Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd
Ym mis Medi 2021, lansiais ymgynghoriad 12 wythnos ar wella prosesau cofrestru ac adrodd ar symudiadau ar gyfer defaid, geifr, gwartheg a moch ynghyd â'r bwriad i weithredu trefn ar gyfer rhoi tagiau electronig i wartheg (EID Gwartheg).
Datblygwyd y cynigion ar ôl ymgysylltu'n helaeth â'r diwydiant amaethyddol ehangach ac ar y cyd â rhanddeiliaid mewnol a chynrychiolwyr allanol o'r diwydiant drwy'r Grŵp Cynghori ar Adnabod Da Byw (LIDAG).
Cyhoeddwyd y ddogfen ymgynghori ar wefan ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac anfonwyd copïau papur i bob marchnad da byw a lladd-dy, prif swyddfeydd undebau a CFfI Cymru a derbyniwyd cyfanswm o 36 o ymatebion ysgrifenedig . Cynhaliwyd dadansoddiad llawn a chynhwysfawr o'r holl ymatebion a gafwyd. Mae'r ymatebion bellach wedi'u crynhoi gan fy swyddogion mewn dogfen gryno ac mae hi ar gael i'w darllen ar wefan Llywodraeth Cymru.
Bydd y cynigion y cytunwyd â nhw yn cael eu cynnwys mewn diwygiadau deddfwriaethol sydd ar y gweill a'u gweithredu drwy EIDCymru ar gyfer gwartheg a moch.