Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd wedi ailbenodi 15 aelod i Gynghorau Iechyd Cymuned ledled Cymru.
Bydd yr aelodau yn cynrychioli Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda, Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan, Cyngor Iechyd Cymuned De Morgannwg, Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe a Chyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg.
O fis Ebrill 2023, bydd corff newydd sef Corff Llais y Dinesydd yn cymryd lle’r Cynghorau Iechyd Cymuned. Bydd Corff Llais y Dinesydd yn parhau i gynrychioli llais cleifion o ran eu gofal iechyd yn ogystal â gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Mae pob Cyngor Iechyd Cymuned yn cwmpasu ardal ddaearyddol benodol yng Nghymru, sy’n cyd-fynd â’r bwrdd iechyd lleol sy’n gyfrifol am ddylunio a darparu gwasanaethau’r GIG yn yr ardal honno.
Mae Cynghorau Iechyd Cymuned yn gyfrifol am ymweld â gwasanaethau iechyd lleol a’u craffu yn rheolaidd, a chan weithio gyda’u byrddau iechyd perthnasol, maent yn gyfrifol am feithrin cysylltiadau gyda’u cymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli’n addas.
Mae aelodau yn gyfrifol am gynrychioli buddiannau cleifion a’r cyhoedd wrth gynllunio newidiadau i wasanaethau’r GIG a chytuno arnynt. Maent hefyd yn gyfrifol am alluogi cleifion a’r cyhoedd i rannu pryderon ynghylch y gwasanaethau maent yn eu cael drwy wasanaeth Eiriolaeth Annibynnol ar gyfer Cwynion.
Ni fydd yr aelodau yn cael eu talu am eu gwaith, ond byddant yn gallu hawlio lwfansau teithio a chynhaliaeth wrth iddynt ymgymryd â gwaith sy’n berthnasol i’w swyddi.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd:
“Mae Cynghorau Iechyd Cymuned yn chwarae rôl allweddol o ran meithrin cysylltiadau â’u cymunedau a sicrhau bod gan bobl lais.
“Er mwyn rhoi’r profiadau gorau o wasanaethau’r GIG i bobl yng Nghymru, mae angen inni gydweithio er mwyn sicrhau ein bod yn gwrando ar gymunedau, a’n bod yn gallu dysgu ynghylch arferion gorau.”
Mae’r aelodau Cynghorau Iechyd Cymuned canlynol wedi’u hailbenodi:
Cyngor Iechyd Cymuned De Morgannwg
Brenda Chamberlain
Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru
Gill Williams
Celia Hayward
Joy Baker
Michael Lloyd Jones
Arron Taylor-Osbourne
Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda
Pauline Griffiths
Gwenda Williams
Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan
Cheryl Christoffersen
Patricia Cory
Barbara Norvill
Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg
Diane Rogers
Stephen Carter
Ramsey Jamil
Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe
Hugh Pattrick