Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi annog y holl sy’n gymwys am bigiad atgyfnerthu Covid-19 y gwanwyn i fanteisio ar y cynnig cyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae dyddiad cau o 30 Mehefin wedi'i gyflwyno i sicrhau y bydd pawb sy'n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu'r gwanwyn yn cael cyfnod digon hir rhwng hyn a'r pigiad atgyfnerthu yn hydref 2022, os ydynt hefyd yn gymwys.

Mae disgwyl cyhoeddiad yn fuan gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI)  ynglŷn â phwy fydd yn gymwys am bigiad atgyfnerthu’r hydref.

Pobl dros 75 oed, preswylwyr hŷn cartrefi gofal ac unigolion 12 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan yw’r rhai sy’n gymwys am bigiad atgyfnerthu’r gwanwyn yn ôl cyngor y JCVI.

Gall y rhai sy’n 75 oed ar neu cyn 30 Mehefin gael eu pigiad atgyfnerthu unrhyw bryd hyd at y dyddiad cau ar y dyddiad hwnnw.

Bydd pawb sy’n gymwys am bigiad atgyfnerthu’r gwanwyn yn cael eu gwahodd gan eu bwrdd iechyd neu eu meddyg teulu. Os ydych chi’n gymwys ond heb gael gwahoddiad, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol drwy’r ddolen hon: llyw.cymru/brechlyncovid.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

Mae'n bwysig bod y niferoedd uchel sy’n cymryd y brechlyn yn parhau i helpu i'n hamddiffyn rhag y risg o salwch difrifol o COVID-19. Byddwn yn annog pawb sy'n cael cynnig brechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn i dderbyn y gwahoddiad.

Os oes rhywun sy’n gymwys am bigiad atgyfnerthu’r gwanwyn wedi cael haint COVID yn ddiweddar, bydd angen iddo aros 28 o ddiwrnodau o ddyddiad ei brawf positif cyn y gall gael ei frechu. Bydd yn dal i allu cael ei frechu ar ôl 30 Mehefin fel rhan o’r ymgyrch hon os oes rhaid gohirio ei frechiad.

Nid yw’n rhy hwyr i unrhyw un sydd angen dos sylfaenol (cyntaf, ail neu drydydd) gael ei frechu. Dylid edrych i weld beth yw’r trefniadau lleol: https://llyw.cymru/cael-eich-brechlyn-covid-19