Cyfarfod y Cabinet: 14 Chwefror 2022
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 14 Chwefror 2022.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Vaughan Gething AS
- Lesley Griffiths AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Mick Antoniw AS
- Dawn Bowden AS
- Hannah Blythyn AS
- Julie Morgan AS
- Lynne Neagle AS
Ymddiheuriadau
- Lee Waters AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
- Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
- Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
- Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
- Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
- Matt Wellington, Pennaeth Polisi’r Gyllideb a Chyflawni
- Louise Brown, Pennaeth y Cynllun Cyflogadwyedd
- Huw Morris, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes
Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 7 Chwefror.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Incwm Sylfaenol i Bobl sy’n Gadael Gofal
2.1 Rhoddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol drosolwg o’r cynlluniau i dreialu cynllun incwm sylfaenol, yn unol â’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu.
2.2 Roedd swyddogion wedi datblygu cynigion a oedd yn ystyried pedair egwyddor sylfaenol, yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd oddi wrth arbrofion incwm sylfaenol mewn gwahanol rannau o’r byd, ac yn sgil trafod â Gweinidogion a gwahanol arbenigwyr, gan gynnwys yn benodol y rheini a oedd wedi gweithio’n agos gyda phobl ifanc a oedd â phrofiad o fod mewn gofal. Ni ddylai unrhyw un sy’n cymryd rhan yn yr arbrawf fod mewn sefyllfa waeth, a dylid rhoi’r un taliad i bawb, heb unrhyw amodau nac unrhyw newidiadau i’r incwm hanner ffordd drwy’r cynllun peilot.
2.3 Bwriad y Llywodraeth oedd datblygu a gweithredu cynllun peilot gyda cohort o bobl ifanc sy’n gadael gofal, a fyddai’n profi manteision tybiedig incwm sylfaenol, megis gweld a fyddai’n rhoi sylw i dlodi diweithdra, a gwella iechyd a llesiant ariannol. Byddai’r cynllun peilot yn canolbwyntio ar y rheini sy’n gadael gofal a oedd yn cyrraedd eu pen-blwydd yn 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023. Byddai’n weithredol am o leiaf tair blynedd, gyda phob aelod o’r cohort yn cael taliad incwm sylfaenol o £1600 y mis am gyfnod o 24 mis, o’r mis ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed.
2.4 Roedd y swm hwn yn sylweddol uwch nag unrhyw gynllun peilot incwm sylfaenol mewn unrhyw ran arall o’r byd, ac roedd yn cyfateb yn fras i’r cyflog byw gwirioneddol yn y DU. Byddai lefel uwch y taliadau hyn yn helpu i liniaru’r cosbau ariannol a allai ddigwydd i’r rheini sy’n gadael gofal a oedd yn cael budd-daliadau Llywodraeth y DU, ac roedd potensial y gallai’r taliadau helpu i wella eu bywydau’n sylweddol.
2.5 Diben y peilot oedd gwella’r cymorth a roddir i’r rheini sy’n gadael gofal er mwyn rhoi iddynt y cyfle gorau posibl i lwyddo mewn bywyd, gan ei gwneud yn haws pontio o fod mewn gofal i’r byd y tu allan er mwyn i’r broses honno arwain at ganlyniadau gwell. Byddai’r peilot yn asesu pa mor effeithiol yw’r cymorth hwn i’r rheini sy’n gadael gofal, a byddai’n gyfle i’r Llywodraeth ddysgu mwy am y manteision a allai ddeillio o’r incwm sylfaenol.
2.6 Cafodd Grŵp Cynghori Technegol ei sefydlu o dan Syr Michael Marmot o Goleg Prifysgol Llundain, i helpu’r tîm polisi i ddatblygu, monitro a gwerthuso’r cynllun peilot. Yn ogystal â’r Grŵp Cynghori Technegol, roedd swyddogion wrthi’n datblygu grŵp cyfeirio rhanddeiliaid allanol i helpu i ddatblygu a monitro cynnydd.
2.7 Croesawodd y Cabinet yr adroddiad cynnydd.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod pleidlais wedi cael ei threfnu ar gyfer 7:20pm ddydd Mawrth, ac o gwmpas 6:20pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Cyllideb Derfynol 2022-23
4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth leol y papur, a oedd yn gwahodd y Cabinet i gymeradwyo Cyllideb derfynol 2022-23.
4.2 Ers cyhoeddi’r Gyllideb Ddrafft, roedd yr argyfwng costau byw wedi gwaethygu, ac roedd hynny’n cael effaith sylweddol ar aelwydydd. Roedd y Cabinet wedi cytuno’n flaenorol i ddarparu’r lefel uchaf o gyllid, a oedd yn golygu bod lefelau’r cronfeydd wrth gefn yn hynod isel. Ar y sail honno, nid oedd unrhyw ddyraniadau sylweddol wedi cael eu cynllunio ar gyfer y Gyllideb Derfynol, ar wahân i’r rheini sy’n gysylltiedig â Chyfalaf Trafodiadau Ariannol.
4.3 Fodd bynnag, roedd cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU wedi golygu bod y Llywodraeth yn gallu cario ymlaen £180m pellach i 2022-23. Roedd Gweinidogion y DU wedi awgrymu bod hwn yn gyllid newydd, ond mewn gwirionedd roedd yn cael ei wrthbwyso gan leihad yn y cyllid canlyniadol mewn meysydd eraill.
4.4 Er gwaethaf hyn, oherwydd y camau a gymerwyd i reoli’r cyllid yn 2021-22, a’r gallu i gario ymlaen £180m i 2022-23, byddai’r Llywodraeth yn cyhoeddi pecyn o dros £300m ar gyfer ymateb i’r argyfwng costau byw.
4.5 Croesawodd y Cabinet y papur, yn enwedig y cymorth ychwanegol, i helpu pobl drwy’r argyfwng costau byw.
4.6 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, gan gofnodi ei ddiolch i bawb a oedd wedi cyfrannu at gynhyrchu’r Gyllideb Derfynol.
Item 5: Stronger, Fairer, GreeneEitem 5: Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: Cynllun ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau CAB(21-22)71r Wales: A Plan for Employability and Skills CAB(21-22)71
5.1 Cyflwynodd Gweinidog yr Economi y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno i gyhoeddi’r cynllun newydd ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau.
5.2 Mae’r polisi ar gyfer Cryfhau ac Ailadeiladu'r Economi yn disgrifio cenhadaeth y Llywodraeth i greu Cymru lle mae unigolion o bob oed yn gallu cael addysg o ansawdd uchel, gyda swyddi i bawb, a’r cyfle i fusnesau ffynnu mewn economi sero net sy’n hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb.
5.3 Roedd y Cynllun newydd wedi cael ei ddatblygu yn erbyn cyd-destun o optimistiaeth ofalus wrth i lefelau cyflogaeth barhau i wella, gyda mwy o bobl ifanc yn manteisio ar ddysgu pellach, ac effeithiau’r pandemig ar lefelau cyflogaeth heb fod mor ddifrifol ag y rhagwelwyd ar y dechrau.
5.4 Fodd bynnag, roedd heriau newydd wedi codi. Roedd mwy o swyddi gwag nag yr oedd cyn y pandemig, roedd cyflogwyr yn dweud bod mwy o brinder o ran pobl i weithio, ac roedd nifer cynyddol o bobl â chyflyrau iechyd tymor hir yn gadael y farchnad lafur. Roedd yn glir y byddai angen i’r Llywodraeth roi sylw i’r ffaith bod y gweithlu’n crebachu ac yn heneiddio. Ar yr un pryd roedd cyflogau anghyfartal a’r diffyg mynediad at waith teg yn parhau’n gyffredin.
5.5 Roedd Cymru wedi dioddef yn sgil colli cyllid sylweddol a oedd i fod ar gael yn lle cyllid Ewropeaidd, ac nid oeddem bellach â rheolaeth dros y math hwn o wariant. Serch hynny, roedd y gwaith o gael y gorau o’r Cronfeydd Strwythurol a oedd yn weddill yn parhau.
5.6 Roedd y cynllun newydd yn cynnig pum maes gweithredu allweddol, sef
- gweithredu Gwarant i Bobl Ifanc
- mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd
- hyrwyddo Gwaith Teg i bawb
- helpu pobl sydd â chyflwr iechyd tymor hir i weithio, ac ar yr un pryd codi lefel sgiliau a gwella hyblygrwydd y gweithlu.
5.7 Croesawodd y Cabinet y papur, gan gytuno ei bod yn bwysig adeiladu ar lwyddiant y strategaeth flaenorol.
5.8 Cydnabuwyd y byddai’r cynllun yn helpu i ymwreiddio hawliau gweithwyr ochr yn ochr â chyfrifoldebau cyflogwyr.
5.9 Cymeradwyodd y Cabinet y Cynllun ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau.
Eitem 6: Unrhyw fater arall
6.1 Dywedwyd wrth y Cabinet y byddai Undeb Rygbi Cymru yn cael benthyciad o £18m er mwyn ei gwneud yn bosib setlo’n gynnar y benthyciad gan Lywodraeth y DU, a gafwyd yn 2020 i gefnogi rygbi yng Nghymru drwy’r pandemig. Byddai’r benthyciad newydd yn golygu y byddai’r Rhanbarthau’n gallu talu’r ad-daliadau a chreu maint digonol i’w ddefnyddio ar gyfer gweithredu mewn modd mwy cynaliadwy, o gymharu â chyfyngderau’r benthyciad blaenorol.