Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Teitl y cynnig

Y Rhaglen Adnewyddu a Diwygio

Swyddog(ion) sy'n cwblhau'r Asesiad Effaith Integredig (enw(au) ac enw'r tîm)

Sioned Lewis: Yr Is-adran Cwricwlwm ac Asesu

Lloyd Hopkin: Yr Is-adran Cwricwlwm ac Asesu

Richard Haithcock: Yr Is-adran Cwricwlwm ac Asesu

Martyn Gunter EPS: Tîm Ffocws

Joanne Crawford EPS: Yr Is-adran Cwricwlwm ac Asesu

Adran

Y Gyfarwyddiaeth Addysg

Pennaeth yr Is-adran/Uwch-swyddog Cyfrifol (enw)

Georgina Haarhoff, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-adran Cwricwlwm, Asesu ac Addysgeg

Y Gweinidog sy'n gyfrifol

Jeremy Miles AS: Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Dyddiad dechrau

Mai 2021

Pa gamau gweithredu y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?

Mae'r Asesiad Effaith Integredig hwn yn rhoi syniad o effaith datblygu polisi sy'n ymwneud â'r Rhaglen Adnewyddu a Diwygio, a ddatblygwyd i fynd i'r afael â'r effeithiau tymor byr, tymor canolig a thymor hir ar ddysgwyr o ganlyniad i darfu yn sgil y pandemig COVID-19. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio'n bennaf ar arwain y broses o gydlynu gwaith ar draws Llywodraeth Cymru i gefnogi dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed. Hefyd, mae’n cwmpasu pob dysgwr ôl-16 (mewn addysg bellach a chweched dosbarth mewn ysgolion, addysg uwch a dysgu seiliedig ar waith ac addysg oedolion), gan sicrhau bod llwybr clir at sefydlogrwydd a ffordd drefnus o symud tuag at weledigaeth strategol y llywodraeth newydd ar gyfer addysg, dysgu a lles ar gyfer y dyfodol.

a'r mentrau allweddol a fydd yn sail i ymateb Llywodraeth Cymru i effeithiau COVID-19 ar ddysgwyr a dysgu, gan fynd i'r afael â'r effeithiau negyddol ac adeiladu ar y datblygiadau arloesol a'r profiadau cadarnhaol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Ei nod yw galluogi pob dysgwr [1] i wneud cynnydd yn eu haddysg a ffynnu, gan gydnabod dibyniaethau allweddol gan gynnwys iechyd meddwl, cyflogadwyedd a goblygiadau economaidd. Mae'r dull wedi'i strwythuro gan ganolbwyntio ar anghenion dysgwyr ac mae prosiectau/mentrau o bob rhan o Lywodraeth Cymru wedi'u datblygu ar y seiliau hyn. Rydym yn dwyn ynghyd ein hymyriadau presennol a newydd i gefnogi dysgwyr mewn carfannau penodol mewn ffordd gyd-gysylltiedig ar draws Llywodraeth Cymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Rhaglen Adnewyddu a Diwygio wedi mabwysiadu dull deinamig o gefnogi ein system addysg, gan ddefnyddio egwyddorion a strwythurau ehangach cyd-ddatblygu, er mwyn ymateb i anghenion newidiol ysgolion, ymarferwyr a dysgwyr yn y ffordd orau.

Wrth i'r rhaglen ddatblygu o fis Ionawr 2021, dilynwyd egwyddorion gweithio mewn partneriaeth a gwneud penderfyniadau lleol. Gwnaed hynny i wneud yn siŵr bod nodau, ffocws a gweithrediad y rhaglen yn sicrhau bod y buddsoddiad o bob rhan o Lywodraeth Cymru yn cael ei gydgysylltu yn y ffordd fwyaf effeithiol a'i weithredu mewn modd a fyddai’n helpu’r rheini sydd mwyaf ei angen, megis taliadau'n cael eu gwneud yn uniongyrchol i ysgolion. Drwy gydol 2021, tra bo’r rhaglen yn aeddfedu, rhyddhawyd cyllid ychwanegol wrth i gynlluniau’n ymwneud â chymorth lefel leol gael eu cyhoeddi a'u diweddaru (Mehefin ac yno Medi 2021). Rhwng cyhoeddi'r cynllun Adnewyddu a Diwygio ym mis Mehefin 2021 a mis Mawrth 2022, dyrannwyd £128m ychwanegol er mwyn parhau i sicrhau y gall y system addysg ymateb i faterion a thystiolaeth wrth iddynt ddod i'r amlwg, gan gynnwys materion penodol yn ymwneud ag ymglymiad dysgwyr a phresenoldeb dysgwyr; cymorth i ddysgwyr sy'n astudio ar gyfer cymwysterau; ac ymateb i unrhyw darfu ar weithrediadau ysgolion drwy hydref 2021, gan gynnwys achosion o amrywiolyn Omicron yn ystod misoedd olaf 2021 ac ailsefydlu rhai cyfyngiadau.

Mae'r Rhaglen Adnewyddu a Diwygio bellach wedi dod yn rhan sefydledig o fframwaith y cymorth sydd ar gael i ysgolion yng Nghymru, ac mae'r asesiad effaith hwn yn adlewyrchu'r dulliau a'r camau a gymerwyd yn ystod y cyfnod llawn y mae'r rhaglen wedi bod yn gweithredu ynddo. Mae mecanweithiau i werthuso'r mesurau a gymerwyd fel rhan o'r Rhaglen Adnewyddu a Diwygio wrthi'n cael eu datblygu. Mae rhaglenni monitro a gwerthuso ar gyfer llawer o fesurau unigol eisoes ar y gweill, gan gynnwys ar gyfer y Rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, a mentrau Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles.

[1] Mae pob dysgwr yn gymwys i gael ymyriadau yn y prosiect 'Pob dysgwr', ond mae ysgolion/colegau yn penderfynu sut i flaenoriaethu ar sail angen. Mae gennym brosiectau ychwanegol i nodi ymyriadau penodol ar gyfer grwpiau blaenoriaeth.

Effeithiau'r pandemig ar ddysgu

Mae astudiaethau cyflym wedi ceisio deall effeithiau cychwynnol y pandemig COVID-19 ar ddysgwyr. Ymysg rhai o’r prif feysydd y mae tystiolaeth wedi tynnu sylw atynt fel achos pryder, mae iechyd meddwl a lles a dysgu, a niwed hirdymor i enillion y dyfodol.

Dangosodd tystiolaeth o'r astudiaeth Co-SPYCE (Saesneg yn unig) a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2020 y byddai'r rhan fwyaf o rieni plant rhwng 2 a 4 oed am gael rhywfaint o gefnogaeth o leiaf gydag ymateb eu plentyn i COVID-19 ac achosion o deimlo’n ynysig, yn enwedig anghenion emosiynol, addysgol ac ymddygiadol eu plentyn. [2] Canfu arolygon Young Minds (Saesneg yn unig) o haf 2020 fod 80% o blant a phobl ifanc â hanes o anghenion iechyd meddwl yn dweud bod y pandemig wedi gwneud eu hiechyd meddwl yn waeth. Mae Asesiad Cyflym o’r Dystiolaeth Llywodraeth Cymru ym mis Medi 2020 ar effaith tarfu torfol ar les ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc hefyd yn tynnu sylw at yr effeithiau hyn, gan gynnwys cynnydd mewn symptomau iselder a gorbryder, yn ogystal â mwy o anawsterau a phryderon sy’n ymwneud ag ymddygiad. 

Canfu arolwg WISERD a oedd yn edrych ar blant ysgol uwchradd yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020, fod llai na hanner yn gwneud gwaith ysgol bob dydd wrth ddysgu o bell, dywedodd dros hanner nad ydynt yn gweithio mor dda gartref, a dywedodd tua 60% eu bod yn poeni am allu dal i fyny gyda’u gwaith. Fe wnaeth yr arolwg Coronafeirws a Fi ym mis Ionawr 2021, a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru yn edrych ar 20,000 o blant, ganfod bod 35% ddim yn teimlo'n hyderus am eu haddysg, o gymharu â 25% ym mis Mai 2020. Mae dros hanner y bobl ifanc 12 i 18 oed yn mwynhau dysgu ar eu cyflymder eu hunain gartref, ond mae llawer yn poeni am syrthio ar ei hôl hi gyda’r dysgu, gwelir bod lefelau hyder a chymhelliant addysg yn gostwng gydag oedran. Mae mwyafrif helaeth o bobl ifanc 15 i 18 oed yn pryderu am syrthio ar ei hôl hi gyda’u cymwysterau, a 69% yn dweud bod eu cymhelliant i wneud gwaith ysgol yn isel.

[2] Recriwtiwyd sampl yr astudiaeth drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys drwy gyfryngau cymdeithasol, dosbarthu drwy sefydliadau partner, rhwydweithiau, elusennau a'r cyfryngau ledled y DU. Mae natur hunan-ddethol recriwtio yn golygu na fydd hwn yn sampl sy’n cynrychioli’r wlad.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Ymchwil Arad i gynnal arolwg ‘archwiliad iechyd' o'r sector gofal plant a chwarae cofrestredig. Agorodd yr arolwg ar 4 Chwefror a daeth i ben ar 18 Chwefror 2021. Roedd y safbwyntiau ar ddatblygiad plant yn gymysg, ond dim ond i roi syniad i ni o bryderon darparwyr (os o gwbl) y cynlluniwyd y cwestiynau hyn. Dylid trin y canfyddiadau hyn yn ofalus gan nad yw ymatebwyr o reidrwydd wedi'u hyfforddi i asesu datblygiad plant. Nododd dros draean o'r lleoliadau (34%) ddirywiad mewn datblygiad ymddygiadol, ac roedd mwy na chwarter (26%) o'r farn y bu cymysgedd o welliannau a dirywiad yn y plant y maent yn gofalu amdanynt. Dywedodd dros draean o'r lleoliadau (35%) eu bod yn teimlo bod dirywiad wedi bod mewn datblygiad cymdeithasol, a chredai bron i chwarter (24%) fod cymysgedd o welliannau a dirywiad wedi bod yn y plant y maent yn gofalu amdanynt.

Mewn perthynas â cholli enillion yn y dyfodol, cyhoeddodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (Saesneg yn unig) adroddiad ym mis Chwefror 2021 yn amcangyfrif potensial o hyd at £350 biliwn o golled mewn enillion oes ar draws yr 8.7 miliwn o blant ysgol yn y DU. Ym mis Mai 2021, cyhoeddodd y Sefydliad Polisi Addysg (EPI) adroddiad ar adferiad a gwydnwch addysg yn Lloegr (Saesneg yn unig) yn amlinellu ystod o senarios yn sgil colli addysg, lle byddai 1 y cant o enillion oes yn cael eu colli yn y senario orau, 2.4 y cant mewn senarios cymedrol a 3.4 y cant yn y senario waethaf. Nododd yr adroddiad ei bod yn debygol y bydd costau pellach mewn perthynas â llai o gynhyrchiant, buddsoddiad ac arloesedd, a fydd yn arwain at dwf economaidd is.

Fe wnaeth adroddiadau blynyddol Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru gan awdurdodau lleol yn 2020, amlygu’r effaith yr oedd y pandemig COVID-19 yn ei chael ar eu gwaith cynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardal. Cyfeiriodd dros hanner yr awdurdodau lleol at bryderon cynyddol gan rieni ynghylch yr effaith yr oedd y pandemig yn ei chael ar sgiliau Cymraeg eu plentyn. Mae hyn yn cyd-fynd ag adborth tebyg gan ymarferwyr mewn ysgolion, rhieni, consortia rhanbarthol a sefydliadau Cymraeg. Rhoddwyd ymyriad tymor byr ar waith yn ystod 2020 i 2021 i gefnogi rhieni, a oedd yn cynnwys canllawiau a dolenni i adnoddau Cymraeg i deuluoedd, yn enwedig teuluoedd di-Gymraeg, i helpu i ddefnyddio a chynnal sgiliau Cymraeg gartref.

