Heddiw, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y bydd rhaglen allweddol a ariennir gan Lywodraeth Cymru i helpu'r bobl fwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur i gael gwaith yn cael ei hehangu yn 2023, ar ôl i ddwy raglen bresennol a ariennir gan yr UE gael eu dirwyn i ben.
- Llywodraeth Cymru yn camu i'r adwy yn dilyn methiant Llywodraeth y DU i gadw eu haddewid i ddisodli cyllid yr UE yn llawn drwy'r Gronfa Ffyniant a Rennir.
- rhaglen Cymru gyfan wedi ei hehangu, a ariennir gan Lywodraeth Cymru i'w lansio ym mis Ebrill 2023.
- estynnwyd dau gynllun presennol a ariennir gan yr UE am flwyddyn ychwanegol er mwyn sicrhau pontio llyfn.
Mae Llywodraeth Cymru yn camu i'r adwy i ariannu'r gwaith o ehangu rhaglen gyflogadwyedd Cymunedau am Waith a Mwy (CfW+) yn dilyn methiant Llywodraeth y DU i anrhydeddu addewidion mynych na fyddai Cymru'n derbyn ceiniog yn llai o arian ar ôl i'r DU adael yr UE.
O dan Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi'r UE, buddsoddodd Llywodraeth Cymru arian mewn amrywiaeth o gynlluniau dan arweiniad y sector cyhoeddus, AU/AB, y trydydd sector a'r sector preifat, gan gynnwys y rhai i helpu pobl i gael gwaith.
Dau o'r cynlluniau hynny yw Cymunedau am Waith a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE). Ers 2015, buddsoddwyd £135m yn y cynlluniau sydd, hyd yma, wedi darparu cymorth a hyfforddiant cyflogaeth dwys yn y gymuned i 41,000 o unigolion sydd â rhwystrau cymhleth. Mae dros 17,500 o'r unigolion hyn wedi cael cymorth i gael gwaith.
Roedd Llywodraeth y DU wedi addo disodli ac "o leiaf gyfateb i faint" cyn-gyllid yr UE ym mhob gwlad yn y DU. Fodd bynnag, mae camau gweithredu Llywodraeth y DU ar gyfer arian newydd yr UE yn golygu bod cyllideb Cymru dros £1 biliwn yn llai.
Ar yr un pryd, mae Llywodraeth y DU yn fwriadol yn gwrth-wneud datganoli yng Nghymru drwy ddyrannu arian newydd yr UE yn uniongyrchol, ar lefel sy'n llawer llai, drwy Gronfa Ffyniant a Rennir y DU – sy'n golygu bod gan Lywodraeth Cymru bellach lai o reolaeth dros lai o arian.
Mae hyn yn golygu y bydd angen i Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ar draws busnesau, addysg uwch ac addysg bellach a'r trydydd sector sydd wedi defnyddio arian yr UE i gefnogi buddsoddiadau hanfodol yn economi a marchnad lafur Cymru, gan gynnwys cymorth i bobl sy'n agored i niwed, wneud penderfyniadau anodd ynghylch sut y caiff cyllidebau eu gwario.
Mewn ymateb, mae'r Gweinidog heddiw wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn camu i mewn i ariannu'r gwaith o ehangu'r rhaglen Cymunedau dros Waith a Mwy (CfW+) drwy Gymru gyfan o fis Ebrill 2023. Bydd yr ehangu'n golygu dyblu ei gyllideb flynyddol wreiddiol o £12m.
Mae rhaglen CfW+ wedi bod yn hynod lwyddiannus, ar ôl darparu cymorth a hyfforddiant cyflogaeth dwys eisoes i dros 30,000 o unigolion sydd â rhwystrau cymhleth i gyflogaeth, gyda dros 13,000 yn cael cymorth i gael gwaith.
Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau fod CfW a PaCE yn cael ei ariannu gan yr UE hyd at 31 Mawrth 2023 er mwyn sicrhau pontio llyfn i'r rhaglen Cymunedau dros Waith a Mwy yn well.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Er gwaethaf yr addewid a wnaed gan Lywodraeth y DU na fyddai Cymru ar ei cholled wedi i'r DU adael yr UE, y realiti yw ein bod yn wynebu colled o fwy na £1 biliwn mewn cyllid na chafwyd arian yn ei le. Ni all Llywodraeth Cymru lenwi'r twll enfawr y mae Llywodraeth y DU wedi'i greu yng nghyllideb Cymru, sy'n golygu y bydd angen i ni a'n partneriaid yng Nghymru - sydd wedi elwa o gyllid yr UE o'r blaen - wneud penderfyniadau anodd ar beth i'w ariannu yn y dyfodol.
"Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o helpu pobl i mewn i swyddi o ansawdd da ac aros mewn swyddi o ansawdd da. Dyna pam yr ydym yn cymryd camau i ariannu rhaglen newydd i Gymru gyfan i gefnogi pobl i wneud hynny. Drwy ariannu'r gwaith hwn o ehangu Cymunedau am Waith a Mwy a chanolbwyntio ar bobl sydd wedi'u tangynrychioli yn y farchnad lafur a'r rhai sy'n wynebu anfanteision ac annhegwch i gael gwaith, byddwn yn creu Cymru fwy cyfartal - cymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau.
"Er bod Gweinidogion y DU yn sôn am ffyniant broydd o fewn y DU, Llywodraeth Cymru sy'n cyflawni dros bobl ledled Cymru drwy ariannu rhaglenni trawsnewidiol sy'n helpu i newid eu bywydau er gwell."
Cadarnhaodd Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau newydd Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis Mawrth 2022, y bydd cymorth cyflogadwyedd yn canolbwyntio ar y rhai mwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur, ac ar wella canlyniadau'r farchnad lafur i bobl anabl, pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, menywod, pobl ifanc, gweithwyr hŷn dros 50 oed, gofalwyr a'r rhai â sgiliau isel.
Bydd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a Mwy estynedig yn cyd-fynd â ReAct + a Twf Swyddi Cymru +, i gyflawni ymrwymiad y Cynllun i ddarparu un model o weithredu cymorth cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru o 2023.
Cyhoeddir rhagor o fanylion am y rhaglen maes o law.