Y meysydd gwaith y bydd y Prif Swyddog Nyrsio yn canolbwyntio arnynt ar gyfer 2022 i 2024.
Cynnwys
Datblygwyd blaenoriaethau’r Prif Swyddog Nyrsio er mwyn pennu cyfeiriad strategol y proffesiynau Nyrsio a Bydwreigiaeth. Mae’r meysydd gwaith penodol yn cael eu cefnogi a/neu eu harwain gan Swyddfa’r Prif Swyddog Nyrsio yn Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i gyflawni Cymru Iachach (2018) a gallu cyflawni’r Rhaglen Lywodraethu o fewn tymor y llywodraeth hon.
Rhagair
Rwy’n cyhoeddi’r ddogfen hon yn dilyn fy saith mis cyntaf fel Prif Swyddog Nyrsio Cymru. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydw i wedi cyfarfod â nyrsys a bydwragedd ar bob lefel ledled Cymru, yn bersonol ac yn rhithwir, er mwyn i mi ddeall eu safbwyntiau ac er mwyn llywio fy arsylwadau o’r system iechyd yma a beth ddylai ein blaenoriaethau fod ar gyfer y dyfodol agos.
Dyma’r tro cyntaf i flaenoriaethau’r Prif Swyddog Nyrsio gael eu pennu’n weithredol mewn cydweithrediad â Chyfarwyddwyr Gweithredol Nyrsio o fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig yng Nghymru. O ystyried y cyflymder y bydd ei angen i wireddu’r blaenoriaethau hyn dros y ddwy flynedd nesaf, mae mabwysiadu dull gwirioneddol gydweithredol wrth eu dylunio wedi bod yn bwysig i mi er mwyn sicrhau ymdeimlad o gydberchnogaeth.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu nifer o gamau y byddaf yn eu cefnogi a’u hyrwyddo fel pennaeth y proffesiynau, ond nid wyf o dan unrhyw gamargraff y byddaf yn arwain y gwaith o’u cyflawni ar fy mhen fy hun. Mae’r themâu a’r meysydd dan sylw yn y blaenoriaethau hyn yn cwmpasu sawl rhan wahanol o’r GIG, gofal cymdeithasol, Sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru a bydd angen i lawer o’r gwaith gael ei gefnogi, ei hyrwyddo a’i weithredu gennych chi yn y system. Y gobaith yw y bydd gweithlu’r sector annibynnol hefyd yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau hyn ac yn cefnogi’r gwaith o’u cyflawni.
Efallai y gwelwch bynciau’n cael sylw o fewn y blaenoriaethau hyn sy’n gyfarwydd i chi, ond hoffwn eich sicrhau nad oes gennym unrhyw fwriad i ddyblygu gwaith yn y meysydd hyn. Mae hwn yn gyfle i ni ddod ynghyd a chydgysylltu’r hyn sy’n cael ei wneud eisoes a chyfuno’r adnoddau sydd ar gael i ni er mwyn cynyddu i’r eithaf yr hyn y gallwn ei gynnig i bobl Cymru. Dylai hyn sicrhau hefyd ein bod mewn sefyllfa i ddysgu o’r gwaith hwnnw a grymuso sefydliadau a gweithwyr proffesiynol i weithredu gwahanol ffyrdd o weithio gyda phwyslais ar ddiwallu anghenion cyfannol defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
Mae’n amlwg i mi fod arweinyddiaeth y proffesiynau yn rhan ganolog o’r datblygiadau system sydd eu hangen i ganiatáu i’n gwasanaethau iechyd barhau i ddarparu gofal o safon uchel i’n cleifion i’r dyfodol. Felly, rwyf wedi ymrwymo i arwain y gweithlu drwy’r newidiadau anochel sydd o’n blaenau ac ysbrydoli mwy o bobl i ddewis nyrsio a bydwreigiaeth fel gyrfaoedd deinamig a gwerth chweil.