Bydd dysgwyr sy’n trochi yn y Gymraeg sy'n byw mewn cartrefi lle nad y Gymraeg yw’r brif iaith yn wynebu heriau penodol, ynghyd â dysgwyr sy'n trosglwyddo o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7. Yn ôl arolwg Coronafeirws a Fi Comisiynydd Plant Cymru ym mis Mehefin 2020, nid yw rhai plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg a rhai plant mewn addysg cyfrwng Saesneg yn cael unrhyw gyfle i ddefnyddio'r Gymraeg. Yng nghanlyniadau arolwg Llywodraeth Cymru o fis Rhagfyr 2020 ar 'Effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg' roedd un rhan o bump o'r grwpiau (20%) wedi llwyddo i addasu eu gweithgareddau i weithredu mewn rhyw ffordd ers i'r cyfyngiadau symud cyntaf ddod i rym ddiwedd mis Mawrth. Mae’n bosibl bod yr 80% arall wedi cadw mewn cysylltiad â'u grŵp, ond heb barhau i weithredu.

leoliadau gofal plant a ariennir y mae llawer o ddysgwyr iau wedi’u cael, gydag effaith gysylltiedig ar eu hanghenion cymdeithasol ac emosiynol, ac ar eu lles a’u haddysg. Yn ei Briff ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar ym mis Gorffennaf 2020, dywedodd Ymddiriedolaeth Sutton (Saesneg yn unig) bod mynychu lleoliadau blynyddoedd cynnar yn werthfawr iawn i bob plentyn, gan arwain at ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol, datblygiad iaith a datblygiad corfforol cadarnhaol. Mae'r diffyg mynediad at ddysgu wyneb yn wyneb yn ystod y cyfyngiadau iechyd cyhoeddus yn golygu ei bod yn bosibl bod y bwlch cyrhaeddiad wedi ehangu eto a bod datblygiad plant wedi’i beryglu'n sylweddol. Er mwyn deall ymhellach effaith COVID-19 ar y blynyddoedd cynnar, comisiynwyd astudiaeth gan Delphi yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.[3] Ei nod yw cael consensws ar yr opsiynau sydd ar gael i nodi unrhyw effeithiau andwyol y mae Covid-19 yn eu cael ar blant ifanc rhwng grwpiau demograffig-gymdeithasol, a’r opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â hwy a’u lliniaru.

Dylai gwaith ymchwil a gwerthuso ein galluogi ni i weld yr effeithiau y mae'r polisïau wedi'u cael ar nodau allweddol fel lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a gwella lles dysgwyr. Drwy'r gwaith gwerthuso parhaus hwn, ac wrth i'r cyd-destun yr ydym yn gweithredu ynddo ddatblygu, ni fyddwn yn oedi cyn datblygu ac addasu ein mentrau os oes angen gwneud hynny er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr effaith bositif fwyaf bosibl. Byddwn yn cyfeirio at yr ymchwil a'r dystiolaeth a gasglwyd gan ein partneriaid yng Nghymru, yn enwedig gwaith Estyn a'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch, er mwyn cyfrannu at ein tystiolaeth ar gynnydd ac i helpu i feithrin capasiti ar gyfer gwelliant parhaus. Byddwn yn sicrhau ein bod ar flaen y gad o ran y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru, ledled y DU ac yn rhyngwladol ynghylch effeithiau'r pandemig ar ddysgu a ffyrdd o fynd i'r afael â'r effeithiau hyn. Byddwn hefyd yn sicrhau bod tystiolaeth o arferion gorau, arloesedd neu faterion a gaiff eu goresgyn yn cael eu rhannu er mwyn helpu'r system i wella ymhellach.

[3] Mae'r dull Delphi yn ffordd o gyfuno barn arbenigwyr lluosog i ddod i gytundeb/consensws ar bwnc.

Y Cynllun Adnewyddu a Diwygio

Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y pandemig wedi cael mwy o effaith ar rai grwpiau o ddysgwyr nag ar eraill. Mae'r cynllun yn cydnabod ac yn ceisio mynd i'r afael â phedwar mater allweddol a gadarnhawyd drwy ystyried y dystiolaeth sy'n ymwneud ag effeithiau'r pandemig ar blant a phobl ifanc:

  1. Bydd angen cymorth ar ddysgwyr i ddatblygu sylfaen gadarn ar gyfer dysgu.
  2. Bydd angen cymorth ar ddysgwyr i barhau i wneud cynnydd, gan ddatblygu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau.
  3. Bydd angen cefnogaeth ar ymarferwyr ar gyfer eu lles eu hunain.
  4. Mae'r system addysg eisoes yn gweithio tuag at ddiwygio.

Ar draws y pedwar mater hyn, effeithiwyd ar wahanol ddysgwyr yn wahanol. Mae'r cynllun yn nodi'r carfannau targed penodol y byddwn yn ceisio eu cefnogi drwy ymyriadau pwrpasol, gan gynnwys:

  1. dysgwyr sy'n agored i niwed neu ddysgwyr difreintiedig, a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
  2. dysgwyr yn y blynyddoedd cynnar (0 i 7 oed sy'n mynychu lleoliadau sy'n cefnogi eu dysgu a'u datblygiad)
  3. dysgwyr mewn addysg ôl-16 a’r broses bontio

Dysgwyr sy’n agored i niwed neu ddysgwyr difreintiedig, a dysgwyr ag ADY

Mae llawer o ddysgwyr yr ystyrir eu bod yn "agored i niwed" wedi cael anawsterau penodol yn ystod y pandemig, gan gynnwys peidio â chael y cymorth priodol gartref yn ystod y cyfnod dysgu o bell, megis gweithwyr cymorth dysgu, cymorth cwnsela, a mathau eraill o gymorth. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y pandemig wedi cynyddu'r anawsterau a wynebir gan blant a phobl ifanc, yn enwedig o ran eu lles. Canfu astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd (Saesneg yn unig) fod lefelau cynyddol o broblemau iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc sydd eisoes yn agored i niwed yn ystod y cyfnodau clo. O ran dysgwyr ag ADY neu anableddau, mae tystiolaeth o bob rhan o'r DU wedi awgrymu bod y problemau a'r anfanteision a wynebir eisoes gan y dysgwyr hyn  wedi'u gwaethygu gan bandemig COVID-19, gan gynnwys adroddiad Biwro Cenedlaethol y Plant (Saesneg yn unig) ar effaith COVID ar ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig; Arolwg Gweithlu Cenedlaethol Cydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig (Saesneg yn unig) yn Lloegr a fu’n adrodd am ar yr heriau o sicrhau bod y dysgwyr hyn yn gallu manteisio ar yr offer a'r ddarpariaeth addysgol angenrheidiol.

I ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig, gwyddom y bu anawsterau penodol yn ystod y pandemig. Byddant wedi bod yn fwy tebygol o gael trafferth wrth ddysgu o bell yn ystod y pandemig, oherwydd diffyg dyfeisiau priodol a methu cysylltu â’r rhyngrwyd. Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan Adran Addysg Lloegr (Saesneg yn unig) wedi dangos effaith gynyddol y pandemig ar ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig ar eu cyrhaeddiad addysgol mewn darllen a mathemateg. Yn yr un modd, mae adroddiadau gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Addysgol (Saesneg yn unig) a'r Fischer Family Foundation (FFT) a TeacherTapp (Saesneg yn unig) wedi cadarnhau casgliadau tebyg ar yr effaith anghymesur ar gyrhaeddiad addysgol dysgwyr o gefndiroedd economaidd ddifreintiedig. Yn ogystal, mae sicrhau bod dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig yn gallu gwneud cynnydd wrth ddysgu i'w llawn botensial yn un o amcanion polisi hirsefydlog Llywodraeth Cymru.

Dysgwyr yn y blynyddoedd cynnar

Mae dysgwyr yn y blynyddoedd hyn mewn cyfnod tyngedfennol ar gyfer datblygiad iaith, a datblygiad cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol. O ganlyniad i darfu yn sgil y pandemig ar eu haddysg gynnar neu ar ddarpariaeth eu gofal, maent mewn perygl o golli cerrig milltir allweddol yn eu datblygiad, sy'n effeithio ar eu lles, eu cyfathrebu a'u datblygiad addysgol.  Mae dysgwyr iau sy’n cael eu trochi yn y Gymraeg yn rhan bwysig o'r grŵp hwn, a'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt fynediad at gymorth yn y Gymraeg gartref. 

Mae ein dull gweithredu yn pwysleisio'r angen i ystyried materion cymdeithasol ac emosiynol sy'n ymwneud â tharfu ar ddysgu, gan gynnwys cymhelliant i ddysgu a phrofiadau rhyngweithiol, yn ogystal â chynnydd mewn dysgu. Yn seiliedig ar dystiolaeth (gan gynnwys Young Minds, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS)), credwn fod dysgwyr y blynyddoedd cynnar yn un o'r grwpiau yr effeithiwyd arnynt fwyaf ac a ddylai fod yn flaenoriaeth inni ar gyfer ymyriadau arbennig.

Dysgwyr mewn addysg ôl-16 a’r broses bontio

I’r dysgwyr hyn, mae’r dilyniant i'w cam nesaf yn bryder allweddol iddynt, yn ogystal â'u cyflogadwyedd a'u sgiliau tymor hirach. Bydd y dysgwyr hyn wedi profi pwysau ac ansicrwydd penodol a sylweddol.

Bydd llawer o ddysgwyr yn symud ymlaen i astudio pynciau newydd neu byddant mewn sefydliadau newydd yn y flwyddyn academaidd nesaf (2021 i 2022 ac wedyn 2022 i 2023), a bydd angen iddynt ymgyfarwyddo â'r newidiadau hyn yn ogystal â goresgyn effeithiau'r pandemig. Mae dysgwyr galwedigaethol, prentisiaid, oedolion sy'n dysgu, y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a'r rhai o gefndiroedd difreintiedig wedi cael eu heffeithio'n arbennig gan gyfyngiadau symud olynol a chyfyngiadau eraill yn sgil y coronafeirws. Maent wedi cael llai o gyfleoedd dysgu ac mae newidiadau wedi’u gwneud i asesiadau ar gyfer eu cymwysterau.

Ar ben hynny, mae myfyrwyr difreintiedig yn fwy tebygol o ddilyn prentisiaethau, ac astudio ar gyfer cymwysterau galwedigaethol a thechnegol. Mae'r tarfu ar yr economi a grëwyd gan y pandemig, yn ogystal â'r angen i gadw at gyfyngiadau iechyd y cyhoedd, yn golygu ei bod yn debygol o barhau i fod yn heriol i gyflogwyr gynnig lleoliadau profiad gwaith. O ganlyniad, efallai y bydd gostyngiadau yn nifer y prentisiaethau a chyfleoedd ar gyfer profiad gwaith. O ystyried hynny, efallai y bydd angen i’r dysgwyr hynny, nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ddilyn cyrsiau addysg bellach ac addysg uwch. A bydd hynny yn eu tro yn rhoi pwysau ychwanegol ar y sectorau hynny.

Canfu Comisiynydd Plant Cymru fod pobl ifanc 15 i 18 oed yn fwy pryderus ar y cyfan, a’u bod wedi cael cyfnodau o unigrwydd a theimlo’n ynysig iawn, ac wedi ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau gofalu o ganlyniad i'r pandemig. Bydd llawer o fyfyrwyr yn dechrau cyrsiau addysg bellach ac uwch gyda llai o hyder a chyda lles gwael o ganlyniad i gyfnodau estynedig o ynysigrwydd cymdeithasol ac ansicrwydd ynghylch eu dyfodol. 

Pob dysgwr ym mhob ysgol

Yn ogystal â'r carfannau penodol hyn, mae'r cynllun hefyd yn nodi bod angen rhoi sylw i fesurau a fydd yn cefnogi addysg a lles pob dysgwr ym mhob ysgol. Bwriedir datblygu’r mesurau hynny mewn modd iteraidd wrth ymateb i effeithiau parhaus a nodir gan ymchwil sydd ar y gweill. Gan ymgysylltu â'r proffesiwn ac â phartneriaid, byddwn yn llunio ar y cyd pecyn integredig o fentrau wedi’u ariannu i gefnogi lles a chynnydd y dysgwyr hyn. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau bod ymarferwyr yn cael yr amser a'r cyfleoedd i ganolbwyntio ar ddysgu ac addysgu drwy’r gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud, a byddwn yn gweithio i ddefnyddio’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu gyda’n gilydd yn ystod y pandemig i greu system addysgol sy'n barod at y dyfodol ac yn gallu goresgyn heriau a ddaw.

