Mae’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn pennu’r egwyddorion cydweithredu sy’n sylfaen i’r berthynas rhwng llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig.
Dogfennau
Memorandwm cyd-ddealltwriaeth a chytundebau atodol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 270 KB
Manylion
Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a gytunwyd rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban yn gosod y telerau cyffredinol ar gyfer sut bydd y pedair llywodraeth yn cydweithio ar faterion sydd o fudd i bob un ohonynt.
Nid yw'r Memorandwm yn rhwymo mewn cyfraith. Mae'n nodi gweithdrefnau ar gyfer osgoi a datrys anghydfodau rhynglywodraethol.Mae hefyd yn cynnwys cytundebau cyffredinol (concordatiau) ar:
- gyd-drefnu materion polisi mewn perthynas â’r Undeb Ewropeaidd
- cymorth ariannol ar gyfer diwydiant
- cysylltiadau rhyngwladol
Mae'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn gymwys ar yr un telerau i Lywodraeth y DU a'r tair gweinyddiaeth ddatganoledig. Caiff ei ategu gan gyfres o goncordatau dwyochrog rhwng pob un o'r gweinyddiaethau datganoledig a'r adrannau unigol yn y DU.