Cyfarfod y Cabinet: 24 Mawrth 2022
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 24 Mawrth 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Vaughan Gething AS
- Lesley Griffiths AS
- Jane Hutt AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Mick Antoniw AS
- Hannah Blythyn AS
- Dawn Bowden AS
- Julie Morgan AS
- Lynne Neagle AS
- Lee Waters AS
Ymddiheuriadau
- Julie James AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
- Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
- Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
- Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol
- Andrew Sallows, Cyfarwyddwr y Rhaglen Gyflawni, Iechyd
- Rob Orford, Prif Swyddog Gwyddonol – Iechyd
- Fliss Bennee, Cyd-gadeirydd y Gell Cyngor Technegol
- Chris Roberts, Pennaeth Gwyddor Ymddygiadol – Iechyd COVID -19
- Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer ac Ailddechrau
- Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailddechrau ar ôl COVID-19 – Adolygiad 21 diwrnod
- Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailddechrau ar ôl COVID-19
- Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol
- Neil Buffin, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
Eitem 1: Adolygiad o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5) – 24 Mawrth 2022
1.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur a oedd yn gofyn i’r Cabinet gynnal adolygiad ffurfiol o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5).
1.2 Atgoffwyd y Cabinet mai diben y cyfyngiadau a oedd yn ymwneud â COVID-19 yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws oedd rheoli’r feirws a’i atal rhag lledaenu, gan ddiogelu pobl a darparu ymateb iechyd cyhoeddus i achosion, lledaeniad yr haint, neu halogiad gan y feirws. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd, ac roedd yn rhaid i’r cyfyngiadau fod yn gymesur â’r hyn yr oeddent yn bwriadu ei gyflawni.
1.3 Cydnabuwyd bod yr wybodaeth a roddwyd i Weinidogion yn y Cabinet ddydd Llun, bod nifer yr achosion yn cynyddu eto, yn golygu y byddai mwy o bwysau ar ysbytai, ac yn benodol ar unedau gofal dwys. Felly daeth y Cabinet i’r casgliad bod angen symud yn fwy gofalus na’r bwriad blaenorol, ac fe gytunwyd i barhau i weithredu rhai cyfyngiadau am y tro, gyda chamau diogelu eraill yn cael eu darparu mewn cyngor iechyd y cyhoedd. Roedd hyn yn adlewyrchu argymhellion y Prif Swyddog Meddygol.
1.4 Cytunodd y Cabinet y dylai’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb mewn safleoedd manwerthu ac ar drafnidiaeth gyhoeddus gael ei ddileu o 28 Mawrth. Fodd bynnag, er mwyn diogelu pobl agored i niwed, byddai’r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn parhau mewn grym. Byddai’r defnydd ehangach o orchuddion wyneb yn cael ei egluro mewn canllawiau.
1.5 Hefyd, byddai’r gofyniad cyfreithiol ar fusnesau a sefydliadau i gynnal asesiadau risg coronafeirws penodol, ac i gymryd camau rhesymol i leihau unrhyw risg gymaint phosibl, yn parhau. Byddai hyn yn caniatáu iddynt gymryd unrhyw gamau i ymateb i’r is-amrywiolyn newydd o Omicron, BA.2, sy’n fwy trosglwyddadwy.
1.6 Byddai’r gofyniad ar bobl i hunanynysu, os ydynt yn cael canlyniad positif i brawf, yn cael ei symud o fod yn gyfraith i fod yn ganllaw, ac ni fyddai disgwyl bellach i’r rheini, sydd heb gael eu brechu, sy’n dod i gysylltiad agos â rhywun sy’n cael canlyniad positif i brawf, gymryd camau o’r fath. Nodwyd y byddai’r taliad hunanynysu o £500 yn parhau ar gael hyd at fis Mehefin.
1.7 Y bwriad oedd y byddai’r mesurau diogelu, a oedd yn parhau’n ofynion cyfreithiol, yn parhau mewn grym tan yr adolygiad tair wythnos nesaf. Os bydd yr amodau’n ffafriol bryd hynny, bydd y mesurau wedyn yn cael eu symud i fod yn ganllaw.
1.8 Cytunodd y Cabinet y dylai swyddogion weithredu’n unol â’r penderfyniadau a wnaed gan Weinidogion.