Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi lansio'r broses i benodi Cadeirydd newydd i'w fwrdd.
Mae hwn yn benodiad cyhoeddus Gweinidogol, a wneir gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
Bydd y Cadeirydd presennol, y Cadeirydd cyntaf, Kathryn Bishop CBE, yn dod i ddiwedd ei thymor ym mis Hydref 2022, ar ôl cael ei phenodi'n wreiddiol ym mis Hydref 2017.
Mae Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru yn cynnwys:
- Cadeirydd
- aelodau anweithredol
- aelodau gweithredol gan gynnwys y Prif Weithredwr, Dyfed Alsop
- aelod staff etholedig
Am ragor o wybodaeth, neu i wneud cais, ewch i borth recriwtio Llywodraeth Cymru.