Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Heddiw (11 Mai) rydyn ni’n dathlu Dengmlwyddiant agor Llwybr Arfordir Cymru.
Yn 2012, Cymru fu’r wlad gyntaf yn y byd i greu llwybr neilltuedig ar hyd ein holl arfordir.
I gyd-fynd â’r Dengmlwyddiant, gofynnais i i Huw Irranca-Davies AS arwain adolygiad o Lwybr Arfordir Cymru ac i wneud argymhellion ar sicrhau bod Llwybr Arfordir Cymru a’r rhwydwaith ehangach o lwybrau’n cael yr effaith fwyaf posibl, ac i amlinellu’r cyfeiriad strategol ar gyfer eu datblygu yn y dyfodol.
Torrwyd tir newydd pan gafodd Llwybr Arfordir Cymru ei agor yn 2012, ac ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi pasio deddfwriaeth flaengar, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Nid yw ein hamgylchedd naturiol erioed wedi bod yn bwysicach inni. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr heriau iechyd mae ein ffordd segur o fyw yn eu peri. Mae heriau diweddar COVID-19 wedi tynnu sylw at fanteision iechyd corfforol a meddyliol bod yn yr awyr agored. Yn y cyd-destun hwn, mae Grŵp Adolygu Llwybr Arfordir Cymru wedi canolbwyntio ar ffyrdd newydd o wireddu llawn botensial Llwybr Arfordir Cymru, gan sicrhau’r amrediad ehangaf posibl o ganlyniadau cynaliadwy a chynhwysol ar gyfer pobl Cymru ac ymwelwyr â Chymru.
Mae’r Grŵp Adolygu wedi gwneud 19 argymhelliad sy’n cydnabod gwerth posibl Llwybr Arfordir Cymru, a’n rhwydwaith ehangach o lwybrau, i’n hiechyd, ein llesiant a’n haddysg, ac wrth fynd i’r afael a’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.
Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod yr heriau mae Llwybr Arfordir Cymru yn eu hwynebu – gan gynnwys erydu arfordirol, cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a denu defnyddwyr newydd.
Mae’r adroddiad ar gael yn Llwybr Arfordir Cymru: adolygiad dengmlwyddiant
Rwy’n ddiolchgar i Huw Irranca-Davies AS am arwain gwaith aelodau’r Grŵp Adolygu ac am y cyfraniadau gan randdeiliaid.