoedd llai eu defnydd. Nid oedd y dystiolaeth a archwiliwyd fel rhan o'r astudiaeth hon yn cynnwys unrhyw eitemau a oedd yn archwilio asesu ar gyfer dysgu yn benodol mewn perthynas â hyrwyddo ac asesu lluosieithrwydd.
Asesu ar gyfer Dysgu ar gyfer sgiliau ysgrifennu
Mae llawer o eitemau yn ystyried yr ystafell ddosbarth ysgrifennu. Ni all yr astudiaeth hon ddod i gasgliadau pendant ynglŷn â’r dystiolaeth ar yr ystafell ddosbarth ysgrifennu, ond mae’n ymddangos bod pwyslais yn y llenyddiaeth ar asesu sgiliau ysgrifennu yn hytrach na sgiliau eraill.
Gwahanol ddulliau addysgu iaith (hyfforddiant)
Mae’r astudiaeth yn cynnwys enghraifft o lenyddiaeth sy’n archwilio asesu ar gyfer dysgu mewn perthynas â gwahanol ddulliau addysgu ieithoedd megis Dysgu Cynnwys ac Iaith Integredig, dysgu ieithoedd cymhwysedd cyfathrebol, a dysgu ieithoedd rhyngddiwylliannol. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu nad oes gan athrawon bob amser y sgiliau angenrheidiol i asesu sgiliau iaith a ddatblygir trwy ddulliau addysgu o’r fath, ac mae’n dynodi’r angen am hyfforddiant digonol i athrawon ddatblygu eu dealltwriaeth o asesu ar gyfer dysgu mewn perthynas â dysgu ieithoedd.
Cyfranogiad dysgwyr
Mae’r dystiolaeth ryngwladol yn awgrymu bod hyfedredd iaith dysgwyr yn chwarae rhan yn y math o arferion asesu ar gyfer dysgu y gellir eu defnyddio. Canfuwyd bod rhai arferion asesu ar gyfer dysgu yn fwy priodol ar gyfer dysgwyr â mwy o hyfedredd mewn iaith, tra bod diffyg hyfedredd iaith dysgwyr yn rhwystr i ddefnyddio rhai arferion asesu ar gyfer dysgu. Awgrymir hefyd yn y llenyddiaeth ryngwladol bod dealltwriaeth dysgwyr o’r meini prawf asesu a’r dasg yn cael effaith gadarnhaol ar eu dysgu. Ymhellach, adroddir bod cyfranogiad gweithredol dysgwyr yn y broses asesu yn ffactor pwysig er mwyn datblygu arfer asesu ar gyfer dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Amlygodd y dystiolaeth yr angen i ddysgwyr chwarae rhan weithredol mewn prosesau asesu a nododd bwysigrwydd llais y dysgwr mewn ymarfer adborth.
Trafodir gwahanol adnoddau asesu ar gyfer dysgu yn y dystiolaeth a gasglwyd: cyfarwyddiadau asesu a meini prawf; asesu cyfrifiadurol; gwaith portffolio; hunanasesu ac asesu cyfoedion; a sgaffaldio a monitro. Mae rhai astudiaethau’n archwilio canfyddiadau ac arfer athrawon o asesu ar gyfer dysgu yn yr ystafell ddosbarth iaith, ac mae rhai o’r astudiaethau hyn yn cyfeirio at y gwahaniaeth rhwng credoau cadarnhaol cyffredinol athrawon am asesu ar gyfer dysgu a’r heriau y maent yn eu hwynebu wrth geisio gweithredu asesu ar gyfer dysgu. Mae dwy eitem yn ystyried goblygiadau dull integredig o asesu drwy integreiddio Asesu ar gyfer Dysgu, Asesu fel Dysgu ac Asesu Dysgu; a hefyd Asesu ar gyfer Dysgu ac Asesu fel Dysgu. Mae canlyniadau’r ddwy astudiaeth yn dangos mai dull integredig sy’n cael yr effaith fwyaf cadarnhaol ar berfformiad dysgwyr o gymharu â dulliau heb fod yn integredig yn yr ystafell ddosbarth, o ran sgiliau ysgrifennu a gwrando a deall.
