Cyfarfod y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach: 17 Mawrth 2022
Crynodeb o gyfarfod y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach ar 17 Mawrth 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Aileen Burmeister, Cymru Masnach Deg
- Catherine Smith, Hybu Cig Cymru
- Debbie Laubach, MediWales
- Henry Clarke, RPD Law
- Jerry Lawson, Frog Bikes
- Louisa Petchey, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Nick Pearce, Object Matrix
- Yr Athro. Nick Pidgeon, Prifysgol Caerdydd
- Paul O’Donnell, y Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol
- Richard Leonard, Fforwm Modurol Cymru
Croeso a chyflwyniadau
Croesawodd Pennaeth Polisi Masnach Llywodraeth Cymru bawb i'r cyfarfod a gwahoddodd yr aelodau i gyflwyno eu hunain a dweud pa sefydliad roeddent yn ei gynrychioli.
Y diweddaraf am drafodaethau cytundebau masnach Llywodraeth y DU
Rhannodd Pennaeth Polisi Masnach Llywodraeth Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ar Gytundeb Masnach Rydd Llywodraeth y DU gan gynnwys Awstralia, Seland Newydd, Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel, Canada, India a’r Ynys Las.
Trafodaeth Bord Gron ar drafodaethau Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac India
Cafwyd trafodaeth bord gron i ddilyn a oedd yn canolbwyntio ar drafodaethau’r DU ag India. Roedd wedi'i rannu'n dri phwnc:
- Allforio a Mewnforio
- Newid Hinsawdd ac Iechyd y Cyhoedd
- Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Roedd y trafodaethau’n cwmpasu:
Allforio a mewnforio: cyfleoedd a rhwystrau
- Dylanwad y gwrthdaro rhwng Wcráin a Rwsia ar drafodaethau.
- Lleihau tariffau.
- Pwysigrwydd tegwch yn y farchnad i fusnesau a sectorau Cymru.
- Cyfleoedd ar gyfer llaeth a chig coch – gan gynnwys marchnad fwyd o'r radd flaenaf ar gyfer cig oen Cymru.
- Cyfleoedd i weithgynhyrchwyr o Gymru yn y farchnad cerbydau trydan.
- Cydnabod a derbyn cymwysterau proffesiynol.
- Heriau technegol presennol megis rheolau a rheoliadau gwahanol mewn rhannau gwahanol o India.
- Asesiadau cydymffurfio/cydnabyddiaeth gilyddol.
- Pwysigrwydd eiddo deallusol – gan gynnwys cig oen Cymru; yr angen i ystyried ymagwedd at eiddo deallusol mewn meysydd fel hadau a chyffuriau generig a brechlynnau.
Newid hinsawdd ac iechyd y cyhoedd
- Sut gall Cymru daro cydbwysedd rhwng bod yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang a manteisio ar gyfleoedd allforio? Cenedlaethau'r dyfodol a nodau llesiant.
- Pwysigrwydd eiddo deallusol o ran cyfleoedd ar gyfer bioeconomi a chynhyrchu hydrogen.
- Tariffau Amgylcheddol; datrys anghydfodau a thargedau amgylcheddol.
- Iechyd y cyhoedd – mynediad at ymchwil; recriwtio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol; yr effaith ar waith lleol; asesiadau o'r effaith ar iechyd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Cydraddoldeb a hawliau dynol
- Safonau Llafur.
- Cyfleoedd i fusnesau yrru safonau mewn perthynas â grymuso menywod, newid hinsawdd a safonau llafur.