Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel y dangosodd adroddiad diweddar yr IPCC, rydym yn cyrraedd pwynt di-droi-nôl ar gyfer y blaned.  Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn debygol o fod yn waeth na'r disgwyl, a'n taro'n gynt nag yr oeddem yn ei feddwl. Dyna pam y mae'n rhaid gweithredu yn y ddegawd hon i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a pham y mae'r Llywodraeth hon wedi addo ymgorffori ein hymateb iddo ym mhopeth a wnawn.

Heddiw, hoffwn dynnu sylw'r Senedd at Gynllun Masnachu Allyriadau'r DU. Mae Cynllun Masnachu Allyriadau y DU yn faes polisi na ŵyr llawer amdano, ac yn dechnegol iawn, ond bydd yn chwarae rhan hollbwysig wrth gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer yr hinsawdd. Mae'n cwmpasu ychydig o dan hanner holl allyriadau Cymru (cyfran uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU) ac mae'n codi cannoedd o filiynau o bunnoedd o Gymru ar gyfer Trysorlys y DU.

Mae’r Cynllun Masnachu Allyriadau yn gweithio drwy gael allyrwyr mawr yn y sectorau diwydiant, pŵer ac awyrennau i dalu am eu hallyriadau; gyda lwfansau'n dod o gronfa sy'n lleihau'n barhaus (a elwir yn 'gap' lwfansau). Lle mae cost datgarboneiddio yn llai na chost prynu lwfansau, mae diwydiant yn gyrru allyriadau o'r sector am y gost isaf. Wrth gwrs, mae amrywiol ddulliau o amddiffyn a mesurau diogelu yn y system i atal busnesau rhag symud i rywle arall, gan roi ein hallyriadau i wledydd eraill.

Crëwyd y Cynllun ym mis Ionawr 2021, mewn ymateb i'r DU yn gadael Cynllun Masnachu Allyriadau yr UE. Fodd bynnag, mae angen iddi ddatblygu eisoes os yw'n mynd i gefnogi ein targedau sero net uchelgeisiol.

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru fel rhan o Gynllun Masnachu Allyriadau Awdurdod  y DU wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar sut y gallai'r cynllun newid. Yn benodol, mae'r ymgynghoriad yn cynnwys cynigion ar gap newydd, a fyddai'n cael ei weithredu yn 2024. Drwy leihau nifer y lwfansau sydd ar gael, gallwn sicrhau bod y cynllun yn cyd-fynd â llwybr sero net (gan gynnwys ein cynllun sero net diweddar a strategaeth sero net UKG). Mae'r ymgynghoriad yn edrych ar sut y caiff lwfansau eu dyrannu am ddim o fewn y cynllun, gan gynnwys eu rôl a'u cyfran gymharol i ddiogelu cystadleurwydd busnesau tra'n parhau i leihau allyriadau.

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn cydnabod yr allyriadau sylweddol nad ydynt yn dod o dan Gynllun Masnachu Allyriadau y DU, ac mae'n cynnig y dylid ehangu'r cynllun i gynnwys llongau domestig, llosgi gwastraff, technolegau Tynnu Nwyon Tŷ Gwydr. Mae'n galw am dystiolaeth ar sut y gallem wella'r broses o fesur allyriadau amaethyddol i gefnogi polisi datgarboneiddio yn y dyfodol; a fyddai hyn yn cael ei wneud drwy Gynllun Masnachu Allyriadau y DU neu drwy ddull gwahanol. Bydd sectorau allyrru uchel eraill yn cael eu hystyried yn ddiweddarach.

Ochr yn ochr â'r cynigion sylweddol hyn, mae'r ymgynghoriad yn cyflwyno ystod o welliannau technegol i sicrhau bod y cynllun yn gweithredu'n effeithiol ac yn parhau i fod yn addas i'r diben.

Yn seiliedig ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, bydd yn rhaid i ni lywio cwrs ar y cyd sy'n cydbwyso gwahanol anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n bwysig bod y penderfyniadau terfynol yn ystyried pob barn, a'u bod yn seiliedig ar dystiolaeth gref a chredadwy, y bydd yr ymgynghoriad a'r dadansoddiad parhaus yn cyfrannu ati.

Efallai y bydd dewisiadau anodd ynglŷn â'r ffordd orau o gyflawni diben datgarboneiddio tra'n diogelu cystadleurwydd busnesau mewn marchnad fyd-eang gyfnewidiol ar yr un pryd, a lle y dylai costau datgarboneiddio ostwng er mwyn sicrhau ein bod yn galluogi 'pontio'n unig'. Nid yw Cymru erioed wedi osgoi gwneud y penderfyniadau hyn wrth inni fynd ar drywydd cenedl wyrddach, decach a chryfach ar gyfer y dyfodol. Rydym eisoes wedi gwneud penderfyniadau anodd i reoli llygredd ffosffad yn well gyda rheoliadau newydd, rydym yn cynnal adolygiad ffyrdd i'n galluogi i leihau ôl troed carbon Cymru a chynhyrchu mapiau llifogydd TAN15 newydd; heb sôn am ein safiad clir ar echdynnu tanwydd ffosil.

Nid yw'r holl benderfyniadau a chamau gweithredu hyn wedi bod yn boblogaidd gan bawb. Ond nid oes ar y Llywodraeth hon ofn gweithredu lle gwyddom y bydd yn gwneud gwahaniaeth. Dim ond un blaned sydd gennym ac mae angen inni roi gobaith i genedlaethau'r dyfodol.

Mae ein Cymru Sero Net a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi'r camau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau eu cymryd i arwain, galluogi a chefnogi'r newidiadau sydd eu hangen arnom yn y Senedd hon a thu hwnt. Nodir mwy na 120 o bolisïau a chynigion sy'n cwmpasu pob maes bywyd, o adfer mawndiroedd i ynni adnewyddadwy.

Mae'r Cynllun yn cydnabod na all Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur ar ein pen ein hunain ac, yn bwysig, mae'n nodi disgwyliadau Llywodraeth y DU. Mae angen iddi chwarae ei rhan a chymryd y camau sydd eu hangen i ddatgloi dyfodol gwyrdd yng Nghymru ac ar draws y DU, yn enwedig yn y sectorau diwydiannol ac ynni, lle mae llawer o'r pwerau wedi'u cadw yn San Steffan.

Mae'r refeniw a godir o'r Cynllun Masnachu Allyriadau yn llifo i San Steffan hefyd ond nid oes gennym dryloywder eto o ran sut y defnyddir y refeniw hwn i gefnogi datgarboneiddio yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian – gyda thros hanner ein cyllideb gyfalaf wedi'i dyrannu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd – ond mae angen i ni weld yr un lefel o ymrwymiad gan Lywodraeth y DU nawr.

Anogaf yr aelodau i roi o'u hamser i ddarllen a deall y cwestiynau sy'n cael eu codi. Helpwch ni i sicrhau bod y dull pwysig hwn yn cael ei ddefnyddio i wireddu uchelgais sero-net y Senedd hon mewn ffordd nad yw'n gadael neb a nunlle yng Nghymru ar ei hôl hi.

Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU: Developing the UK Emissions Trading Scheme (UK ETS) - GOV.UK (www.gov.uk) (Saesneg yn Unig)