Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Yn gynharach heddiw, cyhoeddwyd cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF), sy'n disodli cyllid strwythurol yr UE. Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein trafodaethau diweddar gyda Llywodraeth y DU, a'r hyn y bydd y Gronfa hon yn ei olygu i Gymru.
Ers 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n ddwys i greu'r model cryfaf posibl ar gyfer buddsoddi rhanbarthol ar ôl yr UE yng Nghymru, o'r enw ein Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol. Mae hyn wedi cynnwys cyd-gynhyrchu gyda rhanddeiliaid, ymgynghoriad cyhoeddus, a phrosiect i integreiddio arfer gorau rhyngwladol gyda'r OECD.
Yn ystod y cyfnod hwn, gwnaethom ymdrechion mynych hefyd i ymgysylltu â Gweinidogion y DU ar y cynlluniau hyn. Fodd bynnag, ni gynigiodd Llywodraeth y DU drafodaeth ystyrlon tan y mis hwn, er mwyn i brosbectws y Fframwaith gael ei gyhoeddi cyn dechrau ar y cyfnod cyn etholiadau llywodraeth leol.
Er gwaethaf yr amserlen anymarferol hon, ceisiwyd creu dull partneriaeth o ymdrin â'r Gronfa hon sy'n parchu'r setliad datganoli ac sy'n cyd-fynd â dymuniadau pobl a sefydliadau yng Nghymru o ran sut y dylid buddsoddi a darparu cyllid ar ôl yr UE.
Er bod rhywfaint o newid wedi bod, nid yw'r cynlluniau ariannu a nodwyd gan Lywodraeth y DU heddiw yn adlewyrchu anghenion penodol cymunedau Cymru. Rydym yn pryderu na fydd digon yn cyrraedd y cymunedau hynny sydd â'r angen mwyaf. Cynigiodd Llywodraeth Cymru fformiwla amgen a fyddai'n dosbarthu cyllid yn decach ledled Cymru yn ôl yr angen economaidd, ond gwrthodwyd hyn gan Lywodraeth y DU.
Nid yw rôl arfaethedig Llywodraeth Cymru chwaith yn cynnwys swyddogaeth gwneud penderfyniadau gwirioneddol sy'n hanfodol er mwyn sicrhau'r buddsoddiad mwyaf posibl a pharchu datganoli yng Nghymru.
Ar y sail hon, ni fu'n bosibl cymeradwyo'r dull y mae Llywodraeth y DU yn ei fabwysiadu ar y Gronfa hon ac ni allwn gefnogi eu penderfyniad i ailgyfeirio cronfeydd datblygu economaidd i ffwrdd o'r ardaloedd hynny yn benodol lle mae’r tlodi gwaethaf. Mae'r penderfyniad anflaengar hwn yn cael ei ddwysáu gan y gostyngiad dramatig yn yr arian y byddai Cymru wedi'i gael pe bai Llywodraeth y DU wedi cyflawni ei haddewid i ddisodli arian yr UE ar gyfer Cymru yn llawn.
Rydym wedi trafod y materion hyn gyda CLlLC drwy gydol y trafodaethau hyn ac maent yn pwysleisio y dylai'r Fframwaith gael mwy o bwyslais ar angen.
Rydym wedi ei gwneud yn glir i Lywodraeth y DU fod gan hyn oblygiadau i'r rôl y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae yn y camau nesaf o ran cyflawni a gweithredu ac ymrwymiad ein hadnoddau.
O ganlyniad i'r trafodaethau dwys y gwnaethom gymryd rhan ynddynt, gwnaed consesiynau a fydd yn gweld dyraniadau rhanbarthol i awdurdodau lleol gyda chynlluniau sy'n gofyn am alinio â'n Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol. Mae hyn yn dangos cryfder y dull partneriaeth sy'n bodoli yng Nghymru a'r sicrwydd y mae'n ei roi er gwaethaf cyd-destun cyfnewidiol y DU, a’u hawydd i ganoli.
Dros y tair blynedd ariannol nesaf, bydd y Fframwaith yn darparu £585 miliwn i awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys dyraniad o £101 miliwn i Gymru i ddarparu rhaglen rhifedd ar gyfer oedolion yn y DU o'r enw Lluosi. Rydym yn dal i bryderu bod perygl i'r cynllun hwn ddyblygu cwricwlwm cenedlaethol Cymru a'i ddulliau dysgu.
Er bod y pecyn ariannu cyffredinol hwn yn cymharu'n gymharol ffafriol â gwledydd eraill y DU, nid yw'n bodloni ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyfateb o leiaf i faint cronfeydd strwythurol yr UE y bu i Gymru gymhwyso ar eu cyfer yn flaenorol ac y byddai wedi parhau i fod yn gymwys ar eu cyfer.
Yn syml, rydym yn wynebu colled o dros £1bn mewn cyllid heb ei ddisodli dros y tair blynedd nesaf. O ganlyniad, bydd penderfyniadau anodd i'w gwneud gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ar draws busnesau, addysg uwch ac addysg bellach, a'r trydydd sector sydd wedi elwa o Gronfeydd Strwythurol yr UE yn y gorffennol.
Byddwn yn awr yn gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid llywodraeth leol i ystyried y ffordd orau o fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gyfer rhaglenni a fydd yn cefnogi ein cenhadaeth i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach.
Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiadau pellach.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.