Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wedi cyhoeddi heddiw ei bod am lansio ymgynghoriad ar safon ansawdd newydd sy’n cael ei chynnig ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog y byddai Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 (WHQS 2023) yn “adeiladau ar lwyddiant rhagorol ei rhagflaenydd” – y safon a gyflwynwyd yn 2002.
Ers 2002, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector tai cymdeithasol a buddsoddi biliynau o bunnau i wella a chynnal ansawdd tai cymdeithasol Cymru.
O ganlyniad, erbyn diwedd 2020, roedd 99 y cant o dai cymdeithasol Cymru’n bodloni safon wreiddiol 2002 – safon sydd dipyn llymach na safonau gwledydd eraill y DU.
Wrth annerch y Senedd, dywedodd y Gweinidog:
Gan gydnabod yr hyn sydd wedi’i gyflawni diolch i safon 2002, rwy’n siŵr y gwnaiff yr aelodau gytuno ei bod hi, ar ôl 20 mlynedd, yn bryd adolygu’r safon, yn enwedig o ystyried y newidiadau enfawr sydd wedi digwydd i’r ffordd y mae pobl yn byw a gweithio ac yn teimlo am eu cartrefi.
Mae llawer am y byd wedi newid yn yr 20 mlynedd diwethaf ac mae’n disgwyliadau ynghylch ein cartrefi wedi newid hefyd.
Rydym am i’r safon fod yn feiddgar ond hefyd yn ymarferol. Rydym am wneud yn siŵr trwy’r ymgynghoriad ein bod yn clywed llais y sector wrth benderfynu ar y safonau hyn a’u cael yn iawn.
Nid ar chwarae bach y mae gosod safonau ar y gorau. Ac mae pennu safonau ar gyfer datgarboneiddio cartrefi hyd yn oed yn anoddach. Mae’n faes sy’n dal i ddatblygu, ac rydyn ni’n dysgu beth sydd orau i’w wneud wrth i ni fynd yn ein blaenau.
Bydd yr £220m rydym wedi’i ymrwymo dros dymor y llywodraeth hon i’r Rhaglen ôl-osod er mwyn Optimeiddio, ein cynllun pragmatig ar gyfer datgarboneiddio’r cartref cyfan, yn hwb i’r gwaith hwn.
Bydd ganddi rai o’r atebion ynghylch sut i leihau allyriadau carbon ein cartrefi yn effeithiol ac effeithlon, yn unol â’n cynllun Sero Net Cymru.
Ond yn wyneb yr argyfwng newid hinsawdd, thâl hi ddim i ni aros yn ein hunfan a rhaid dal ati i wella a gosod safonau i fynd i’r afael â datgarboneiddio, hynny trwy amrywiaeth o fesurau yn ein tai cymdeithasol.
Mae rhagor na 900 o denantiaid wedi bod yn cydweithio i ddatblygu’r safon newydd ac mae arbenigwyr wedi’n helpu i ddatblygu’r elfennau technegol trwy edrych beth sy’n digwydd yng ngwledydd eraill y DU a’r byd.
Ychwanegodd y Gweinidog:
Dwi ddim am ymddiheuro os bydd rhai’n meddwl ein bod wedi bod yn feiddgar ond rwy’n benderfynol o godi’r safonau eto.
Os ydym am gyrraedd y targedau Sero Net Cymru, rhaid i ni fynd yn benderfynol yn ein blaenau ac rwy’n credu bod y safonau hyn yn ateb y gofyn yn hynny o beth.
Mae ein tenantiaid tai cymdeithasol yn haeddu cael y safonau gorau y gallwn eu creu.
Rwy’n gobeithio’n fawr y caiff y safonau hyn eu derbyn ar gyfer tai cymdeithasol, a hefyd y bydd landlordiaid eraill yn ystyried eu mabwysiadu a hyd yn oed rhagori arnyn nhw.
Caiff safonau ansawdd tai Cymru 2023 eu cyhoeddi at ddibenion ymgynghori ddydd Mercher 11 Mai a bydd gan randdeiliaid 12 wythnos i ymateb iddynt.