Data am ddifrifoldeb yr anafiadau a'r math o ddefnyddiwr ffordd ar gyfer 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu
Gwybodaeth am y gyfres:
Cafodd pandemig y coronafeirws (COVID-19), â’i gyfyngiadau ar sut, ble a pham yr oedd pobl yn cael teithio yng Nghymru, effaith ar nifer y damweiniau a’r anafusion ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu gydol y rhan fwyaf o 2020. Roedd yr effaith hon wedi parhau yn 2021.
Prif bwyntiau
Image
- Yn 2021 cofnododd heddluoedd yng Nghymru gyfanswm o 3,288 o ddamweiniau ffordd, cynnydd o 416 (14.5%) o'i gymharu â 2020, sef y flwyddyn isaf ar gofnod.
- Arweiniodd y damweiniau ffordd hyn yn 2021 at 4,348 o anafiadau personol. O'r rhain, lladdwyd 86 o bobl, anafwyd 925 o bobl yn ddifrifol a chofnodwyd 3,337 o anafiadau 'mân'.
- Yn ystod 2021, digwyddodd dros hanner yr holl ddamweiniau ffordd (53%) ar ffyrdd 30mya gyda'r gyfran uchaf nesaf (25%) yn digwydd ar ffyrdd 60mya. Rhannau ffordd â therfyn cyflymder o 20mya oedd â'r gyfran isaf, gan gyfrif am 3% o'r holl ddamweiniau.
- O edrych ar y duedd hirdymor, bu gostyngiad cyffredinol yn nifer y damweiniau ffordd lle cafwyd anafiadau personol a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru.
- Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y damweiniau sy'n arwain at farwolaethau neu anaf difrifol wedi bod yn gymharol sefydlog, gyda'r gostyngiad cyffredinol mewn damweiniau yn cael ei gyfrif gan ostyngiad parhaus mewn damweiniau anafiadau 'mân'.
Adroddiadau
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/Damweiniau_ffyrdd_wedi___u_cofnodi_gan_yr_heddlu__2021.jpg?itok=RHXBpb9F)
Damweiniau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 563 KB
PDF
Saesneg yn unig
563 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.