Rydw i hefyd yn bendant y bydd model gofal nyrsio yn y dyfodol yn seiliedig ar waith amlddisgyblaethol. Y syniad o “dîm o amgylch y claf” i ddarparu’r gofal priodol yw’r cyfeiriad cywir ar gyfer y ffordd rydym yn strwythuro ein gweithlu at y dyfodol, a chredaf ei bod yn bwysig bod y llais nyrsio yn cael ei ategu gydol y dull hwnnw.
Yn olaf, fe welwch yn y blaenoriaethau hyn y pwysigrwydd a roddaf ar dôn lleisiau yn y proffesiynau. Rwy’n credu’n gryf mewn arweinyddiaeth dosturiol ac rydw i am i’n nyrsys a’n bydwragedd arwain y ffordd yng Nghymru o ran cydweithio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol mewn modd empathetig, caredig ac ystyriol. Fy ngobaith yw y bydd hyn yn meithrin iechyd a lles ein staff a’r bobl a’r cymunedau y maent yn darparu gofal ar eu cyfer.
Sue Tranka
Gweledigaeth y Gyfarwyddiaeth
Mae’r proffesiynau Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cael eu galluogi i ddarparu gofal diogel o safon uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ledled Cymru.
Gydag arweinyddiaeth genedlaethol a chymorth arbenigol, bydd blaenoriaethau’r Prif Swyddog Nyrsio yn cefnogi ac yn galluogi gwelliannau ac yn hwyluso darpariaeth gwasanaethau ddi-dor, hygyrch a theg.
Drwy annog creadigrwydd mewn timau i ddylanwadu ar welliannau polisïau a chyflawni, bydd hyn yn arwain at well profiad i gleifion a gwell canlyniadau.
Rhaid i ofal diogel o ansawdd da fod yn sail i’r holl waith datblygu polisi a darparu gwasanaethau ar draws y system. Bydd Swyddfa’r Prif Swyddog Nyrsio yn gweithio mewn partneriaeth â sawl grŵp cynghori proffesiynol a pholisi i bennu’r cyfeiriad a dylanwadu ar bolisïau ar gyfer gwell canlyniadau ansawdd a diogelwch.
Byddwn yn cydweithio ag arweinwyr proffesiynol addysg a Nyrsio a Bydwreigiaeth yn y GIG, Gofal Cymdeithasol, y sector annibynnol a’r trydydd sector i fynd i’r afael ag annhegwch ac anghydraddoldeb a dileu rhwystrau, gan hyrwyddo diwylliant lle mae’r holl staff yn cael eu galluogi i gyrraedd eu llawn botensial.
Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn:
- Dangos arweinyddiaeth gyson gyda charedigrwydd a thosturi gan feithrin dull diwylliant cyfiawn lle mae gonestrwydd, uniondeb, gwrthrychedd, ymddiriedaeth a pharch wrth wraidd gwaith bob dydd.
- Denu, recriwtio, hyfforddi, addysgu a chadw’r gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth er mwyn lleihau’r ffactor swyddi nyrsio a bydwreigiaeth gwag, gan weithio tuag at sefyllfa lle nad oes unrhyw swyddi gwag dros 3-5 mlynedd.
- Cefnogi’r ddarpariaeth iechyd a lles meddyliol ar gyfer y gweithlu.
- Datblygu polisïau sy’n galluogi gweithleoedd cadarnhaol ar gyfer staff nyrsio a bydwreigiaeth gyda thegwch i bawb.
- Denu a datblygu cysylltiadau proffesiynol ledled Cymru gan ddefnyddio model arweinyddiaeth ar y cyd a chynhwysol.
- Ehangu a chryfhau gwerth sefydliadau sy’n dysgu gyda thimau rhanbarthol, cenedlaethol a lleol.
- Annog diwylliant o ymchwil ac arloesi wrth ddarparu gofal, wedi’i lywio gan adborth gweithwyr proffesiynol a chleifion, i wella’r modd y cyflawnir safonau proffesiynol.
Y pum blaenoriaeth gyffredinol y cytunwyd arnynt yw:
- Arwain y proffesiynau
- Gweithlu
- Gwneud y proffesiynau yn ddeniadol
- Gwella canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol
- Tegwch proffesiynol a chydraddoldeb gofal iechyd
1. Arwain y Proffesiwn
Ein huchelgais
Ein huchelgais yw buddsoddi mewn arweinwyr nyrsio a bydwreigiaeth a’u datblygu ar bob lefel mewn iechyd a gofal cymdeithasol drwy raglenni arweinyddiaeth pwrpasol er mwyn adeiladu cyflenwad o dalent, ar bobl lefel, gyda ffocws cychwynnol ar lefelau uwch.
