Datganiad Prif Swyddog Meddygol Cymru ar adolygiad COVID-19: 14 Ebrill 2022.
Mae trosglwyddiad y don Omicron BA.2 o COVID-19 yn y gymuned yn parhau ar lefel uchel iawn ledled Cymru a’r DU ond mae arwyddion y gallai hyn fod yn dechrau gwrthdroi. Er bod derbyniadau i’r ysbyty ar gyfer trin COVID-19 hefyd wedi dechrau gostwng yn ddiweddar, mae’r system iechyd a gofal yn parhau i ymrafael â phwysau COVID-19 a lefelau uchel o absenoldeb staff. Mae nifer y cleifion sydd angen cymorth dyfeisiau awyru mecanyddol yn is nag mewn tonnau blaenorol.
Dylem barhau â’n hymdrechion i leihau trosglwyddiad o fewn ysbytai. Mae cyfyngu ar nifer yr ymwelwyr ag ysbytai, cadw pellter cymdeithasol a rhoi gweithdrefnau rheoli heintiau ar waith yn drylwyr i gyd yn parhau i fod yn bwysig. Gall gorchuddion wyneb ar gyfer ymwelwyr gael effaith ychwanegol fach ar leihau trosglwyddiad feirysol ond maent hefyd yn dangos yr angen i barhau ag ymddygiadau sy’n diogelu. Dylent barhau i gael eu defnyddio gan staff ac ymwelwyr nes y bydd trosglwyddiad feirysol yn ein cymunedau yn llai o lawer. Nid yw’n glir a fyddai’n well cyflawni hyn drwy ddeddfwriaeth barhaus neu drwy droi at gyngor/canllawiau, ond nodaf y newidiadau ymddygiadol cyflym a welwyd yng Nghymru pan wnaed y newid mewn lleoliadau eraill fel manwerthu a lletygarwch. Rwy’n dal i fod o’r farn mai’r amser gorau i lacio mesurau diogelu yw pan fo cyfraddau heintio’n isel/lleihau a phan fo niwed uniongyrchol yn gyfyngedig.
Wrth i’r don bresennol o heintiau gilio, rhaid inni baratoi ar gyfer tonnau eraill yn y dyfodol dros yr haf ac i mewn i’r hydref. Dylem hwyluso gwyliadwriaeth well mewn ysbytai (drwy ein rhaglen ar gyfer cadw gwyliadwriaeth ar heintiau anadlol acíwt (SARI)) a thrwy ehangu safleoedd sentinel mewn gofal sylfaenol. Rwy’n rhybuddio yn erbyn hunanfodlonrwydd wrth dybio y bydd amrywiolion yn y dyfodol mor (gymharol) ddiniwed ag Omicron. Dylem gynllunio ein hymateb i ymchwydd yn y dyfodol ar y sail y gallai amrywiolion mwy niweidiol, sy’n osgoi imiwnedd, esblygu. Dylem hefyd adolygu ein trefniadau ar gyfer diogelu unigolion a grwpiau sy’n agored i niwed a pharhau i ddilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) o ran brechiadau atgyfnerthu pellach.
Syr Frank Atherton
Prif Swyddog Meddygol Cymru