Mae pridd yn adnodd hanfodol sy’n cynnal bywyd ac yn darparu gwasanaethau ecosystem hollbwysig i Gymru.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae pridd yn adnodd hanfodol sy’n cynnal bywyd ac yn darparu gwasanaethau ecosystem hollbwysig i Gymru.
Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys:
- cynhyrchu bwyd a ffibr
- rheoleiddio dŵr
- cyfraniadau i reoli hinsawdd
- hybu bioamrywiaeth
Mae ein pridd dan fygythiad oherwydd:
- newid hinsawdd
- ein hymadawiad o'r UE
- newid defnydd tir yn y dyfodol
Mae angen polisi pridd sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn:
- cadw a gwella'r adnodd gwerthfawr hwn
- helpu i fynd i'r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur
- gwella'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Datganiad Polisi Pridd Amaethyddol (ASPS)
Mae’r ASPS yn nodi’r weledigaeth ar gyfer gwarchod priddoedd a’u rheoli’n gynaliadwy a’n cydnabod swyddogaethau a gwasanaethau hanfodol priddoedd.
Rydym wedi datblygu’r datganiad polisi pridd drwy adolygiad health o dystionlaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Mae’r amcanion, neu’r nodau, a nodir yn y datganiad hwn yn cysylltu â'i gilydd. Mae pob nod yn bwysig i:
- amddiffyn rhag bygythiadau presennol
- gwarchod rhag bygythiadau newydd (sy'n dod i'r amlwg)
- datblygu priddoedd amaethyddol gwydn ar gyfer cenedlaethau presennol a’r dyfodol
Adolygiad o dystiolaeth pridd Cymru
Rydym yn cynhyrchu adolygiad o dystiolaeth pridd Cymru o nifer o ffynhonnellau gan gynnwys:
Mae priddoedd yng Nghymru yn uchel mewn carbon. Yn gyffredinol, ystyrir bod y gyfran uchel o systemau glaswelltir yng Nghymru yn risg isel i ddiraddio pridd. Gall colli carbon pridd a bioamrywiaeth, erydu a chywasgu pridd ddigwydd mewn ardaloedd lle:
- mae rheolaeth tir amhriodol
- mae newid o ddefnydd tir
Yn y dyfodol, mae newid hinsawdd yn debygol o effeithio ar briddoedd. Felly, bydd y ffactorau sy'n ysgogi newid defnydd tir yn dod yn fwy dwys. Ond mae yna gyfleoedd gan y gall rhai o’r newidiadau hyn gael effeithiau cadarnhaol ar:
- yr hinsawdd
- diogelwch bwyd
- yr amgylchedd
Rhaglen Dystiolaeth Polisi Pridd
Rhaglen Dystiolaeth y Polisi Pridd:
- yn cynnwys adolygiadau ac asesiadau polisi-berthnasol o gyflwr ein pridd a'n tir
- ystyried effeithiau rheolaeth amaethyddol a newid yn yr hinsawdd ar briddoedd yn awr ac yn y dyfodol
Bydd yr Adolygiad o dystiolaeth pridd Cymru yn rhoi trosolwg o brif ganlyniadau'r adroddiadau.