Mae llawer o fanteision gweithredu asesu ar gyfer dysgu yn cael eu hamlygu yn y llenyddiaeth, a’u trafod mewn perthynas â dealltwriaeth o gyfarwyddiadau a meini prawf asesu, manteision gwaith portffolio, asesu cyfrifiadurol a hunanasesu, perchnogaeth dysgwyr o’u gwaith a manteision dull integredig o asesu. Fodd bynnag, mae heriau gweithredu asesu ar gyfer dysgu hefyd yn cael eu trafod, gan gynnwys materion ymarferol fel diffyg amser, gwybodaeth annigonol ac amrywiol athrawon, ymgysylltiad dysgwyr, gwahaniaethau rhwng canfyddiadau ac arfer athrawon, heriau asesu cyfrifiadurol, a thensiynau rhwng Asesu Dysgu ac Asesu ar gyfer Dysgu. O ystyried y rhwystrau hyn, mae llawer o awduron yn galw am ddatblygiadau i asesu ar gyfer dysgu o ran gwell cydweithio, hyfforddiant i ymarferwyr i ddatblygu llythrennedd asesu, sicrhau dealltwriaeth dysgwyr o asesu a chyfranogiad gweithredol dysgwyr mewn asesu ar gyfer dysgu, cydbwysedd rhwng Asesu Dysgu ac Asesu ar gyfer Dysgu, ac alinio dysgu, addysgu ac asesu.
Meysydd i'w hystyried yn y dyfodol
Ynghyd â’r casgliadau, mae’r astudiaeth yn awgrymu nifer o feysydd i’w hystyried yn y dyfodol.
- Nid yw asesu ar gyfer dysgu yn derm canolog ar gyfer asesu yn y Cwricwlwm i Gymru. Fodd bynnag, gallai fod yn ddefnyddiol ystyried a fyddai’n fuddiol parhau i wneud ymarferwyr a lleoliadau yng Nghymru yn ymwybodol o’r term yn y llenyddiaeth ryngwladol. Gallai hyn helpu at sicrhau bod polisi ac arfer addysg yng Nghymru yn parhau i fod yn seiliedig ar y datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil a thystiolaeth ar arfer asesu ar gyfer dysgu wrth ddysgu ieithoedd.
- Gallai archwilio’r dystiolaeth sydd ar gael sy’n archwilio asesu ar gyfer dysgu i gefnogi lluosieithrwydd a sgiliau trawsieithyddol dysgwyr, a’i berthnasedd i gyd-destun Cymru, fod yn faes i’w ystyried. Gallai tystiolaeth o’r fath roi arweiniad pellach i ymarferwyr ddatblygu lluosieithrwydd a sgiliau trawsieithyddol dysgwyr.
- Maes arall i'w ystyried fyddai archwilio argaeledd tystiolaeth sy'n archwilio asesu ar gyfer dysgu i gefnogi ieithoedd llai eu defnydd, a'i berthnasedd i gyd-destun Cymru. O ystyried y pwyslais ar gynnydd dysgwyr Cymraeg yn y Cwricwlwm i Gymru ac yn y strategaeth Cymraeg 2050, gallai tystiolaeth o’r fath ddarparu canllawiau pellach i ymarferwyr ddatblygu sgiliau Cymraeg dysgwyr.
- Un maes i’w ystyried fyddai archwilio’r angen am gyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon ddatblygu ymarfer asesu ar gyfer dysgu i ddathlu a hyrwyddo lluosieithrwydd dysgwyr, yn ogystal â sgiliau trawsieithyddol eraill.
- Mae dod o hyd i dystiolaeth bellach ar sut mae hyfedredd iaith yn chwarae rhan wrth gyflwyno adnoddau a strategaethau asesu ar gyfer dysgu yn faes arall i'w ystyried. Gallai hyn ddarparu tystiolaeth bellach ar y math o adnoddau asesu sy'n fwy addas ar gyfer dysgwyr â hyfedredd iaith gwahanol.
- Gallai fod yn ddefnyddiol ystyried i ba raddau y caiff dysgwyr eu cefnogi i ddatblygu ymwybyddiaeth briodol o feini prawf, gofynion a gweithgareddau asesu.
- Gellid rhoi sylw penodol hefyd i lais y myfyriwr trwy ystyried syniadau dysgwyr am ffyrdd posibl o asesu eu dysgu ieithoedd eu hunain.
Manylion cyswllt
Awdur: Elin Arfon
Safbwyntiau’r ymchwilwyr sy’n cael eu mynegi yn yr adroddiad yma, ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwyntiau Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
E-bost: ymchwil.cymraeg@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 29/2022
ISBN digidol 978-1-80364-029-7