Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ar 13 Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF), sy'n disodli Cronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd a Chronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd. Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am oblygiadau ariannu'r cyhoeddiad hwn i Gymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi methu ag anrhydeddu’r addewidion a wnaethant droeon na fyddai Cymru geiniog yn dlotach, yn ogystal â diystyru’n fwriadol y ffaith bod Cymru wedi’i datganoli.
Gwnaethpwyd addewid clir ym maniffesto Llywodraeth y DU yn etholiad 2019, i amnewid ac “o leiaf cyfateb maint” y cyllid UE blaenorol ar gyfer pob gwlad yn y DU.
Mae'r cyfrifiad rydym wedi’i ddefnyddio i ddangos y gostyngiad enfawr yn y cyllid y byddai Cymru wedi’i dderbyn pe bai Llywodraeth y DU wedi cyflawni ei haddewid yn dilyn y fethodoleg a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r UKSPF.
Byddai Cronfeydd Datblygu Rhanbarthol a Chymdeithasol yr UE wedi bod yn werth £1.404bn ar gyfer y cyfnod rhwng Ionawr 2021 a Mawrth 2025, gan ganiatáu ar gyfer chwyddiant a chyfraddau cyfnewid yn yr un modd ag y mae Llywodraeth y DU wedi gwneud wrth gyfrifo lefel cyllid UKSPF i'w ddyrannu i Gymru.
Byddai’r cyllid yn ychwanegol at yr hyn sy’n ddyledus o ymrwymiad Llywodraeth Cymru o gyllid ar gyfer prosiectau yn ystod y blynyddoedd blaenorol drwy Fframwaith Ariannol Amlflwydd yr UE 2014-2020.
Cadarnhaodd y Canghellor broffiliau gwariant y DU gyfan ar gyfer UKSPF yn ystod yr Adolygiad o Wariant ar 27 Hydref 2021. Y rhain yw:
- 2022-23 - £400m
- 2023-24 - £700m
- 2024-25 - £1.5bn
Mae Llywodraeth y DU bellach wedi cadarnhau y bydd Cymru'n cael £585m drwy UKSPF. Mae hyn yn cynnwys £101m sy'n cael ei frigdorri gan Lywodraeth y DU i gefnogi blaenoriaeth Adran Addysg Llywodraeth y DU i gyflwyno rhaglen rhifedd i oedolion o'r enw Multiply y mae gennym bryderon gwirioneddol yn ei chylch. Dyma lechfeddiant annerbyniol arall gan Lywodraeth y DU i faes polisi datganoledig a bydd yn gwrthdaro â’r ddarpariaeth bresennol yng Nghymru, ac yn ei dyblygu.
Ynghyd â'r £47m o gynllun peilot 2021-22 ar gyfer UKSPF – y Gronfa Adnewyddu Cymunedol – bydd Cymru yn cael £632m o arian newydd yn y cyfnod, sef diffyg o £772m. (Tabl 1 – mae'r holl ffigurau mewn prisiau cyfredol.)
Mae'r ffigur hwn yn cynnwys £42m a drosglwyddwyd o Golofn 1 y PAC i'n Cynllun Datblygu Gwledig Colofn 2 yn 2020, nad yw Llywodraeth y DU wedi’i ddarparu a £95m o dderbyniadau'r UE a gafodd eu debydu o gyllid newydd yr UE yn 2021-22, ynghyd â £106m arall o ddebydu a gadarnhawyd yn yr Adolygiad o Wariant 2021.
Gyda'i gilydd, mae'r golled o £243m mewn cyllid gwledig a'r diffyg o £772m yng nghronfeydd strwythurol yr UE (tabl 2) yn dod i ychydig dros £1bn. O gymhwyso'r un addasiad chwyddiant i gyllid gwledig ag i'r cronfeydd strwythurol, mae'r diffyg cyffredinol i gyllideb Cymru yn fwy na £1.1bn.
Nid yw'r ffigurau hyn yn cymryd i ystyriaeth colledion cyllid o’n mynediad at raglenni cyllid eraill yr UE, gan gynnwys Erasmus, Horizon, a Chydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd, nad ydynt wedi cael eu disodli'n llawn gan Lywodraeth y DU.
Mae cael llai o lais dros lai o arian yn golygu y bydd penderfyniadau anodd yn wynebu Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill mewn busnes, addysg uwch ac addysg bellach, a’r trydydd sector sydd wedi defnyddio Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi i gefnogi buddsoddiadau hanfodol mewn ymchwil ac arloesi, ysbryd cystadleuol mewn busnes, sgiliau, cyflogadwyedd, di-garbon, cymunedau cynaliadwy, seilwaith a chysylltedd, a chymorth i bobl agored i niwed. Mae’r sectorau hyn eisoes wedi mynegi pryderon gyda Llywodraeth Cymru am y bylchau ariannu sy’n eu hwynebu o ganlyniad i gamau gweithredu Llywodraeth y DU.
Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i osgoi Llywodraeth Cymru ac i ddyrannu cyllid yn uniongyrchol drwy gronfeydd y DU gyfan wrth ddisodli cyllid yr UE, a hynny ar lefel llawer iawn yn llai, nid yn unig yn ymosodiad ar ddatganoli yng Nghymru, ond fel y dengys y ffigurau yn y datganiad hwn yn glir, mae yn fethiant hefyd i gyflawni addewidion dro ar ôl tro na fydd Cymru "yn geiniog waeth ei byd" wedi i’r DU ymadael â’r UE.