Ein nod yw sicrhau cydlyniad a pharhad rhwng y polisi presennol a mentrau newydd i ddarparu cymorth clir sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, ar draws gwahanol garfanau ar hyd taith addysgol dysgwyr. Mae hyn yn cynnwys parhau â'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau er mwyn cefnogi capasiti mewn ysgolion i ddarparu cymorth wedi'i dargedu i ddysgwyr; adeiladu ar ein profiadau o ddysgu o bell a dysgu cyfunol; ac archwilio ffyrdd o wneud y gorau o'r diwrnod ysgol, a'r flwyddyn ysgol, er budd dysgwyr.

Mae'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau a'r cynnig cyfatebol drwy Addysg Bellach wedi cefnogi lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion a sefydliadau addysg bellach i adnabod y dysgwyr sydd â'r angen mwyaf, a datblygu cymorth ar eu cyfer yn unol â phum egwyddor y rhaglen. Mae hyn wedi galluogi ystod o gymorth pwrpasol i ddysgwyr, er enghraifft darparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg, yn enwedig y rhai gyda llai o gyswllt â’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol, gan gynnwys cymorth ar gyfer meysydd allweddol fel llafaredd. Mae hefyd wedi'i bwysoli tuag at ysgolion sydd â niferoedd mwy o ddysgwyr difreintiedig ac agored i niwed er mwyn sicrhau bod cymorth lles a dysgu ar gael, er mai ysgolion ac awdurdodau lleol sy'n cefnogi lleoliadau nas cynhelir a ariennir i ddarparu addysg gynnar sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau ynghylch sut i gefnogi dysgwyr drwy'r cyllid hwn. Rydym yn parhau i fonitro effaith COVID-19 ar addysg cyfrwng Cymraeg tra bydd y rhaglen Adfywio a Diwygio yn gwneud gwaith pellach i ddatblygu dulliau o sicrhau cymorth cyfartal yn y Gymraeg i bob dysgwr.

Casgliad

Mae'r cynllun Adnewyddu a Diwygio yn amlinellu'r cyfeiriad penodol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn ogystal â blaenoriaethau tymor hirach. Bydd yn gweithredu fel fframwaith i lywio'r gwaith o ddatblygu mentrau penodol wedi'u teilwra sy'n mynd i'r afael ag effeithiau negyddol y pandemig ar addysg, gan adeiladu ar ddatblygiadau arloesol, profiadau a mentrau cadarnhaol y flwyddyn ddiwethaf. Byddwn yn parhau â'r daith o ddiwygio addysg yng Nghymru, gan ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd yn sgil COVID-19 fel cyfle i wella a datblygu gwydnwch, parodrwydd a hyblygrwydd y system addysg ymhellach ar gyfer newidiadau hirdymor yn y dyfodol. Bydd y rhaglen yn defnyddio rhaglenni addysgol sy'n bodoli eisoes o'n Cenhadaeth Genedlaethol, diwygio Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET), Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (ECEC) a nodau strategol eraill, yr ydym yn gwybod eu bod yn helpu i gefnogi lles dysgwyr i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar ein mentrau a'n prosiectau cydweithredol presennol ar draws rhaglenni er mwyn osgoi dyblygu a gwella ymyriadau lle bo angen.

Mae ein dull gweithredu yn ceisio adeiladu'n benodol ar y nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hyn yn adeiladu ar ein dull gweithredu a nodir yng Nghynllun Gweithredu'r Cwricwlwm. Bydd y dyheadau hirdymor ar gyfer y cwricwlwm a nodir yn y ddogfen honno, sy'n ymwneud yn uniongyrchol â saith nod llesiant y Ddeddf, hefyd yn ffurfio nodau hirdymor y rhaglen hon. Y rheswm am hyn yw mai bwriad y cynllun Adnewyddu a Diwygio yw cefnogi'r broses o drosglwyddo'r system addysg o'r cyfnod presennol o ymateb i COVID i weithredu’r gwaith o ddiwygio addysg. Mae'n gwneud hynny drwy ddwyn ynghyd yr ymyriadau a'r mentrau hynny a ddefnyddiwyd dros y flwyddyn ddiwethaf yr ydym am eu datblygu, ynghyd ag ymrwymiadau newydd wrth inni gefnogi dysgwyr a'r gweithlu addysg, gan ddefnyddio'r arfer da a'r profiadau cadarnhaol a welsom hyd yma i feithrin hyder, gallu a chapasiti ar gyfer diwygio'r cwricwlwm.  

Mae'r pum ffordd o weithio wedi bod yn rhan annatod o ddatblygiad cychwynnol y rhaglen. Mae’r cynllun Adnewyddu a Diwygio yn ceisio ymgorffori’r pum ffordd o weithio:

  1. Hirdymor: drwy gefnogi dysgu ac addysgu nawr gyda golwg ar gefnogi deilliannau addysgol tymor hwy dysgwyr, a allai gael eu heffeithio'n negyddol os na chymerir camau. Yn yr un modd, mae'r rhaglen yn ymgorffori'r ffordd hon o weithio drwy gefnogi'r broses o drosglwyddo'r system addysg i'r cyfnod diwygio.
  2. Integreiddio: drwy sicrhau bod nodau'r cynllun Adnewyddu a Diwygio yn cyd-fynd â diwygiadau addysg sydd ar y gweill yn ogystal ag agenda strategol ehangach y Llywodraeth ar gyfer addysg ac iechyd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau eu bod yn gyson â nodau diwygio'r cwricwlwm a chefnogi'r broses bontio i’r system newydd.
  3. Ymglymiad: mae'r rhaglen Adnewyddu a Diwygio yn nodi fframwaith gweithredu, lle bydd rhanddeiliaid sydd â diddordeb yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru i gyd-ddatblygu mentrau sydd â'r nod o gefnogi'r carfannau.
  4. Cydweithio: mae'r rhaglen yn cynnwys gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i ddatblygu a chyflwyno mentrau ar draws sawl adran, yn ogystal â chydweithio â chyrff cyhoeddus eraill a sefydliadau perthnasol eraill.
  5. Atal: mae'r rhaglen yn ymgorffori'r egwyddor hon drwy weithredu nawr i sicrhau na fydd y materion a godwyd gan y pandemig yn dod yn fwy difrifol, o ran yr effeithiau ar ddysgwyr a'u haddysg. Mae'r egwyddor hon wedi helpu i lywio'r broses o adnabod y carfannau blaenoriaeth, hynny  sydd fwyaf mewn perygl o ddioddef effeithiau hirdymor negyddol ar eu canlyniadau addysgol oherwydd y tarfu ar eu haddysg (er enghraifft, dysgwyr y blynyddoedd cynnar sydd mewn cyfnod hanfodol o ddatblygiad gwybyddol a chymdeithasol; dysgwyr ôl-16 y bydd eu canlyniadau addysgol cyfredol yn pennu eu camau nesaf; a dysgwyr agored i niwed a difreintiedig, a oedd eisoes yn wynebu rhwystrau sylweddol i'w canlyniadau addysgol cyn y pandemig). 