Pam mae hyn yn bwysig
Fel Prif Swyddog Nyrsio, mae’n hanfodol cefnogi arweinyddiaeth gref ac effeithiol ar bob lefel ym mhob sefydliad i ddarparu gofal o safon uchel yn gyson, nodi gweithlu dawnus a datblygu arweinwyr olynol i hyrwyddo newid a chreu amgylchedd lle croesewir chwilfrydedd proffesiynol a lle mae staff yn cael eu hannog i godi llais os oes ganddynt bryderon.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy
- Gwrando’n weithredol ac ymgysylltu â chydweithwyr a chleifion i feithrin ‘athroniaeth un tîm’ i aildanio caredigrwydd ym maes nyrsio a bydwreigiaeth.
- Sefydlu cysylltiadau ffurfiol â Sefydliadau Addysg Uwch a phrifysgolion i feithrin cydweithio ac i ddangos ymrwymiad academaidd cryf i rolau arwain.
- Datblygu canllawiau a phecyn cymorth gweithredu i gefnogi lansiad modelau arwain ar y cyd, gan ddefnyddio cyd-lywodraethu i ategu tosturi, gan alluogi trawsnewidiad o ran ansawdd ar draws y sectorau gofal.
- Mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ariannu rhaglen nyrsio ysgoloriaeth fyd-eang Sefydliad Florence Nightingale am gyfnod cychwynnol o dair blynedd er mwyn cynnal cyfraniad nyrsio a bydwreigiaeth arbenigol proffil uchel yn y maes cenedlaethol a rhyngwladol.
- Cynnig rhaglen o fentoriaeth a hyfforddiant dan arweiniad nyrsys a bydwragedd profiadol ar gyfer uwch arweinwyr proffesiynol gweithredol a darpar arweinwyr proffesiynol gweithredol; drwy Gyfarwyddwr Gweithredol y Rhwydwaith Nyrsio sydd wedi ymddeol.
- Sefydlu rhwydwaith Prif Swyddog Nyrsio ar gyfer nyrsys sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a’r sector annibynnol, i wella ymgysylltiad, rhannu syniadau a chael adborth i lywio meysydd polisi proffesiynol.
- Cydweithio ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ddatblygu rhaglen olyniaeth a nodi talent Cymru gyfan sy’n creu cyfleoedd i arweinwyr y dyfodol ddod i amlygrwydd, meithrin profiad a sicrhau buddsoddiad ynddynt.
2. Gweithlu
Ein huchelgais
Ein huchelgais yw cau’r bwlch swyddi gwag a denu, recriwtio a chadw gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth cymwys, brwdfrydig a medrus sydd â’r gallu a’r priodoleddau i ymgymryd â’u rolau’n hyderus wrth ddiwallu anghenion y boblogaeth, gan weithio i’w llawn botensial. Byddwn yn tyfu ac yn trawsnewid ein gweithlu, gan hyrwyddo timau amlddisgyblaethol ac amlbroffesiynol sy’n cydweithio i wella canlyniadau drwy ffyrdd arloesol o weithio, gyda chefnogaeth technoleg.
Pam mae hyn yn bwysig?
Mae anghenion iechyd a gofal y boblogaeth yn newid a rhaid i ni fod â dull methodolegol clir o gynllunio’r gweithlu ar draws pob sector i gefnogi’r newidiadau hyn er mwyn sicrhau bod gennym y gweithlu cywir wedi’i gyflogi ar draws sectorau a lleoliadau gofal yng Nghymru.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy
Cadw staff
- Sicrhau bod nyrsys a bydwragedd yn cael eu cefnogi, eu galluogi, eu grymuso ac y gwrandewir arnynt.
- Darparu cyfleoedd a llwybrau gyrfa, wedi’u cefnogi gan addysg a datblygiad wedi’u targedu a nodwyd.
- Sicrhau bod nyrsys a bydwragedd yn gallu cael goruchwyliaeth gydol eu gyrfa sy’n briodol i’w rolau.
- Hyrwyddo cyfleoedd datblygu cyfartal ar draws meysydd y proffesiynau.
- Gwella ein gwybodaeth am ddata staff sy’n gadael.
- Cefnogi iechyd a lles y proffesiynau drwy weithio mewn partneriaeth â’r gweithlu i adolygu a dylanwadu ar bolisïau.
- Comisiynu’r adolygiad o fframweithiau ymarfer uwch fel rhan o fframweithiau gyrfa.
- Cadw nyrsys a bydwragedd, gan gynnwys cymhellion i bob cenhedlaeth i weithio i GIG Cymru.
- Cefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu fframweithiau gyrfa, a chynyddu nifer y swyddi nyrsys/bydwragedd ymgynghorol, nyrsys/bydwragedd arbenigol ac academaidd glinigol a gyd-ariennir i ddiwallu anghenion gofal iechyd y boblogaeth.
- Sicrhau cyfle cyfartal i nyrsys a bydwragedd o leiafrifoedd ethnig.
- Sefydlu rhwydweithiau i sicrhau cysylltiadau ffurfiol â nyrsio ‘ar lawr gwlad’ a sicrhau bod nyrsys ar bob lefel yn cael llwybr clir i Swyddfa’r Prif Swyddog Nyrsio i gael cyngor a chymorth ynghylch datblygu polisïau.
- Gwneud Cymru’n lleoliad o ddewis i ddilyn gyrfa o ran cyfleoedd, lles personol a hunan-wireddu.
Denu staff
- Cefnogi’r system i ddarparu strategaeth genedlaethol ar gyfer denu, recriwtio a chadw nyrsys a bydwragedd.
- Cefnogi byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG i wella’r defnydd o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) er mwyn sicrhau modelau gweithlu a fydd yn diwallu anghenion y boblogaeth.
- Gweithio gyda pholisïau gweithlu Llywodraeth Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru i bennu cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio’r gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth (pob maes).
- Cefnogi modelau gofal gweithlu newydd, er enghraifft, ystyried cyfeiriad polisi ar gyfer rolau cofrestredig Band 4 i gefnogi ‘tîm o amgylch y claf’.
- Gweithio ar y cyd ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Sefydliadau Addysg Uwch i gefnogi ehangu capasiti lleoliadau i fyfyrwyr mewn lleoliadau iechyd a gofal, ar draws sectorau gofal ble bynnag y darperir gofal i bobl, gyda chyfleoedd dysgu ar gael.
- Gweithio ar y cyd â Sefydliadau Addysg Uwch i gynyddu nifer yr ymgeiswyr nyrsio a bydwreigiaeth israddedig i brifysgolion Cymru.
- Gweithio gyda chydweithwyr polisi, arweinwyr y gweithlu a rhanddeiliaid i sicrhau gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth a fydd yn cefnogi dull darparu integredig ar draws sectorau sy’n canolbwyntio ar ofal ‘seiliedig ar le’ i ddiwallu anghenion lleol cymunedau, ac i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Recriwtio
- Datblygu strategaeth recriwtio ryngwladol drwy ddull unwaith i Gymru.
- Ymgorffori prosesau recriwtio gwell.
- Ehangu nifer y graddedigion yn y gweithlu yn unol ag anghenion cynllunio’r gweithlu.
- Mynd i’r afael â heriau cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol sy’n newid gyda hyblygrwydd, gan hyrwyddo’r rhyngwyneb rhwng staff sy’n gweithio ar draws sectorau gofal, gan gynnwys drwy gyfleoedd datblygu.
- Sefydlu ac ymgorffori ‘pasbort sgiliau’ unwaith i Gymru ar gyfer y proffesiynau yn seiliedig ar sgiliau clinigol e.e. gweinyddu meddyginiaeth drwy ddyfais fewnwythiennol, tiwb nasogastrig, cathetrau etc.
