Mae ystadegau ailgylchu gwastraff y DU a ryddhawyd heddiw yn dangos bod Cymru'n perfformio'n llawer gwell na gwledydd eraill y DU am o leiaf y degfed flwyddyn yn olynol:
- Cymru 56.5%
- Yr Alban 41.0%
- Lloegr 44.0%
- Gogledd Iwerddon 49.1%
- Cyfartaledd y DU 44.4%
Cymru – sydd ar hyn o bryd yn drydydd yn y byd o ran ailgylchu domestig* – oedd yr unig wlad i gynnal ei chyfraddau uchel yn ystod y pandemig, gyda Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyd yn gweld gostyngiad mewn perfformiad.
Mae'r ystadegau newydd yn datgelu mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU i gyrraedd y targed ailgylchu isaf o 50% a osodwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, sy'n golygu pe bai'r DU yn dal yn aelod o'r UE, gallai fod yn wynebu dirwyon am fethu â chyrraedd y safon.
Mae Cymru wedi pennu ffocws ei llywodraeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ganolbwyntio ar yr argyfyngau natur a hinsawdd.
Mae gwastraff bwyd wedi cael ei gasglu ar wahân o gartrefi ym mhob rhan o Gymru yn ystod y degawd diwethaf.
Pan gaiff ei anfon i safleoedd tirlenwi, mae'r amodau poeth a chywasgedig yn trosi gwastraff bwyd yn nwy methan, sydd dri deg i wyth deg gwaith yn fwy niweidiol i newid yn yr hinsawdd nag allyriadau carbon deuocsid. Pe bai gwastraff bwyd yn wlad, byddai y trydydd allyrrwr carbon mwyaf yn y byd y tu ôl i Tsieina ac India. Dyma pam mae gwastraff bwyd yn cael ei restru gan y Cenhedloedd Unedig fel un o’r prif feysydd targed i gyfyngu ar newid yn yr hinsawdd nad ydym yn llwyddo i’w reoli.
Yng Nghymru, mae gwastraff bwyd o 22 awdurdod lleol yn cael ei anfon i un o bum safle treulio anaerobig ledled y wlad ac yn cael ei drawsnewid yn 7 MW o ynni.
Mae hynny'n ddigon i bweru tua 12,000 o gartrefi.
Mae’r gyfradd uchel o ailgylchu o gartrefi yng Nghymru yn arbed mwy na 400,000 o dunelli o CO2 y flwyddyn rhag cael ei ryddhau i’r atmosffer a chyflymu’r newid yn yr hinsawdd ymhellach.
Nid yw'r stori wedi bod yr un fath bob amser. Cyn datganoli, Cymru oedd un o’r gwledydd gwaethaf yn y byd am ailgylchu, gan ailgylchu dim ond 4.8% o wastraff cartrefi yn 1998-1999. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1 biliwn i gefnogi awdurdodau lleol i gyrraedd targedau uchelgeisiol Cymru.
Mae ei chynlluniau economi gylchol beiddgar a gyhoeddwyd y llynedd yn anelu at sicrhau Cymru ddiwastraff erbyn 2050 a dod yn ailgylchwr gorau’r byd.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
“Mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru bellach yn credu ei fod y tu hwnt i amgyffred i grafu eu gwastraff bwyd yn syth i’r bin sbwriel yn lle eu cadi bwyd. Mae’r newid rhyfeddol hwn mewn ymddygiad gan y cyhoedd yng Nghymru yn atal allyriadau sy’n cyflymu’r newid yn yr hinsawdd rhag cael eu rhyddhau i’r atmosffer.
“Mae ein hystadegau ailgylchu o safon byd diolch i ymdrech Tîm Cymru. Er gwaethaf y pandemig a’r holl heriau a ddaeth yn ei sgil, llwyddodd awdurdodau lleol i flaenoriaethu ailgylchu, gweithiodd y casglwyr yn arwrol drwy gydol yr holl gyfyngiadau, a pharhaodd pobl wych Cymru i ailgylchu.
“Rhaid i ni nawr barhau i gynyddu ein huchelgeisiau i greu Cymru ddiwastraff erbyn 2050 ac allyriadau carbon sero net fel ein bod yn gallu mynd i’r afael o ddifrif â’r argyfyngau hinsawdd a natur, a throsglwyddo planed gydnerth, werdd a llewyrchus i genedlaethau’r dyfodol.”