Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r rhan fwyaf o Fframweithiau Cyffredin wedi bod yn weithredol ar sail dros dro ers diwedd 2020. Mae'r fframweithiau hyn wedi darparu sylfaen sy’n fwy cyfartal ar gyfer datblygu polisi ymhlith swyddogion ac maent wedi bod yn effeithiol. O'r 26 o fframweithiau sy'n berthnasol i Gymru, mae un fframwaith wedi bod drwy'r broses graffu lawn, wedi cael cymeradwyaeth Weinidogol ac wedi’i gyhoeddi’n derfynol. Mae 23 o fframweithiau yn weithredol ar sail dros dro. Mae'r ddau fframwaith sy'n weddill wrthi'n cael eu datblygu ar hyn o bryd.

Cafodd y cynllun cyflawni ar gyfer y Fframweithiau Cyffredin ei seilio ar y disgwyliad y byddent yn cael eu cwblhau a'u rhoi ar waith cyn dechrau cyfnod cyn-etholiadol Cynulliad Gogledd Iwerddon ddiwedd mis Mawrth. Gan nad yw hyn yn ymarferol mwyach yn achos y rhan fwyaf o fframweithiau, bydd y gwaith craffu yn awr yn parhau y tu hwnt i fis Mawrth er mwyn sicrhau bod gan y deddfwrfeydd ddigon o amser i gyflawni'r rôl hon yn effeithiol.

Mae'r rhan fwyaf o'r fframweithiau wedi'u cyhoeddi bellach er mwyn i’r deddfwrfeydd graffu arnynt. Y fersiynau presennol o’r fframweithiau sy'n weithredol dros dro tra bo’r gwaith craffu mynd rhagddo, a’r argymhellion yn cael eu hystyried, yw’r rhain. Bydd y pedair llywodraeth am ddeall barn pob deddfwrfa cyn penderfynu'n derfynol ar newidiadau i fframweithiau unigol a fydd yn deillio o unrhyw argymhellion.

Mewn perthynas â mater cysylltiedig, ar 10 Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU broses, a ddatblygwyd gan bob un o'r pedair llywodraeth, ar gyfer ystyried a chytuno ar eithriadau o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU mewn meysydd y ceir Fframwaith Cyffredin mewn perthynas â hwy. Nid yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar Ddeddf Marchnad Fewnol y DU wedi newid ac mae ein her gyfreithiol yn parhau.

Proses ar gyfer ystyried eithriadau i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU mewn meysydd Fframweithiau Cyffredin - GOV.UK (www.gov.uk) (Saesneg yn Unig)

Ar wahân i’r mater hwnnw, ar 9 Rhagfyr, cyhoeddodd Neil O'Brien AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Ffyniant Bro, yr Undeb a'r Cyfansoddiad Ddatganiad Ysgrifenedig Gweinidogol i Senedd y DU ar ddefnyddio adran 12 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Roedd y datganiad hwn yn nodi, o ganlyniad i'r cynnydd a wnaed i sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn cydweithrediad â'r llywodraethau datganoledig, fod Llywodraeth y DU yn bwriadu diddymu adran 12 (y "pŵer rhewi") drwy ddefnyddio'r pŵer galluogi a nodir yn adran 12(9) o'r Ddeddf. Rydym yn croesawu'r diddymiad hwn a'r ffaith nad yw'r “pŵer rhewi” erioed wedi'i arfer.

Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael): Adroddiad y Fframweithiau Cyffredin - Hansard - Senedd y DU (Saesneg yn Unig)

Yn olaf, cyhoeddwyd y trydydd adroddiad ar ddeg a'r pedwerydd adroddiad ar ddeg sy’n ymwneud â defnyddio adran 12 o'r Ddeddf – sy’n cwmpasu rhyngddynt y cyfnod o 26 Mehefin i 25 Rhagfyr 2021 – ar 11 Rhagfyr 2021 a 10 Mawrth 2022, yn y drefn honno.

Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a’r Fframweithiau Cyffredin: 26 Mehefin i 25 Medi 2021 - GOV.UK (www.gov.uk) (Saesneg yn Unig)

Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a’r Fframweithiau Cyffredin: 26 Medi i 25 Rhagfyr 2021 - GOV.UK (www.gov.uk)  (Saesneg yn Unig)