Y Cwricwlwm i Gymru: sut mae consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn cynorthwyo ysgolion?
Comisiynwyd yr adroddiad hwn er mwyn: gwerthuso’r cynnig dysgu proffesiynol a ddarperir gan gonsortia rhanbarthol i ysgolion, gyda ffocws penodol ar y cwricwlwm, a’r effaith y mae wedi’i chael ar wella addysgu a dysgu.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Crynodeb o’r prif ganfyddiadau
Nododd Estyn amrywiaeth o arferion cadarnhaol mewn gwasanaethau gwella ysgolion wrth gefnogi ysgolion i baratoi ar gyfer diwygio. Roedd hyn yn cynnwys arddangos prosesau cynllunio'r cwricwlwm a chamau datblygu'r cwricwlwm; datblygu dulliau cryfach o gefnogi cydweithio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd a thargedu cymorth yn gyffredinol i ysgolion sy'n peri pryder. Ystyriwyd hefyd bod Gwasanaethau Gwella Ysgolion wedi meithrin perthynas gryfach ag ysgolion yn ystod y pandemig ac wedi cynyddu'r defnydd o gymorth o ysgol i ysgol.
Roedd Estyn hefyd o'r farn bod y cymorth i wella ansawdd yr addysgu a'r dysgu yn rhy amrywiol ac nad oedd gan wasanaethau gwella ysgolion ddealltwriaeth ddigon clir o ansawdd yr addysgu a'r dysgu. Mewn rhai achosion, ystyriwyd nad oedd digon o gymorth i ysgolion ac ymarferwyr ddatblygu eu medrau sy’n benodol i bwnc. Roedd Estyn hefyd o'r farn nad oedd cymorth o ysgol i ysgol yn cael ei fonitro'n gyson; na nodwyd materion yn ymwneud ag arweinyddiaeth ac addysgu yn ddigon cyflym ac nad oedd effaith dysgu a chymorth proffesiynol yn cael ei gwerthuso'n ddigon da ar hyn o bryd.
Argymhellion 1 i 4
Dylai’r consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol:
- wella ansawdd ac effaith y cymorth ar gyfer arweinwyr i wella addysgu a dysgu yn eu hysgolion
- gwella’r cymorth ar draws pob disgyblaeth bwnc
- darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol ymarferol sy’n cynorthwyo arweinwyr ac athrawon i ddeall yn well sut gallant ddylunio a chyflwyno eu cwricwlwm
- gwella prosesau gwerthuso fel bod arweinwyr a swyddogion yn monitro effaith y cymorth ar gyfer diwygio’r cwricwlwm ac addysgu.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Gan ystyried yr argymhellion hyn ar gyfer gwasanaethau gwella ysgolion, rydym yn gweithio i:
- adnewyddu'r Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol er mwyn rhoi mwy o ystyriaeth i hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol, cyd-lunio hyn â'r haen ganol ac ysgolion a nodi ein disgwyliadau ym mis Medi
- gweithio gyda'r gwasanaethau gwella ysgolion ac Estyn ar fodel cliriach ar gyfer casglu a rhannu gwybodaeth am effaith a sut mae hyn yn bwydo i mewn i wella gwasanaethau
- darparu pecyn cymorth gyrfa gynnar a fydd yn canolbwyntio ar ddisgyblaethau pwnc ac yn arwain at gymorth ariannol i athrawon sy'n ceisio ymgymryd â gwaith ar lefel Meistr
- dod ag arbenigwyr mewn meysydd allweddol i bartneriaeth â'r rhanbarthau i ddatblygu dysgu proffesiynol mewn ymateb i ofynion y cwricwlwm newydd e.e. bydd y Prosiect Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth dan arweiniad Rhwydwaith BAMEed (Cymru) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn datblygu model cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol i gefnogi'r newid o ddulliau nad ydynt yn hiliol i ddulliau gwrth-hiliol
- adeiladu ar y newid llwyddiannus i’r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol sy'n cynnwys bron i 300 o ysgolion, gyda gwerthusiad allanol o adroddiadau’r prosiect y tymor nesaf i gefnogi'r newid i ddull mwy cynaliadwy a chenedlaethol
Argymhelliad 5
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ystyried sut gall gwersi a ddysgwyd o’r rhaglen ysgolion arloesi ddylanwadu ar brosiectau cenedlaethol yn y dyfodol
Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyn
Mae dysgu o'r broses arloesi yn gwbl hanfodol. Tynnwyd y ffyrdd o weithio a amlinellwyd yng Nghynllun Gweithredu'r Cwricwlwm yn uniongyrchol o’r hyn a ddysgwyd o'r broses arloesi a'r hyn a weithiodd yn dda. Wrth i brosiectau cenedlaethol gael eu sefydlu at y dyfodol, byddwn yn sicrhau bod yr egwyddorion hyn yn rhan annatod ohonynt.