Byddwn yn parhau i gymhwyso'r gwersi cadarnhaol o ran datblygu ar y cyd a feithrinwyd drwy'r cwricwlwm newydd drwy gydol y broses o gyflwyno'r rhaglen hon. Byddwn yn gwneud hyn mewn cydweithrediad agos â'n partneriaid, y proffesiwn, a'r sector addysg ehangach wrth inni adeiladu ar y sylfeini hyn. Mae'r cynllun wedi amlinellu rhai rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol yr ydym yn bwriadu cydweithio â hwy, ond bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i sicrhau ymgysylltiad helaeth â chynifer â phosibl o'r rhai y mae ein polisi'n effeithio'n uniongyrchol arnynt, a bydd y dysgwyr eu hunain yn rhan allweddol o'n strategaeth ymgysylltu.

Mae’r gwaith o ddatblygu'r rhaglen wedi adlewyrchu'r effeithiau y mae'r dystiolaeth gyfredol wedi'u hamlinellu, gan gydnabod yr angen i gefnogi gwahanol grwpiau o ddysgwyr yn y ffordd briodol. Wrth i'r cynlluniau sydd wedi'u teilwra gael eu datblygu, bydd yr effeithiau’n cael eu hasesu'n drylwyr drwy gydol y broses a bydd gwaith ymgysylltu rheolaidd â rhanddeiliaid allweddol yn flaenoriaeth i'n helpu i sicrhau bod hyd a lled yr effeithiau ar gyfer prosiectau unigol yn cael eu hystyried yn ofalus.

Mae cynllun Adnewyddu a Diwygio Mehefin 2021 yn neilltuo £150m o gyllid ar gyfer y rhaglen yn ystod blwyddyn ariannol 2021 i 2022 i gefnogi dysgwyr, ymarferwyr a darparwyr addysg yn uniongyrchol drwy amrywiaeth o fentrau sydd â'r nod o gefnogi addysg a lles ar gyfer pob dysgwr, gydag ymyriadau ychwanegol ar gyfer y carfannau blaenoriaeth. Mae'r cynllun yn nodi rhagor o fanylion ynghylch ffrydiau ariannu, gan gynnwys y meysydd cymorth blaenoriaeth y byddwn yn parhau i ddatblygu cynlluniau ar eu cyfer.

Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'n strategaethau, byddwn yn datblygu dull clir o werthuso llwyddiant ein hymyriadau. Byddwn yn gwerthuso cynlluniau yn erbyn y meini prawf llwyddiant a nodir yn y cynllun (lles i ddysgwyr ac ymarferwyr, cyrhaeddiad a chynnydd addysgol, tegwch, a hyder rhanddeiliaid) gan ddefnyddio amrywiaeth o fesurau, safbwyntiau a ffynonellau tystiolaeth gwahanol i lywio hyn. Bydd ein dull gwerthuso cydgysylltiedig yn lleihau'r effaith ar ymarferwyr a darparwyr addysg ac yn osgoi’r angen i ofyn am symiau mawr o ddata ac adroddiadau ychwanegol. Bydd llwyddiant wrth gyflawni'r cynllun yn cael ei fesur yn erbyn y meini prawf a ganlyn:

  1. gwell lles i ddysgwyr a staff
  2. cynnydd dysgu gwell
  3. rhagor o degwch rhwng dysgwyr o deuluoedd sy’n wynebu anfanteision economaidd neu sy’n ddifreintiedig mewn unrhyw ffordd arall a'u cyfoedion
  4. hyder ymysg rhanddeiliaid

I gloi, mae'r ystod o dystiolaeth a ystyriwyd yn awgrymu bod dysgwyr yn debygol o fod angen llawer o gymorth ar ôl y tarfu ar addysg neu hyfforddiant, a hynny ar draws sbectrwm eang o feysydd gan gynnwys lles yn enwedig. Mae'r rhaglen Adnewyddu a Diwygio wedi'i chychwyn i fynd i'r afael â'r pryderon hyn, a bydd gwaith pellach ar effeithiau a gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys plant a phobl ifanc, yn rhan annatod o'r gwaith sy'n mynd rhagddo mewn prosiectau unigol manwl.

Datganiad

Rwyf yn fodlon bod effaith y cam gweithredu arfaethedig wedi’i hasesu a'i chofnodi'n ddigonol.

Enw'r Uwch-swyddog Cyfrifol / y Dirprwy Gyfarwyddwr: Georgina Haarhoff

Adran: Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg

Dyddiad: 11 Ebrill 2022

Asesiadau effaith llawn: asesiad o’r effaith ar hawliau plant

1. Disgrifiwch ac esboniwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar fywydau plant, yn gadarnhaol ac yn negyddol?

Mae'r rhaglen Adnewyddu a Diwygio yn cael ei rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r effeithiau tymor byr, tymor canolig a hirdymor ar ddysgwyr o ganlyniad i darfu yn sgil y pandemig COVID-19. Gwella cymorth ar gyfer dysgu yw ffocws craidd y rhaglen, gan sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc sylfeini diogel i ddysgu a gwneud cynnydd yn eu haddysg.

Bydd pedair ffrwd waith yn cael eu sefydlu i gyflwyno'r rhaglen Adnewyddu a Diwygio yn ymarferol. Bydd pob un o’r ffrydiau gwaith hyn yn ddarostyngedig i’w Hasesiad ar yr Effaith ar Hawliau Plant eu hunain.

Bwriad y rhaglen Adnewyddu a Diwygio yw cael effaith gadarnhaol ar y plant a'r bobl ifanc hynny y mae'r pandemig ac achosion o darfu ar ddysgu wyneb yn wyneb wedi effeithio arnynt, drwy gymorth wedi'i deilwra ar gyfer gwahanol garfanau o ddysgwyr. Bydd rhagor o fanylion ynghylch effeithiau penodol ar gael wrth inni barhau i ddatblygu'r mesurau hyn gyda phartneriaid a rhanddeiliaid, dan arweiniad y fframwaith a nodir yn y cynllun Adnewyddu a Diwygio.

Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar wahanol grwpiau o blant (ee, plant sydd wedi dioddef o brofiad niweidiol yn ystod plentyndod, plant sy'n byw mewn tlodi, plant anabl, plant sy'n byw mewn cartrefi Cymraeg eu hiaith a phlant mewn addysg Gymraeg ac ati).

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y pandemig wedi effeithio ar bob dysgwr i ryw raddau. O'r herwydd, bydd y rhaglen yn ceisio mynd i'r afael â'r materion hyn drwy gynnig pecyn cymorth i bob dysgwr mewn perthynas â’u lles a'u cynnydd mewn addysg. Fodd bynnag, mae hyn wedi effeithio mwy ar rai dysgwyr nag ar eraill yn ystod y pandemig a bydd y rhaglen yn canolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael â'r effeithiau ar y grwpiau hyn, sy'n cynnwys:

  1. Dysgwyr sy'n agored i niwed neu ddysgwyr difreintiedig, a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), nid ydynt o reidrwydd wedi cael y cymorth priodol gartref; efallai eu bod wedi cael trafferth cael mynediad at addysg yn ystod y pandemig ac efallai yn cael anawsterau wrth addasu i fywyd yr ysgol drachefn.
  2. Dysgwyr yn y blynyddoedd cynnar (0 i 7 oed sy'n mynychu lleoliadau sy'n cefnogi eu haddysg a'u datblygiad), mae hon yn gyfnod hanfodol ar gyfer datblygiad iaith a datblygiad cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol. Maent mewn perygl o golli cerrig milltir datblygu allweddol, sy'n effeithio ar eu lles, eu cyfathrebu a'u datblygiad addysgol. Mae dysgwyr sy’n cael eu trochi yn y Gymraeg yn rhan bwysig o'r grŵp hwn.
  3. Dysgwyr mewn addysg ôl-16 a’r cyfnod pontio, lle mae dilyniant i'w cam nesaf yn bryder allweddol i'r dysgwyr hyn, yn ogystal â'u cyflogadwyedd a'u sgiliau tymor hirach. Bydd y dysgwyr hyn wedi wynebu pwysau ac ansicrwydd penodol a sylweddol.

Ym mhob un o'r meysydd blaenoriaeth hyn, bydd Asesiadau Effaith Integredig yn manylu ar yr effeithiau ar wahanol grwpiau o blant a phobl ifanc, wrth i fanylion pob ffrwd waith gael eu datblygu ymhellach gyda phartneriaid.

Pa dystiolaeth y gwnaethoch ei defnyddio i lywio eich asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan blant neu eu cynrychiolwyr?

Rydym wedi defnyddio amrywiaeth o ffynonellau tystiolaeth i lywio'r asesiad hwn, gan gynnwys lleisiau plant a phobl ifanc.

Dangosodd tystiolaeth o'r astudiaeth Co-SPYCE (Saesneg yn unig) fod rhieni plant cyn oed ysgol yn pryderu am effaith ymbellhau cymdeithasol a goblygiadau ehangach cyfyngiadau COVID-19 ar les, ymddygiad ac addysg eu plentyn. Canfu arolygon Young Minds (Saesneg yn unig) fod 80% o blant a phobl ifanc yn dweud bod y pandemig wedi gwneud eu hiechyd meddwl yn waeth.   

Canfu arolwg WISERD o blant ysgol uwchradd fod llai na hanner yn gwneud gwaith ysgol bob dydd, dywedodd dros hanner eu bod yn gweithio'n llai effeithiol gartref, a dywedodd tua 60% eu bod yn poeni am allu dal i fyny gyda’u gwaith. Canfu arolwg a gynhaliwyd gan y Comisiynydd Plant, a oedd yn cynnwys 20,000 blant, nad oedd 35% yn teimlo'n hyderus am eu haddysg, o gymharu â 25% ym mis Mai 2020. Mae dros hanner y bobl ifanc 12 i 18 oed yn mwynhau dysgu ar eu cyflymder eu hunain gartref, ond mae llawer yn poeni am syrthio ar ei hôl hi gyda dysgu, gwelir bod lefelau hyder a chymhelliant gydag addysg yn gostwng gydag oedran. Mae mwyafrif helaeth o bobl ifanc 15 i 18 oed yn pryderu am syrthio ar ei hôl hi gyda’u cymwysterau, ac mae 69% yn dweud bod ganddynt gymhelliant isel i wneud gwaith ysgol.

Yn ôl yr arolwg Coronafeirws a Fi gan y Comisiynydd Plant, mae'r rhan fwyaf o blant yn parhau i ddefnyddio'r Gymraeg yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Fodd bynnag, nodwyd bod rhai plant, mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac mewn addysg cyfrwng Saesneg ddim yn cael unrhyw gyfle i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg. Mae arolwg y Comisiynydd Plant a barn plant a phobl ifanc a gynrychiolir ynddo, wedi cefnogi datblygiad y rhaglen Adnewyddu a Diwygio a'i blaenoriaethau.

Mae'r newidiadau datblygiadol cyflym sy'n digwydd yn ystod y blynyddoedd cynnar yn golygu y bydd y tarfu yn sgil y pandemig wedi cael effaith fwy sylweddol ar blant ifanc nag ar eraill. Efallai mai dim ond ychydig wythnosau o ddysgu mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant a ariennir y mae llawer o ddysgwyr iau wedi eu cael, gydag effaith gysylltiedig ar eu hanghenion cymdeithasol ac emosiynol, ac ar eu lles a’u haddysg. Yn y Briff Blynyddoedd Cynnar, nododd Ymddiriedolaeth Sutton (Saesneg yn unig) bod mynychu lleoliad blynyddoedd cynnar yn werthfawr iawn i bob plentyn, gan arwain at ddatblygiad iaith a datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol cadarnhaol. Mae'r diffyg mynediad at ddarpariaeth yn ystod y cyfyngiadau symud yn golygu y gallai'r bwlch cyrhaeddiad gael ei ehangu ymhellach a bod datblygiad plant yn cael ei beryglu'n sylweddol.