3. Gwneud y proffesiwn yn ddeniadol
Ein huchelgais
Ein huchelgais yw ysbrydoli pobl i ddewis y proffesiynau nyrsio a bydwreigiaeth fel yr yrfa broffesiynol o ddewis ym maes gofal iechyd yng Nghymru.
Pam mae hyn yn bwysig?
Rydym yn nhrydedd flwyddyn y pandemig Covid-19 a nawr yn fwy nag erioed, fel y gweithlu gofal iechyd mwyaf mewn maint sy’n ennyn yr ymddiriedaeth fwyaf, rhaid i nyrsys a bydwragedd ddefnyddio eu proffesiynoldeb a’r ymddiriedaeth yn eu cofrestriad, i weithio ar frig eu trwydded gan ymateb yn hyblyg ac yn gynaliadwy i’r heriau iechyd a gofal cymdeithasol mae Cymru bellach yn eu hwynebu.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
Hyrwyddo’r proffesiynau - dylanwadu ar ddiwygio rheoliadau; sefydlu cyfeiriad a safbwynt polisi sy’n gyson yn genedlaethol o ran cymorth proffesiynol sy’n rhychwantu gyrfa (tiwtoriaeth a goruchwyliaeth glinigol); lansio rhaglen cydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth. Cefnogir gan:
- Cynyddu nifer y secondeion proffesiynol ar gyfer iechyd, gofal cymdeithasol, Sefydliadau Addysg Uwch a'r sector annibynnol yn gweithio gyda thîm y Prif Swyddog Nyrsio bob blwyddyn i arwain gwaith polisi penodol / allweddol.
- Gwerthuso effaith model 2017 o oruchwyliaeth glinigol ar gyfer bydwragedd a’r cymorth y mae wedi’i ddarparu.
- Lansio rhaglen gydnabyddiaeth genedlaethol yn 2022. Cyhoeddwyd enillwyr cyntaf Gwobr Ragoriaeth y Prif Swyddog Nyrsio ym mis Ebrill 2022 yng Nghynhadledd Flynyddol y Prif Swyddog Nyrsio. Bydd hyn yn cynnwys Nyrs y Flwyddyn y Coleg Nyrsio Brenhinol a gwobrau Betsi Cadwaladr.
- Dylanwadu ar bolisi ar bob cyfle i sicrhau bod y proffesiynau nyrsio a bydwreigiaeth yn cael eu cynrychioli.
- Penodi secondai proffesiynol ar gyfer addysg i swyddfa’r Prif Swyddog Nyrsio (2023-2024) i wireddu ar gyfer y system weledigaeth ar gyfer llwybrau gyrfa ymchwil yng Nghymru a chwmpasu roboteg ym maes Nyrsio – i lunio safbwynt polisi.
- Mynd ati’n ddiwyd i ystyried systemau digidol sy’n cefnogi ymarfer nyrsio a bydwreigiaeth, ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd, cynnwys a chyd-gynhyrchu mewn gofal a monitro canlyniadau er mwyn galluogi dull seiliedig ar werthoedd a ysgogir gan ddata o ymdrin â nyrsio a bydwreigiaeth.
- Cryfhau hunaniaeth broffesiynol drwy sicrhau cysondeb o ran rolau a theitlau nyrsio (lle bo’n briodol) i gefnogi aliniad proffesiynol ledled Cymru.
- Drwy “Here for Life” a “Nursing Now”, codi proffil a gwella delwedd/canfyddiadau o’r proffesiynau nyrsio a bydwreigiaeth.
- Diffinio gyrfaoedd nyrsio a bydwreigiaeth cryf sy’n sicrhau aliniad proffesiynol cryf â swyddfa’r Prif Swyddog Nyrsio a chysondeb mewn rolau a theitlau ledled Cymru.
- Model rôl i’r system drwy greu amgylchedd gwaith cadarnhaol o fewn cyfarwyddiaeth y Prif Swyddog Nyrsio, wedi ymrwymo i dosturi, gonestrwydd, tegwch a thryloywder a gwneud #CNOCymru yn lle gwych i weithio.
