Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Hannah Blythyn AS.
Ddoe fe wnes i ddod yn ymwybodol o ddogfennau gan Lywodraeth y DU a datganiad gan Downing Street bod y Prif Weinidog, Boris Johnson, yn bwriadu rhoi'r gorau i'r ymrwymiadau clir iawn a wnaed i roi terfyn ar yr arfer didostur o 'therapi' trosi. Mae'n ymddangos heddiw bod yr ymateb cyhoeddus negyddol haeddiannol wedi arwain at wrthdroi hyn yn rhannol heb yr amddiffyniadau hollbwysig a addawyd i'r gymuned Drawsryweddol.
I fod yn glir, gwnaeth Llywodraeth y DU addewid clir iawn. Fe wnaethant ddweud y byddai eu cynigion yn 'gyffredinol ac yn amddiffyn pawb beth bynnag fo'u cyfeiriadedd rhywiol ac a ydynt yn Drawsryweddol ai peidio’.
Ar Ddiwrnod Dathlu Trawsrywedd, dewisodd y Prif Weinidog roi'r gorau i geisio amddiffyniadau ar gyfer rhan o'n cymuned. Mae hyn yn annerbyniol ac nid yw'r tro pedol rhannol yn fuddugoliaeth. Mae'r gymuned LHDTC+ yn sefyll fel un, ac nid oes yr un ohonom yn gyfartal tra bod ein hawliau'n destun trafod a chyfnewid.
Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn mynegi fy nghondemniad cryf i'r cam hwn ac wedi pwyso am eglurder ar frys ynglŷn â'u bwriad.
Heddiw, gallaf gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru’n comisiynu cyngor cyfreithiol brys ar y camau y gallwn eu cymryd i wahardd 'therapi' trosi. Byddwn yn gwneud popeth gallwn o fewn ein pwerau datganoledig i ddiogelu ein cymuned LHDTC+. Ni allwn fod â ffydd mwyach y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud yr un peth. Byddwn hefyd yn ceisio datganoli unrhyw bwerau ychwanegol angenrheidiol sydd eu hangen i weithredu hyn.
Mae cefnu ar yr ymrwymiad hwn yn dor-ymddiriedaeth ddifrifol a chywilyddus o ystyried y ffydd dda a ddangoswyd gan y gymuned LHDTC+ a sefydliadau sy’n ymgyrchu dros hawliau dynol. Mae hefyd yn dangos yn glir nad oes ots gan Lywodraeth y DU am y bygythiadau gwirioneddol a difrifol sy’n wynebu’r gymuned LHDTC+ a'r rhai sydd wedi dioddef.
Cafodd yr ymrwymiad i wahardd 'therapi' trosi ei wneud ar sawl achlysur - yn araith y Frenhines, gan y Prif Weinidog, gan Weinidogion Llywodraeth y DU, mewn ymgynghoriadau diweddar a thrwy gyhoeddiadau cyhoeddus. Roedd hefyd yn ymrwymiad a wnaed yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru ac fe wnaethom weithredu’n ddidwyll yn y gobaith bod y cam hwn yn ymgais ddiffuant i unioni anghyfiawnder clir iawn.
Mae'n frawychus ac yn gywilyddus darllen sut y mae pryderon unigolion LHDTC+ yn cael eu diystyru gan Lywodraeth y DU fel 'sŵn' i'w rheoli. Mae hyn yn gwbl annerbyniol. Bydd yr ymateb negyddol gwbl gyfiawn gan y gymuned LHDTC+, ffrindiau, teuluoedd, cynghreiriaid a Llywodraeth Cymru yn llawer mwy na sŵn i'w reoli.