Wrth i ni barhau i ddatblygu mentrau polisi ar y cyd â phartneriaid a rhanddeiliaid, gan ddefnyddio'r fframwaith a nodir gan y cynllun Adnewyddu a Diwygio, byddwn yn sicrhau bod gan blant a phobl ifanc lais yn y broses hon.

Sut yr ydych wedi ymgynghori â phlant a phobl ifanc? Os nad ydych wedi gwneud hynny, eglurwch pam.

Ar hyn o bryd rydym wedi defnyddio tystiolaeth sy’n dod i’r golwg o waith ymchwil ac arolygon gan blant a phobl ifanc i lywio ein gwaith cychwynnol. Ni chafwyd strategaethau manwl eto i'w profi gyda dysgwyr. Wrth inni ddatblygu polisïau ymhellach, byddwn yn ymgysylltu'n llawn â phlant a phobl ifanc i gasglu eu barn a gofyn am eu mewnbwn i'r ffrydiau gwaith sy'n deillio o'r rhaglen hon.

Pa dystiolaeth arall fyddai'n llywio'r asesiad?

Byddwn yn cyfeirio at y gwaith ymchwil a'r dystiolaeth a gasglwyd gan ein partneriaid yng Nghymru, yn enwedig gwaith Estyn a'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch, er mwyn cyfrannu at ein tystiolaeth ar gynnydd ac i helpu i feithrin capasiti ar gyfer gwelliant parhaus. Byddwn yn sicrhau ein bod ar flaen y gad o ran y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru, ledled y DU ac yn rhyngwladol ynghylch effeithiau'r pandemig ar ddysgu a ffyrdd o fynd i'r afael â'r effeithiau hyn. Byddwn hefyd yn sicrhau bod tystiolaeth o arferion gorau, arloesedd neu faterion a gaiff eu goresgyn yn cael eu rhannu er mwyn helpu i wella’r system ymhellach.

2. Eglurwch sut mae'r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant

Mae'r adran hon yn gofyn am asesiad, gan ddefnyddio safbwyntiau seiliedig ar wybodaeth, o effaith debygol y cynnig ar hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae'n hollbwysig eich bod yn osgoi'r rhagdybiaeth bod y deilliannau arfaethedig a nodir uchod yr un peth â'r effaith a ragwelir ar hawliau plant.

Bydd angen ichi ystyried yn ofalus sut y mae'r deilliannau arfaethedig yn cysylltu â hawliau plant a pha effaith y byddant yn ei chael. Mae'n bosibl y rhagwelir effeithiau sy'n wahanol i ddeilliannau arfaethedig y cynnig.

Dylech wneud y canlynol:

Pennu pa erthyglau CCUHP  sydd fwyaf perthnasol i’r cynnig

Dyma’r erthyglau CCUHP sy'n berthnasol i'r rhaglen Adnewyddu a Diwygio:

  • Erthygl 12 (parchu safbwyntiau'r plentyn)
  • Erthygl 13 (rhyddid mynegiant)
  • Erthygl 23 (plant ag anabledd)
  • Erthygl 28 (hawl i addysg) 
  • Erthygl 29 (nodau addysg)
  • Erthygl 31 (hamdden, chwarae a diwylliant)

Mae'r rhaglen Adnewyddu a Diwygio yn ceisio sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cyrraedd ei lawn botensial, beth bynnag fo'u cefndir, eu hanghenion neu eu profiad o'r pandemig. Bydd pob penderfyniad yn cael ei arwain gan anghenion dysgwyr a'u lles, gan ganolbwyntio ar leihau anghydraddoldeb addysgol, a sicrhau'r canlyniadau gorau i bawb.

Cofiwch, mae hyrwyddo hawliau plant yn cynnwys y canlynol: cynyddu mynediad plant at eu hawliau, neu at wasanaethau a/neu adnoddau sy’n rhoi mynediad at hawliau, neu alluogi plant i fanteisio ar eu hawliau a chymryd rhan. Dylech egluro sut y mae’r cynnig yn cyflawni’r amcanion hyn, os yw’n gwneud hynny o gwbl.

Hawliau plant yw canolbwynt y rhaglen, sydd wedi'i datblygu i gyflawni'r rhwymedigaethau a nodir o dan Erthyglau 23, 28 a 31 yn benodol. Bydd y Rhaglen Adnewyddu a Diwygio yn cryfhau hawl plant i gael addysg drwy gyflwyno mentrau sy'n cefnogi eu cynnydd addysgol a'u lles (drwy, er enghraifft, gefnogi capasiti ymarferwyr ychwanegol; mynediad at adnoddau ac adnodddau dysgu ychwanegol). Bydd hefyd yn cefnogi'r system ehangach i ddarparu profiadau dysgu gwell. Mae'r rhaglen yn cefnogi'r hawl i gyfleoedd ar gyfer hamdden, chwarae a diwylliant, gan gynnwys drwy ehangu mynediad i weithgareddau diwylliannol, creadigol a mynegiannol, a chwaraeon trwy’r Gymraeg a Saesneg, drwy fentrau fel yr "Haf o Hwyl". Mae'r rhaglen hefyd yn hyrwyddo erthygl 23, gan gynnwys drwy sicrhau bod pob dysgwr, waeth beth fo'i sefyllfa neu ei anghenion penodol, yn cael y cymorth sydd ei angen i fanteisio ar raglen addysg a ffynnu ynddi.

Cydnabod hawl pob plentyn i addysg a sicrhau parhad cwricwlwm eang a chytbwys i bob dysgwr, waeth beth fo'i gefndir na'i allu yw un o nodau allweddol y rhaglen hon.

Eglurwch unrhyw effaith negyddol ar hawliau plant sy'n deillio o'r cynnig, gan gynnwys unrhyw ostyngiad yn yr adnoddau sydd ar gael i gefnogi polisïau neu raglenni.

Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol, er y bydd y cynigion manylach o'r pedair ffrwd waith yn ystyried effeithiau ar y cynigion manylach.