4. Gwella canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol
Ein huchelgais
Ein huchelgais yw darparu gofal teg o ansawdd da sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gyson ar lefel iechyd y boblogaeth, gan alluogi nyrsys a bydwragedd i feithrin sefydliadau sy’n dysgu; gan ddefnyddio haenu risg a data PROMS/PREMS i ddarparu gwasanaethau diogel ac effeithiol o safon uchel.
Pam mae hyn yn bwysig?
Mae gan nyrsys a bydwragedd rôl allweddol o ran deall ffactorau diogelwch ac wrth ddatblygu mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMs) a mesurau profiad a adroddir gan gleifion (PREMs), y gellir eu defnyddio i asesu ansawdd profiadau gofal iechyd. Drwy gefnogi’r mesurau hyn, gall nyrsys a bydwragedd gyfrannu at ethos sefydliadau sy’n dysgu, gan arwain y gwaith o wella a gwerthuso’r canlyniadau a/neu’r broses ofal.
Bydd yr wybodaeth hon yn galluogi cyd-gynhyrchu gyda dinasyddion, darparwyr gofal iechyd, comisiynwyr a rhanddeiliaid eraill i gefnogi dysgu ehangach, rhannu arfer gorau, arloesi a gwella ansawdd clinigol drwy rwydwaith dysgu cenedlaethol.
Mae’r dull hwn yn cyd-fynd â deddfwriaeth allweddol drwy annog meddwl yn yr hirdymor a gweithredu integredig a chydweithredol sy’n gweithio i gyflawni nod llesiant Cymru Iachach(2018).
Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
- Gweithio ar y cyd â’r Tîm Gofal Iechyd Seiliedig ar Werthoedd i ddylunio a datblygu fframwaith adborth a all hwyluso adborth unigol gan gleifion a dinasyddion fel y gellir teilwra canlyniadau’n well i anghenion unigol fel rhan o’r broses o weithredu’r Ddyletswydd Gonestrwydd - (Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) Cymru 2020); (Fframwaith Ansawdd a Diogelwch y GIG 2021).
- Datblygu’r safonau ar gyfer fframwaith achredu wardiau er mwyn helpu i ysgogi gwelliannau mewn safonau ansawdd a diogelwch sy’n cyd-fynd â safonau dementia a siarteri defnyddwyr gwasanaethau.
- Cefnogi graddfa a lledaeniad y dangosfwrdd ansawdd fel rhan o weithredu’r Ddyletswydd Ansawdd - (Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) Cymru 2020); (Fframwaith Ansawdd a Diogelwch y GIG 2021).
- Gweithio gyda’r Uned Gyflawni i ehangu ei hyb gwybodaeth o ansawdd genedlaethol i ddarparu/hysbysu’r gwaith o rannu adborth cleifion a staff, arferion gorau, arloesi a gwella ansawdd clinigol.
- Ariannu pob bwrdd iechyd i fod ag arweinydd staffio er mwyn bodloni disgwyliadau’r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 a helpu i gyflwyno’r systemau digidol ar y rhestr staff e.e. Dyrannu.
- Dylanwadu ar y gwaith monitro a dysgu o Covid-19, gan gynnwys rhaglen o waith ymchwiliol i achosion o ddigwyddiadau nosocomiaidd COVID a gafwyd yn yr ysbyty.
- Gweithredu a chyflawni’r rhaglen cymorth diogelwch mamolaeth a newyddenedigol.
- Cefnogi a darparu gwasanaethau di-dor i blant a phobl ifanc drwy ymgysylltu ar draws asiantaethau.
- Cefnogi’r rhwydwaith i ddatblygu a chyflwyno rhaglen cymorth diogelwch iechyd meddwl ac anabledd dysgu.
- Darparu rhaglenni gofal sylfaenol a chymunedol sy’n cefnogi gwasanaeth nyrsio cymunedol sy’n cael ei sbarduno gan ddata.
- Darparu’r adolygiad proffesiynol o safonau gwasanaethau a nyrsio a bydwreigiaeth.
5. Tegwch Proffesiynol a Chydraddoldeb Gofal Iechyd
Ein huchelgais
Ein huchelgais yw Cymru sy’n gyfartal ac yn deg lle dylai ein gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth adlewyrchu’r poblogaethau yr ydym yn eu gwasanaethu a lle mae nyrsys a bydwragedd yn taflu goleuni ar yr anghydraddoldebau sy’n llesteirio bywydau ein cymunedau amrywiol ac yn mynd i’r afael â nhw.
Pam mae hyn yn bwysig?
Bydd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gyfartal ac ni fyddwn yn derbyn unrhyw fath o wahaniaethu nac anghydraddoldeb i weithwyr neu gleifion. Mae’n hanfodol bwysig bod yr ethos hwn yn rhan annatod o bob rhan o’r system i feithrin y gwaith o ddarparu gofal teg i boblogaeth gyfan Cymru, waeth beth fo’r gwahaniaethau diwylliannol neu ethnig; gan sicrhau bod cleifion yn derbyn gwasanaethau yn yr iaith o’u dewis.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy
leihau’r bwlch iechyd a lles, gan leihau anghydraddoldebau a gwella iechyd drwy ymyrraeth wedi’i thargedu drwy:-
Iechyd Menywod
- Dylanwadu ar y cyfeiriad ar gyfer iechyd menywod er mwyn lleihau anghydraddoldebau.
Cryfhau’r cysylltiad rhwng nyrsys a bydwragedd o leiafrifoedd ethnig
- Datblygu addysg ac arweinyddiaeth bwrpasol ar gyfer darpar arweinwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Byddwn yn lansio rhaglen Noddwr Tegwch broffesiynol erbyn 2023.
- Cefnogi rhwydweithiau cenedlaethol ar gyfer nyrsys a bydwragedd o leiafrifoedd ethnig sy’n cysylltu â’r Prif Swyddog Nyrsio erbyn 2022; e.e. Cymdeithas Nyrsys o’r Philipinau, Cymdeithas Nyrsys Indiaidd Prydain.
- Cyflawni camau gweithredu iechyd ar gyfer Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol Cymru (y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol gynt) 2021.
- Cefnogi Fframwaith Proffesiynol ar gyfer mentora o chwith.
Gwella’r cydbwysedd rhwng y rhywiau o fewn nyrsio
- Codi proffil nyrsio fel proffesiwn ar gyfer pob rhywedd a gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ddenu mwy o ddynion i’r proffesiwn.
Codi ymwybyddiaeth o’r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig
- Dylanwadu a chefnogi datblygiad Safon Cydraddoldeb Hiliol y Gweithlu fel rhan o gamau gweithredu iechyd Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru a gweithio gyda chydweithwyr AD i ddefnyddio’r data’n ystyrlon i gefnogi’r gweithlu lleiafrifoedd ethnig i swyddi uwch.
- Dylanwadu ar ddatblygu polisi er mwyn ystyried yr angen a mynd i’r afael â’r rhai â nodweddion gwarchodedig.
- Deall y sefyllfa bresennol o fewn iechyd y boblogaeth o ran pobl â nodweddion gwarchodedig. Mae hyn yn cynnwys y profiad byw sy’n llawn mor bwysig â ffynonellau tystiolaeth eraill er mwyn sicrhau bod data’n cael ei ddefnyddio’n briodol i lywio polisi.
Darparu gwasanaethau iechyd mewn gwlad ddwyieithog
- Dylanwadu ar y diwylliant hwnnw, sef bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd ac arweinyddiaeth ar bob lefel i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r camau gweithredu yn y cynllun gweithredu Mwy na geiriau ac ymgorffori’r camau gweithredu yn enwedig ar gyfer grwpiau agored i niwed/gwasanaethau blaenoriaeth i wella profiad y claf.
- Ceisio tystiolaeth gan rwydweithiau clinigol sy’n dangos dysgu a rhannu arferion gorau am ofal dwyieithog ar draws gwasanaethau a chymunedau.
Galluogwyr
- Technoleg ddigidol.
- Cyd-lywodraethu i ysgogi gwell ymgysylltiad.
- Dylanwad proffesiynol a chydweithio.
- Gweithio mewn partneriaeth allanol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
- Alinio’n gryf â pholisi a strategaeth o Lywodraeth Cymru i’r GIG.