Yn benodol, mae'r Rhwydwaith Cenedlaethol yn dangos bod cyd-awduro gwirioneddol a pherchnogaeth ymarferwyr wrth wraidd ein hymdrechion i gefnogi gweithredu'r cwricwlwm. Rydym yn gweithio gydag ymarferwyr a phartneriaid i sicrhau bod y Rhwydwaith Cenedlaethol yn adlewyrchu'r egwyddorion hyn ac yn sbarduno newid, gan lywio polisi'r llywodraeth a mireinio'r cwricwlwm yn y dyfodol.
Yn yr un modd, ym mis Chwefror, lansiodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Camau I'r Dyfodol. Gan adeiladu ar egwyddorion y model arloesi a'i gyflwyno drwy'r Rhwydwaith Cenedlaethol, bydd pob ysgol yn cael cyfle i adeiladu ar eu profiad presennol o gynnydd dysgu, a chyfrannu at ddealltwriaeth genedlaethol a rennir o'r hyn sy'n bwysig. Bydd hyn yn dwyn ynghyd arbenigedd a phrofiad ymarferwyr a phartneriaid addysg i gyd-ddatblygu cyd-ddealltwriaeth gyffredin o gynnydd ar gyfer pob dysgwr sy'n ystyrlon, yn hylaw ac yn gynaliadwy.
Argymhelliad 6
Dylai Llywodraeth Cymru:
- egluro a symleiddio telerau ac amodau ar gyfer dysgu proffesiynol a datblygu’r cwricwlwm er mwyn galluogi’r consortia rhanbarthol i werthuso eu gwaith yn well
Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyn
Mae trefniadau wedi'u rhoi ar waith, gyda chymorth consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol, ar gyfer trefniadau grant o 1 Ebrill 2022 i gysoni ac egluro gofynion cymorth gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru yn well.
Argymhelliad 7
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ystyried dulliau i alluogi’r consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i werthuso effaith a chanlyniadau eu gwaith ar gyfer cefnogi’r cwricwlwm ac addysgu, a chael eu dwyn i gyfrif amdano
Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyn
Byddwn yn gweithio gyda'r gwasanaethau gwella ysgolion ac Estyn ar fodel cliriach ar gyfer casglu a rhannu gwybodaeth am effaith a sut mae hyn yn cyfrannu at wella gwasanaethau.
Rydym hefyd yn bwriadu cyhoeddi canllawiau Gwella Ysgolion yn nhymor yr haf, a fydd yn ei gwneud yn glir mai cyd-bwyllgorau consortia rhanbarthol neu fyrddau cwmnïau sy'n bennaf gyfrifol am ddwyn eu swyddogion i gyfrif am effaith a chanlyniadau eu gwaith. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi hyn drwy archwilio effaith gwaith gwasanaethau gwella ysgolion mewn cyfarfodydd adolygu a herio ddwywaith y flwyddyn.
Manylion cyhoeddi
Bydd yr adroddiad llawn ar gael ar wefan Estyn o 24 Mawrth ymlaen.