Concordatau a memoranda rhynglywodraethol a chytundebau eraill rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.
Yn y casgliad hwn
Concordatiau
Mae Llywodraeth Cymru wedi llofnodi ystod o Goncordatau Dwyochrog gydag adrannau Llywodraeth y DU. Nid yw’r rhain yn rhwymo mewn cyfraith. Mae concordatau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd ac yn gallu newid. Maent yn gytundebau anffurfiol, hyblyg y mae’r ddwy ochr yn ymrwymo iddynt, ac maent yn gosod yr arfer gorau presennol mewn perthynas â dulliau gweinyddu. Mae concordatau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd ac yn gallu newid.
Memoranda cyd-ddealltwriaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i nifer o femoranda cyd-ddealltwriaeth gydag adrannau llywodraeth y DU. Nid yw’r rhain yn rhwymo yn gyfreithiol. Maent yn gytundebau anffurfiol a hyblyg y mae’r ddau barti yn ymrwymo iddynt. Maent yn nodi arferion gorau gweinyddol presennol. Mae memoranda cyd-ddealltwriaeth yn cael eu hadolygu’n rheolaidd a gallant newid.
Cytundebau eraill
Mae'r ddogfen hon yn nodi casgliadau'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol a gafodd eu cynnal ar y cyd gan lywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig.