Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wedi rhybuddio bod y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru o dan ‘bwysau eithriadol’ ar hyn o bryd oherwydd amrywiaeth o ffactorau.
Mae heriau sylweddol wedi rhoi’r sector dan straen – achosion o COVID mewn ysbytai, sy’n cyfyngu ar y capasiti sydd ar gael o ran gwelyau, lefelau uchel o COVID yn y gymuned, absenoldeb staff oherwydd salwch, a phroblemau wrth symud cleifion drwy ein hysbytai, gan greu anawsterau o ran eu rhyddhau.
Mae’r problemau hyn, y mae Gwasanaeth Iechyd Cymru a staff gofal cymdeithasol wedi bod yn gweithio’n ddiflino i’w rheoli, wedi’u gwaethygu gan gynnydd diweddar yn lefelau’r galw.
Rydyn ni’n pwyso ar bobl Cymru i’n ‘helpu ni i’ch helpu chi’ drwy ddefnyddio gwefan GIG 111 Cymru sy’n nodi’r symptomau, i sicrhau eu bod nhw’n cael y gofal cywir yn y lle cywir y tro cyntaf.
Bydd hyn yn help i leihau oedi, lle bo modd, cyn gallu rhoi gofal, ac i drin pobl sy’n fwy difrifol wael yn y ffordd fwyaf priodol.
Daw hyn wedi i fwrdd iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ddatgan argyfwng parhad busnes ddoe, neu rybudd du, yng ngoleuni’r pwysau eithriadol y mae’n eu hwynebu yn Ysbyty Athrofaol y Faenor ac ar safleoedd eraill.
Dyma’r lefel uchaf o ran straen, ac mae’n dangos yn glir y pwysau difrifol sy’n wynebu ein gwasanaethau iechyd a gofal.
Ar hyn o bryd, mae safleoedd ysbytai ar draws Cymru o dan bwysau eithriadol, ac mae hyn wedi effeithio ar y gallu i ddarparu gofal yn brydlon.
Ar adegau, mae hyn wedi golygu oedi hirfaith cyn gallu symud cleifion o ambiwlansys, cyfyngu ar gapasiti ambiwlansys, oedi mwy cyn gallu symud cleifion o adrannau brys i wely ysbyty, ac oedi mwy cyn gallu eu rhyddhau i fynd adref ar ôl eu triniaeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £42m mewn gofal cymdeithasol – caiff rhywfaint o hwn ei ddefnyddio i gynyddu capasiti cymunedol a chefnogi pobl i fynd yn ôl i’w cymuned leol pan fyddan nhw’n barod i adael yr ysbyty – a £25m mewn gofal brys; yn ogystal â £248m yng nghronfa’r GIG i ddod dros COVID.
Mae mesurau eisoes wedi’u cymryd ar draws pob bwrdd iechyd i leddfu’r pwysau, i sicrhau y gall cleifion barhau i gael y gofal a’r driniaeth sydd eu hangen arnyn nhw mewn ffordd ddiogel a phrydlon.
Mewn ymgais i reoli’r sefyllfa yn ardal bwrdd iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, lle mae Ysbyty Athrofaol y Faenor, mae pob gweithdrefn nad yw’n hanfodol wedi’u canslo, ac mae’r uwch-weithwyr clinigol ac anghlinigol yn ailflaenoriaethu eu llwyth gwaith yn unol â hynny er mwyn rheoli’r sefyllfa ar draws ardal Gwent.
Mae’r sefyllfa yn cael ei hailasesu drwy gydol y diwrnod.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:
Mae’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru o dan bwysau eithriadol ar hyn o bryd ac fe fydden ni’n annog unrhyw un sydd angen gofal i sicrhau eu bod yn cael y gofal cywir yn y lle cywir, boed hynny drwy ‘ein helpu ni i’ch helpu chi’ a defnyddio gwefan GIG 111 Cymru, neu drwy ofal brys neu ofal argyfwng.
Rydyn ni wedi bod yn agored am yr heriau sy’n wynebu Gwasanaeth Iechyd Cymru, ac adrannau 999 ac Adrannau Achosion Brys yn benodol. Nid yw hon yn sefyllfa unigryw i Gymru; mae gwasanaethau iechyd ledled y Deyrnas Unedig yn wynebu heriau tebyg.
Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu darparu’n ddiogel ac yn effeithiol a dylai unrhyw un sydd wir angen triniaeth ysbyty ar frys a’r rhai sydd â ‘salwch sy’n bygwth bywyd neu anaf difrifol’ fynd o hyd i’r adran achosion brys.
Gall y rhai nad oes angen gofal ar gymaint o frys arnynt, neu’r rhai a allai gael y driniaeth angenrheidiol mewn lleoliad arall, helpu i leihau’r pwysau drwy ddewis y gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion.
Gall y cyhoedd fod o gymorth hefyd drwy helpu’r broses o ryddhau aelodau o’u teuluoedd o’r ysbyty yn amserol pan fyddan nhw’n barod i adael. Os oes perthynas i chi neu un o’ch anwyliaid yn yr ysbyty sy’n ddigon iach i fynd adref, ond mae’n aros i gael ei ryddhau gyda gofal cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai y gallwch chi ei helpu i fynd adref yn gynt os gallwch chi a’ch teulu ei gefnogi gartref.