Mesurau digartrefedd dros dro ar ôl y pandemig
Rydym am gael eich barn ar newidiadau i'r ddarpariaeth digartrefedd er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael i gysgu ar y stryd yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Beth sydd dan sylw yn yr ymgynghoriad hwn?
Diben yr ymgynghoriad hwn yw casglu barn ar dri orchymyn statudol o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014:
- Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) (Diwygio) 2022 – sy’n ceisio barn ar y cynnig i ychwanegu ‘person sy’n cysgu allan’ fel yr 11eg categori o Angen Blaenoriaethol o dan Adran 70 o’r Ddeddf;
- Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2022 – sy’n ceisio barn ar y diwygiad canlyniadol i Reoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015 i gynnwys ‘Cysgu Allan’ fel yr 11eg categori; a
- Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) (Diwygio) 2022 – sy’n ceisio barn ar ddau newid:
- Ychwanegu is-gategori at Erthygl 6 o Orchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 pan fo gallu Awdurdod i ddarparu llety wedi’i gyfyngu o ganlyniad i bwysau Covid-19, yn ddarostyngedig i derfyn amser o 31 Mawrth 2023; a
- Chynnwys argyfwng iechyd y cyhoedd yn benodol yn y rhestr o ddigwyddiadau argyfwng o dan Erthygl 6a.
Beth yw’r sefyllfa bresennol?
Ar ddechrau'r pandemig ym mis Mawrth 2020, rhoddwyd ymateb brys i ddigartrefedd ar waith i gydnabod yr effaith bosibl y gallai Covid-19 ei chael ar bobl a oedd yn ddigartref, yn enwedig pobl a oedd yn cysgu allan. Ar 28 Ebrill 2020, cyhoeddodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (y Gweinidog Newid Hinsawdd erbyn hyn) nodyn cyfarwyddyd statudol mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth digartrefedd a nodir yn Neddf Tai (Cymru) 2014, a ehangodd y diffiniad o fod yn hyglwyf i gynnwys Covid-19.
Diolch i'r ymateb eithriadol gan awdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector, mae'r dull hwn o sicrhau 'nad oes neb yn cael eu gadael allan' wedi arwain at roi llety brys i 18,900[1] o bobl ers mis Mawrth 2020. Felly, mae'r pandemig wedi rhoi darlun llawer cliriach o raddau'r hyn a arferai fod yn ddigartrefedd cudd yng Nghymru, yn ogystal â'r anghenion cymorth na chawsant eu diwallu'n flaenorol. Mae hyn wedi arwain at fwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, gyda thros £195miliwn wedi'i fuddsoddi mewn gwasanaethau cymorth tai a digartrefedd, y swm uchaf erioed o £310miliwn mewn tai cymdeithasol yn 2022/23 a lansio Cynllun Prydlesu'r Sector Rhent Preifat Cymru sy'n cynnig cymhellion i berchnogion eiddo sy'n prydlesu eu heiddo i'r awdurdod lleol. Cyhoeddwyd cronfa gwerth £60miliwn hefyd yn ddiweddar sydd ar gael i Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i gynyddu capasiti llety parhaol yn gyflym ledled Cymru fel rhan o'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro.
[1] Yn gywir yn ôl y data diweddaraf sydd ar gael, gweler Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan | LLYW.CYMRU ar gyfer y ffigurau diweddaraf.
Pam rydym yn cynnig newid?
Gwnaeth y Rhaglen Lywodraethu ymrwymiad clir i ddiwygio'r ddarpariaeth digartrefedd er mwyn canolbwyntio ar atal ac ailgartrefu cyflym. Er y bydd y ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n ofynnol i wneud newidiadau tymor hwy yn cymryd nifer o flynyddoedd i'w deddfu, bydd y mesurau cyfreithiol dros dro a gynigir yn:
-
Cynnal y dull polisi a fabwysiadwyd yn nodyn cyfarwydd statudol Ebrill 2020; ac,
-
Atgyfnerthu’r neges bolisi gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a amlinellwyd yn y Cynllun Gweithredu i Roi Diwedd ar Ddigartrefedd a’r Datganiad Llafar na fydd dim troi yn ôl i’r dull a ddefnyddiwyd cyn y pandemig o ran blaenoriaethu cymorth i bobl sy’n ddigartref.
Bwriad y dull hwn yw sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael i gysgu allan yng Nghymru.
Pa newidiadau penodol rydym yn eu cynnig? Pa opsiynau rydym yn eu hystyried?
Rydym yn cynnig cyflwyno tri gorchymyn statudol newydd o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
1. Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) (Diwygio) 2022
O dan Adran 70 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae gan y personau a ganlyn (a’r rheini sy’n preswylio gyda hwy neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt breswylio gyda hwy) angen blaenoriaethol am lety:
- Menyw beichiog
- Pobl sy’n gyfrifol am blant dibynnol
- Person hyglwyf o ganlyniad i ryw rheswm arbennig
- Pobl sy’n ddigartref oherwydd tân, llifogydd neu drychineb arall
- Pobl sy’n wynebu camdriniaeth ddomestig
- Pobl ifanc16 neu 17 oed
- Pobl rhwng 18 a 20 oed sy’n wynebu perygl arbennig
- Pobl rhwng 18 a 20 oed sydd wedi derbyn gofal
- Personél y lluoedd arfog
- Person hyglwyf o ganlyniad i gyfnod yn y carchar
Mae adran 72(1)(b) o'r Ddeddf yn darparu y caiff Gweinidogion, drwy orchymyn, ddiwygio neu hepgor y disgrifiadau o bersonau sydd ag angen blaenoriaethol am lety. Yn benodol, mae adran 72(1)(c) yn caniatáu i Weinidogion bennu disgrifiadau pellach o bersonau fel rhai sydd ag Angen Blaenoriaethol am lety.
Cyn nodyn cyfarwyddyd statudol Ebrill 2020, dim ond ffactor i'w ystyried wrth asesu pa mor hyglwyf oedd person o dan Adrannau 70 a 71 o Ddeddf 2014 oedd cysgu allan. Heb broblemau ychwanegol i ddwysáu eu sefyllfa o ran cysgu allan, roedd ymgeiswyr yn annhebygol o gael eu hystyried mewn Angen Blaenoriaethol o ganlyniad i gysgu allan yn unig.
Yng ngoleuni nod Llywodraeth Cymru o beidio â throi yn ôl i'r model cyn y pandemig o ddogni gwasanaethau digartrefedd, rydym yn cynnig ychwanegu 11eg categori o Angen Blaenoriaethol sef 'person sy'n cysgu allan’.
Nid yw 'Person sy’n cysgu allan' wedi'i ddiffinio yn Neddf 2014, ond drafftiwyd diffiniad wrth gynllunio ar gyfer ailgyflwyno'r cyfrif cysgu allan blynyddol yn 2016. At ddibenion ystadegol, dilynodd Llywodraeth Cymru yn agos y diffiniad a ddefnyddiwyd gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar y pryd (yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau erbyn hyn) ac mae pob cyfrif blynyddol ers 2016 yn seiliedig ar y diffiniad a ganlyn:
‘At ddibenion y cyfrif argymhellir y diffiniad canlynol o berson sy’n cysgu allan:
- Pobl yn cysgu, ar fin mynd i'w gwely (eistedd yn/ar eu dillad gwely neu'n sefyll wrth eu hochr), wedi gwneud gwely yn yr awyr agored (megis ar y stryd, mewn pebyll, drysau, parciau, llochesau bws neu wersylloedd);
- Pobl sydd wedi gwneud gwely mewn adeiladau neu fannau eraill nad ydynt yn fannau preswylio (megis pyllau grisiau, beudai, siediau, meysydd parcio, ceir, cychod adfeiliedig, gorsafoedd neu “bashes”).
Nid yw’r diffiniad yn cynnwys:
i. Pobl mewn hosteli neu lochesi;
ii. Pobl sy’n cysgu ar soffa ffrindiau;
iii. Pobl mewn safleoedd gwersylla neu safleoedd eraill a ddefnyddir at ddibenion hamdden neu brotest, sgwatwyr neu deithwyr.'
Y cynnig yw cadw'r diffiniad hwn ar gyfer yr 11eg categori newydd.
Ochr yn ochr â'r newid hwn, cyhoeddir canllawiau ychwanegol yn nodi'n glir y disgwyliad y bydd awdurdodau lleol yn cefnogi ac yn lletya pobl sydd mewn perygl o gysgu allan neu sy'n byw mewn llety anaddas.
At hynny, bydd yr atodiad canllaw newydd yn:
- fel yr amlinellir uchod, sicrhau bod y rhai sydd 'mewn perygl' o gysgu allan yn cael eu cynnwys yn yr 11eg categori newydd;
- atgyfnerthu budd proses asesu gychwynnol fanylach er mwyn osgoi colli cyfleoedd i atal digartrefedd;
- ychwanegu eglurhad ynghylch bwriadoldeb, cysylltiad lleol a'r defnydd o fannau rhyddhau yn unol â'n cyfeiriad strategol;
- atgyfnerthu disgwyliadau o ran cyfyngu ar y defnydd o lety gwely a brecwast lle bo hynny'n bosibl;
- tynnu sylw at arferion gorau a nodwyd yn ystod y pandemig; a
- rhoi eglurder i gefnogi awdurdodau lleol i weithredu amcanion polisi a deddfwriaethol Llywodraeth Cymru i gefnogi pawb sydd mewn perygl o fod yn ddigartref wrth i'r pandemig ddod i ben.
2. Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2022
Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn caniatáu i awdurdod ddod o hyd i geisydd sy'n fwriadol ddigartref os yw wedi rhoi'r gorau i feddiannu llety a oedd ar gael ac yn briodol i'w feddiannu. Cyn y gall wneud hynny, rhaid i awdurdod lleol ddilyn y weithdrefn a nodir yn Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015, sy'n nodi bod yn rhaid i awdurdod benderfynu'n ffurfiol a chyhoeddi pa gategorïau o unigolion (sy'n adlewyrchu'n uniongyrchol y deg categori Angen Blaenoriaethol) y maent yn bwriadu rhoi sylw iddynt.
Er yr edrychir ar fwriadoldeb fel rhan o ddiwygiadau deddfwriaethol ehangach yn nes ymlaen yn nhymor y Llywodraeth hon, er mwyn sicrhau bod y categorïau bwriadoldeb yn parhau i adlewyrchu'r categorïau Angen Blaenoriaethol, cynigiwn fod 'Cysgu Allan' yn cael ei ychwanegu fel categori o fewn Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015.
Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) (Diwygio) 2022
Mae Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 ("Gorchymyn Addasrwydd 2015") yn pennu nad yw llety gwely a brecwast i'w ystyried yn llety addas. Oherwydd y dull sy’n sicrhau 'nad oes neb yn cael eu gadael allan' a'r pwysau ehangach a grëwyd gan y pandemig, fodd bynnag, erbyn hyn mae mwy na 7,500 o bobl ac aelwydydd yn byw mewn llety dros dro, ac mae llawer ohonynt mewn llety gwely a brecwast a gwestai[2]. Er gwaethaf ymrwymiad cryf Llywodraeth Cymru i symud pob aelwyd i lety parhaol cyn gynted â phosibl, mae cost gynyddol tai rhent preifat a'r prinder difrifol o lety ar gyfer un person wedi golygu bod llawer yn byw mewn llety gwely a brecwast a gwestai y tu hwnt i'r terfynau amser a ganiateir yn gyfreithiol.
Mae Erthygl 6 o Ddeddf Addasrwydd 2015 yn darparu eithriadau ar gyfer ystyried bod llety gwely a brecwast yn addas. Yr eithriadau hyn ar hyn o bryd yw:
- os yw'r awdurdod yn credu y gall y ceisydd fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd o ganlyniad i argyfwng megis tân, llifogydd neu drychineb arall, ac nad oes unrhyw lety arall ar gael yn rhesymol i'r awdurdod; neu
- os yw'r awdurdod wedi cynnig llety addas i'r ceisydd, ond mae'r ceisydd yn dymuno cael ei letya mewn llety arall.
Er mwyn cydnabod y pwysau a achosir gan Covid-19 ar yr opsiynau llety dros dro sydd ar gael i awdurdodau lleol, rydym yn cynnig y canlynol:
- Bod is-gategori newydd yn cael ei ychwanegu lle mae gallu Awdurdod i ddarparu llety wedi'i gyfyngu o ganlyniad i bwysau yn sgil Covid-19, yn ddarostyngedig i derfyn amser o 31 Mawrth 2023; a
- Chynnwys 'argyfwng iechyd y cyhoedd' yn benodol yn y rhestr o ddigwyddiadau argyfwng o dan Erthygl 6a.
[2] Yn gywir yn ôl y data diweddaraf sydd ar gael, gweler Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan | LLYW.CYMRU ar gyfer y ffigurau diweddaraf.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
- Ydych chi’n cytuno â pholisi Llywodraeth Cymru i sicrhau ‘nad oes neb yn cael eu gadael allan’?
- Ydych chi’n cytuno bod ychwanegu ‘person sy’n cysgu allan’ fel yr 11eg categori o Angen Blaenoriaethol yn ein galluogi i barhau gyda’n polisi i sicrhau ‘nad oes neb yn cael eu gadael allan’? Os nad ydych, sut arall y gellid cyflawni hyn?
- A ydych yn cytuno â'r diffiniad o 'berson sy'n cysgu allan' y bwriadwn ei ddefnyddio? Os nad ydych, rhowch reswm dros eich ateb.
- Ydych chi'n cytuno y dylid ychwanegu pwysau a achosir gan Covid-19 fel eithriad newydd o dan Erthygl 6 o Orchymyn Addasrwydd 2015? Os nad ydych, rhowch reswm dros eich ateb.
- Ydych chi'n cytuno â'r terfyn amser o 31 Mawrth 2023 i fynd i'r afael â'r pwysau llety dros dro a achosir gan eithriad Covid-19?
- Pa effaith ydych chi'n ei rhag-weld ar adnoddau (er enghraifft staffio)? A oes gennych dystiolaeth i gefnogi hyn?
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth
Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu
0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/