Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi penodiadau i Bwrdd Cynghori Gweinidogol Economaidd newydd, a fydd yn rhoi cyngor arbenigol ar faterion polisi economaidd i Lywodraeth Cymru.
Bydd y Bwrdd yn darparu cyngor allanol amserol, perthnasol ac arbenigol ar faterion penodol sy'n ymwneud â'r economi, drwy nodi heriau a chyfleoedd economaidd yn y presennol ac yn y dyfodol i ddatblygu economi Cymru a'i helpu i ffynnu.
Ynghyd â llunio cyngor a'i gyflwyno i Weinidogion, bydd aelodau'r Bwrdd yn trafod syniadau polisi ac yn gweithredu fel seinfwrdd ar gyfer datblygu polisi yn y dyfodol - gan gynnig her gadarn a phrofi polisïau allweddol lle bo hynny'n briodol.
Penodwyd yr Athro Andrew Campbell yn Gadeirydd y Bwrdd. Ar hyn o bryd mae Andrew yn Athro Ymarfer mewn Twristiaeth ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Dyma aelodau eraill y Bwrdd:
- Andrea Wayman, Dirprwy Gadeirydd Daw Andrea â chyfoeth o arbenigedd o'r sector cyflogaeth, hyfforddiant a chydraddoldeb.
- Yr Athro Syr Adrian Webb Mae Adrian wedi dal llawer o swyddi uwch mewn llywodraeth leol a llywodraeth ganolog, yn ogystal â'r Trydydd sector.
- Ifan Peredur Morgan Mae Peredur yn cynrychioli Cymru ar Fforwm Ieuenctid Banc Lloegr ac mae ganddo brofiad yn y sectorau bancio a thechnoleg.
- Helen Swift Mae gan Helen gefndir proffesiynol mewn materion polisi materion rhyngwladol, awyrofod, amddiffyn a seiberddiogelwch
- James DaviesMae gan James 30 mlynedd o brofiad mewn diwydiant yn Ewrop ac Asia, ac mae bellach yn Brif Swyddog Gweithredol Diwydiant Cymru.
- David D'Souza Cyfarwyddwr Aelodaeth y Sefydliad Siartredig Datblygiad Proffesiynol, mae David hefyd wedi gweithio ar draws ystod o wasanaethau ariannol a sefydliadau manwerthu.
- Emily Cotteril Mae Emily wedi cyflawni prosiectau llwyddiannus sy'n wynebu busnesau a defnyddwyr a dyfarnwyd hi yn Arwr Stryd Fawr Dan 25 yn 2016 yng Ngwobrau Stryd Fawr Prydain Fawr.
- Miatta Fahnbulleh Ar hyn o bryd yn Brif Weithredwr y Sefydliad Economeg Newydd a, chyn hynny, bu'n Gyfarwyddwr Ymchwil yn y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus.
Mae aelodaeth y Bwrdd yn dwyn ynghyd unigolion sydd ag ystod amrywiol o sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd i roi eu safbwynt mewn meysydd busnes, y byd academaidd, llais gweithwyr a'r agenda Gwaith Teg.
Byddant hefyd yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar y materion economaidd sy'n effeithio ar bobl ifanc, yn ogystal â nodi arfer gorau a dysgu o ardaloedd y tu allan i'r DU, ac edrych ar sut y gallai hyn lywio ein syniadau polisi yng Nghymru.
Wrth i aelodau ddefnyddio eu gwybodaeth a'u harbenigedd personol, bydd eu mewnbwn yn ategu ac yn ychwanegu gwerth at ffynonellau cyngor allanol presennol a ddarperir gan fforymau a phartneriaid eraill.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi'r penodiadau hyn i'm Bwrdd Cynghori Economaidd. Mae gan bob aelod gyfoeth o arbenigedd a phrofiad gyda nhw a fydd yn helpu i wella ein dealltwriaeth o'r dirwedd economaidd a busnes.
"Mae'n Fwrdd a fydd yn fy helpu i gyflawni fy uchelgais i greu'r amodau lle mae mwy o bobl, yn enwedig y rhai difreintiedig a phobl ifanc, yn teimlo'n hyderus ynghylch cynllunio eu dyfodol yng Nghymru.
"Rwyf hefyd yn falch iawn o benodi'r Athro Andrew Campbell yn Gadeirydd. Mae profiad Andrew fel arweinydd ac academydd mewn sector economaidd allweddol yn golygu ei fod yn fwy na chymwys i gyflawni'r rôl allweddol hon. Edrychaf ymlaen hefyd at weithio gydag Andrea Wayman fel Dirprwy Gadeirydd sydd â chyfoeth o brofiad mewn cyflogaeth, hyfforddiant a chydraddoldeb cynhwysol.
"Bydd cyngor y Bwrdd, yn unigol ac ar y cyd, yn amhrisiadwy wrth iddynt fy nghefnogi i fwrw ymlaen â'n huchelgais i wella datblygiad economaidd Cymru a’i gallu i wrthsefyll - nawr ac yn y dyfodol wrth i ni barhau i wella o'r pandemig.
"Dwi'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw."