Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol cynnal adolygiad o'r mesurau coronafeirws bob tair wythnos. Roedd yr adolygiad tair wythnos diweddaraf i gael ei gwblhau erbyn 5 Mai.
Er bod y cyfyngiadau wedi cael eu llacio dros y misoedd diwethaf, a bod y sefyllfa'n cyd-fynd â'r senario COVID Sefydlog a ddisgrifir yn ein cynllun pontio 'Gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel’ mae angen inni gofio nad yw'r coronafeirws wedi diflannu. Er bod rhai arwyddion calonogol bod nifer y derbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig â Covid-19, a oedd wedi bod yn codi ers dechrau mis Mawrth, bellach wedi lefelu ar tua 240 y dydd, ar 29 Ebrill roedd 1,200 o gleifion COVID yn dal i fod yn ysbytai Cymru.
Ar sail y dystiolaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd, a chyngor gan y Prif Swyddog Meddygol a'r Cell Cynghori Technegol, rwyf wedi penderfynu cadw'r cyfyngiad cyfreithiol presennol sy'n ei gwneud yn ofynnol gwisgo gorchuddion wyneb o fewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, yn yr ardaloedd hynny sy’n agored i’r cyhoedd, am dair wythnos arall.
Byddwn yn parhau i argymell bod gorchuddion wyneb hefyd yn cael eu gwisgo ym mhob man gorlawn neu gaeedig dan do fel rhan o'n cyfres o ganllawiau a chyngor cryfach ar iechyd y cyhoedd. Gall y mesurau hyn a mesurau eraill weithio gyda'i gilydd i helpu i atal y coronafeirws rhag cael ei drosglwyddo a’n cadw ni yn ddiogel.
Brechu yw ein hamddiffyniad gorau o hyd yn erbyn y coronafeirws ac mae wedi lleihau’r cysylltiad rhwng y feirws a salwch difrifol sy’n arwain at fynd i'r ysbyty. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu, ac rwy’n annog y rhai sy'n gymwys (gan gynnwys plant) i gael eu brechiad cyntaf, eu hail frechiad a’u brechiad atgyfnerthu, gan gynnwys brechiad atgyfnerthu’r gwanwyn, pan fydd eich bwrdd iechyd lleol yn eich gwahardd i wneud hynny.
Gyda dull gofalus ac unedig o gadw ein gilydd yn ddiogel a sicrhau bod cymaint o'r rhai sy'n gymwys yn cael eu brechiadau ag y bo modd, gall pawb yng Nghymru deimlo’n optimistaidd am y gwanwyn a’r tu hwnt.