Mae MapDataCymru yn darparu gwybodaeth ddaearyddol a gwasanaethau cysylltiedig o'r sector cyhoeddus.
Rydym wedi gwahodd sefydliadau partner i gofrestru cyfrifon ar y wefan. Gallant ychwanegu data a rhannu hyn yn gyhoeddus neu'n ddiogel â deiliaid cyfrifon eraill.
Mae gwybodaeth ddaearyddol yn cynnwys popeth y gellir ei ddangos ar fap, er enghraifft:
- meddygfeydd
- parthau llifogydd
- llygredd sŵn
- ardaloedd o amddifadedd
Mae MapDataCymru yn caniatáu i chi:
- chwilio am wybodaeth
- arddangos set ddata ar ben map sylfaen
- archwilio, mesur a dadansoddi nodweddion sydd o ddiddordeb