Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Gwneuthum ddatganiad i'r Senedd ym mis Ionawr am gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer cynnal gwiriadau ar ddogfennau, gwiriadau adnabod a gwiriadau corfforol ar nwyddau mewn safleoedd rheoli ffin o 1 Gorffennaf 2022 ymlaen, gan nodi hefyd sut yr oeddem yn bwriadu rhoi’r gwiriadau hynny ar waith yng Nghymru.
Neithiwr, bûm mewn cyfarfod, a alwyd ar fyr rybudd, gyda gweinidogion Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau Ddatganoledig, lle cawsom wybod y byddai Llywodraeth y DU yn gwneud cyhoeddiad heddiw i atal rhagor o fesurau rheoli ffin rhag cael eu cyflwyno tan ddiwedd 2023. Mae Llywodraeth y DU yn disgwyl i ateb technoleg gael ei gyflwyno bryd hynny.
Ar hyn o bryd, nid oes gennyf ragor o fanylion, heblaw cyfeirio aelodau at y datganiad a wnaed yn San Steffan.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn codi nifer o gwestiynau, am fioddiogelwch ond hefyd i allforwyr, a bydd fy swyddogion yn mynd ar eu trywydd ar fyrder. Rwy’n bwriadu gwneud datganiad arall cyn gynted â phosibl.