Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn darparu £227 miliwn dros y tair blynedd nesaf er mwyn helpu i sicrhau bod economi wledig Cymru a'n hamgylchedd naturiol yn parhau’n gryf ac yn gydnerth.
Mae yna gyfoeth o adnoddau naturiol yn ardaloedd gwledig Cymru ac mae’r adnoddau hynny’n cynnal cymunedau a bywoliaethau. Bydd ganddynt ran bwysig i’w chwarae wrth inni greu economi werdd newydd a fydd yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur sy'n ein hwynebu.
Diben y cyllid hwn yw helpu i sicrhau bod y newid sydd ei hangen yn ystod ein 10 mlynedd o weithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn gynt ac ar raddfa a fydd yn caniatáu inni greu Cymru a fydd yn gryfach, yn wyrddach ac yn decach.
Mae'r dyraniad cyllid hwn yn ymateb i ddiwedd Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG) yr UE, a fydd yn cau yn 2023. Bydd yn sicrhau cysondeb o ran cefnogaeth ar gyfer camau gweithredu pwysig a gyllidwyd yn flaenorol o dan y RhDG.
Bydd y cyllid, a fydd ar gael i gefnogi ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig, yn cael ei ddarparu ar draws chwe thema:
- rheoli tir ar raddfa ffermydd; camau ar y fferm i reoli tir mewn ffordd gynaliadwy er mwyn gwella adnoddau naturiol, megis annog ffermwyr i dyfu cnydau sydd o fudd i’r amgylchedd, e.e. cnydau protein
- gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd; gan gynnwys gwella effeithlonrwydd o ran tanwydd, porthiant a maetholion, gwneud dulliau’r economi gylchol yn rhan annatod o waith ffermydd, a’u hannog i ddefnyddio ynni adnewyddadwy
- effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd; helpu ffermydd i wneud arbedion effeithlonrwydd drwy fuddsoddi mewn technoleg ac offer newydd, a’u galluogi i greu cyfleoedd i arallgyfeirio’n amaethyddol
- rheoli tir ar raddfa’r dirwedd; mynd ati ar raddfa’r dirwedd i ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur, drwy gydweithredu ar draws nifer o sectorau
- coetiroedd a choedwigaeth; cefnogi’n hymrwymiad i greu 43,000 hectar o goetiroedd erbyn 2030 a chefnogi'r gwaith o greu strategaeth ddiwydiannol sy'n seiliedig ar bren
- cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio; creu diwydiant bwyd a diod cryf a ffyniannus yng Nghymru sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth ac sydd ag un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn y byd yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol
Mae'r fframwaith yn ategu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd wrthi’n cael ei ddatblygu, ac a fydd yn gwobrwyo ffermwyr a rheolwyr tir am y gwaith y maent yn ei wneud i ymateb i heriau'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur ac i gynhyrchu bwyd mewn ffyrdd cynaliadwy, gyda manteision i ddiogelwch bwyd yng Nghymru ac yn fyd-eang.
Cyhoeddodd y Gweinidog fod cynlluniau sy’n werth cyfanswm o £100 miliwn naill ai’n dechrau yn awr neu’n cael eu lansio yn ystod yr wythnosau nesaf i gefnogi'r themâu hyn. Bydd mwy i ddod wrth i’r gwaith dylunio manwl barhau.
Bydd y cynlluniau hyn yn helpu i wella adnoddau naturiol ar ffermydd ac i helpu ffermwyr i droi at systemau cynhyrchu organig.
Bydd cynlluniau hefyd i gefnogi sector garddwriaeth Cymru, a buddsoddiad mewn offer a thechnoleg newydd i wella perfformiad technegol, ariannol ac amgylcheddol busnesau fferm.
Mae cynlluniau sy'n cynnig grantiau rhwng £1,000 a £5,000 yn rhan o'r pecyn cymorth a fydd ar gael, a’u diben nhw yw datblygu cynlluniau i greu coetiroedd newydd, a chynllun i helpu i adfer coetiroedd.
Mae trafodaethau gyda Phlaid Cymru i gyflawni ymrwymiadau o fewn y Cytundeb Cydweithredu yn parhau. Mae’r rhain yn cynnwys gweithio gyda’r gymuned ffermio i annog creu coetiroedd ar dir llai cynhyrchiol a thrwy ddulliau amaeth-goedwigaeth a ‘gwrychoedd ac ymylon’, ac edrych ar ffyrdd o ddenu buddsoddiad ar gyfer creu coetiroedd sy’n sicrhau perchnogaeth a rheolaeth leol.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig:
Mae’n heconomi wledig yn chwarae rhan hanfodol yn y ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau. Mae'n darparu'r bwyd o safon rydyn ni'n ei fwyta, yr adnoddau naturiol rydyn ni'n eu mwynhau, ac yn cynnal cymunedau a bywoliaethau ledled Cymru.
Rydyn ni’n gwybod bod yr economi honno’n dal i wynebu sawl her, yn enwedig y newid yn yr hinsawdd sy'n bygwth ein tir, sy’n effeithio ar ansawdd dŵr ac aer, ac sy’n rhoi mwy o bwysau ar fioamrywiaeth.
Rydyn ni eisiau cefnogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy gan ffermwyr Cymru, ac rydyn ni eisiau i’n cymunedau gwledig ni gael dyfodol gwyrdd a chynaliadwy. Mae'r pecyn hwn wedi'i gynllunio i gefnogi'r nodau hyn. Ni all economi wledig gref ond fod o fudd i’n cymunedau gwledig ni.
Bydd y cyllid sylweddol rwyf yn ei gyhoeddi yn allweddol i gefnogi ein ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a busnesau bwyd i hyrwyddo cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac i gwrdd â’r heriau sydd o’n blaen, gan gefnogi cyflymder a graddfa’r newid sydd ei angen i gefnogi’r economi wledig ar y llwybr at Gymru sero net sy’n bositif i fyd natur.