Cyfrif carafannau Sipsiwn a Theithwyr: Ionawr 2022
Nifer y carafanau Sipsiwn a Theithwyr ar safleoedd awdurdodedig, anawdurdodedig ac awdurdod lleol, Ionawr 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau allweddol
Ar 20 Ionawr 2022, adroddwyd fod 1,065 o garafannau Sipsiwn a Theithwyr a 140 o safleoedd yng Nghymru.
Rhwng Ionawr 2021 a Ionawr 2022, mae cyfanswm nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr wedi aros ar yr un lefel ac mae cyfanswm nifer y safleoedd (awdurdodedig ac anawdurdodedig) wedi cynyddu 0.7% (1 o safleoedd).
Carafannau yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio
Adeg cyfrif Ionawr 2022, cyfanswm nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru oedd 1,065. Roedd 919 o garafannau ar safleoedd awdurdodedig â chaniatâd cynllunio, gan gyfrif am 86% o'r holl garafannau. O'r rhain, roedd 603 (66%) ar safleoedd rhent cymdeithasol a 316 (34%) ar safleoedd a ariennir yn breifat.
Mae Siart 1 isod yn dangos dadansoddiad o’r carafannau yn ôl statws awdurdodedig ac anawdurdodedig.
Roedd 99 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig ar dir a oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr, sy'n cyfrif am 9% o'r holl garafannau. Roedd 47 o garafannau eraill (4% o'r holl garafannau) ar safleoedd anawdurdodedig ar dir nad oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr.
Caerdydd, Sir y Fflint, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot oedd â'r cyfanswm uchaf o garafannau; gyda’i gilydd roedd y rhain yn cyfrif am 52% o'r holl garafannau. Casnewydd oedd â'r nifer uchaf o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig (36 o garafannau, yn cyfrif am 25% o’r holl garafannau ar safleoedd anawdurdodedig).
Mewn rhai achosion, mae carafannau ar safleoedd anawdurdodedig ond mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â cheisio cael gwared ar y gwersyll. Ym mis Ionawr 2022 roedd 93 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig a oddefir. Gwelwyd y nifer fwyaf o'r rhain ym Mro Morgannwg lle'r oedd 25 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig a oddefir. Roedd 53 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig nas goddefir.
Darperir tablau manwl ar lefel awdurdodau lleol yn y tablau cysylltiedig. Cewch fwy o wybodaeth gefndirol ac am ansawdd yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg. Esbonnir termau sydd ag ystyr arbennig yn yr eirfa.
Lleiniau ar safleoedd awdurdodau lleol
Darparwyd 409 o leiniau ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru ar 20 Ionawr 2022. O'r rhain, roedd 407 yn lleiniau preswyl ac roedd 2 yn lleiniau tramwy.
Caerdydd, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot oedd â'r nifer uchaf o leiniau a ddarparwyd gan awdurdodau lleol (80, 73 a 67 o leiniau’r un, yn y drefn honno) gan gyfrif am dros hanner cyfanswm nifer y lleiniau (54%). Adroddodd 8 awdurdod lleol nad oedd ganddynt unrhyw leiniau ar 20 Ionawr 2022. Ar adeg y cyfrif, roedd 98% o'r lleiniau preswyl wedi'u meddiannu.
Mae Siart 4 yn dangos dadansoddiad dros amser o nifer y lleiniau yng Nghymru.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl am ansawdd data a methodoleg yn yr adroddiad ansawdd.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Andy O’Rourke
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
Email: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 132/2022