Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae Cymru’n Genedl Noddfa – ac mae croeso cynnes yma i bawb sy'n chwilio am rywle diogel i fyw.
Ym mis Ionawr 2019, cyhoeddais ein cynllun, Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches, sy’n cydnabod ein hymrwymiad i gefnogi'r rheini sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru. Mae’r cynllun hwnnw’n cadarnhau ein hymrwymiad i gefnogi’r bobl hynny sydd angen cymorth.
Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw polisi lloches, ond bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei holl bwerau datganoledig i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n cyrraedd Cymru. Mae’r cynllun yn cynnwys y camau gweithredu sydd, yn ein barn ni, yn hanfodol i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a wynebir gan y rheini sy’n chwilio am noddfa – ac i’w cefnogi wrth iddynt ymgartrefu yng Nghymru ac wrth greu cymunedau cydlynus.
Yn sgil y digwyddiadau diweddar yn Affganistan ac yn Wcráin, a'r gwrthdaro a'r ormes a wynebir gan bobl a chymunedau ledled y byd, rwy’n rhoi rhodd o £1m i Gronfa Croeso Cenedl Noddfa sydd newydd ei sefydlu. Mae’r Gronfa’n cael ei gweinyddu gan Sefydliad Cymunedol Cymru.
Bydd y gronfa hon yn agored i roddion gan y cyhoedd yn ogystal â chan sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Bydd Sefydliad Cymunedol Cymru yn cydweithio â sefydliadau’r trydydd sector i gefnogi'r rhai sy'n chwilio am noddfa yma yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol.
Bydd y rhodd hon yn galluogi Sefydliad Cymunedol Cymru i fwrw ymlaen â'r gwaith hanfodol hwnnw'n gyflym, gan gefnogi pobl o Wcráin sy'n cyrraedd Cymru yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Ond bydd hefyd yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n cyrraedd Cymru o wledydd eraill.